Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bara Beunyddiol

Stori George Müller (1805–1898)

gan Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Adroddwch stori George Müller, a meddyliwch am y ffordd y gwnaeth ddibynnu ar Dduw i ddarparu ei anghenion

Paratoad a Deunyddiau

  • Ar gyfer rhan 1, fe fydd arnoch chi angen: 
    dwy dafell o fara
    gwydraid o lefrith/ llaeth 
    dwy gyllell (heb fod yn finiog) 
    dau blât 
    (dewisol) cerddoriaeth gefndir 
    (dewisol) gwobrau bach.
  • Ar gyfer rhan 2, fe fydd arnoch chi angen llun o George Müller (edrychwch ar http://www.christbiblechurch.org/george_muller_photo_gallery.htm).

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch am ddau wirfoddolwr. Rhowch i'r naill wirfoddolwr a'r llall gyllell, plât a thafell o fara.

    Rhowch funud o amser iddyn nhw dorri siâp bod dynol o'r bara.

    Chwaraewch ychydig o gerddoriaeth yn y cefndir (opsiynol).

    Ar ddiwedd y munud, dewiswch y siâp gorau. Rhowch wobrau.

  2. Dangoswch lun o George Müller.

    Dywedwch wrth y disgyblion fod gan y dyn hwn rywbeth i'w wneud â bara, llefrith/ llaeth, a phobl.

    Dywedwch wrth y plant nad oedd George yn sant pan oedd yn ifanc. Fel bachgen oedd yn cael ei fagu yn yr Almaen ym mlynyddoedd cynnar yr 1800au, roedd yn aml yn dwyn arian oddi ar ei dad. Pan oedd yn llanc, fe sleifiodd ddwywaith allan o westy heb dalu am yr ystafell. Unwaith, fe gafodd ei ddal gan yr heddlu a'i roi yn y carchar.

    Pan oedd yn astudio'r Beibl mewn coleg, roedd George yn hoff iawn o fynd i'r tafarnau, yfed, gamblo, a bod yn llawn bywyd mewn parti. Roedd yn hoff iawn o gael hwyl am ben pobl, yn enwedig Cristnogion.

    Ond fe newidiodd ei fywyd, ar ôl iddo astudio'r Beibl, pan benderfynodd ddilyn Iesu. Cafodd ei argyhoeddi fod Duw yn ei alw i edrych ar ôl plant amddifad a phlant oedd yn byw mewn tlodi.

    Fe symudodd o'r Almaen i Fryste, lle gwnaeth ef a'i wraig droi eu cartref yn gartref i 30 o enethod. Erbyn 1870, 34 o flynyddoedd yn ddiweddarach, fe agorodd pump o gartrefi i blant amddifad ym Mryste, oedd yn gofalu am 1,722 o blant. Erbyn diwedd ei fywyd roedd wedi darparu cartref ar gyfer 10,024 o blant. Fe wnaeth yn siwr bod ei gartrefi yn cael eu gweinyddu i safon uchel a phenododd arolygydd i ymweld â'r cartrefi i sicrhau bod y plant yn derbyn gofal da.

    Roedd yn credu bod addysg yn bwysig iawn. Yn ystod ei fywyd fe sefydlodd 117 o ysgolion, a chynnig addysg Gristnogol i dros 120,000 o blant.

    Yr hyn sy'n rhyfeddol yw ei fod wedi gwneud y cyfan a wnaeth heb ofyn i neb am unrhyw arian. Pan oedd wir angen rhywbeth, byddai'n gweddïo ar Dduw ac yn aros i Dduw ei ddarparu.

  3. (Dywedwch y stori hon am y llefrith/llaeth, y bara a'r bobl.)

    ‘Mae'r plant wedi eu gwisgo ac yn barod i fynd i'r ysgol. Ond does dim bwyd iddyn nhw i'w fwyta,’ dywedodd meistres y cartref i'r amddifaid wrth George Müller.

    Fe ddywedodd George, ‘Ewch â phob un o'r 300 i'r ystafell fwyta a dywedwch wrthyn nhw am eistedd wrth y byrddau.’ Fe ddiolchodd i Dduw am y bwyd yr oedden nhw ar fin ei fwyta, ac fe arhosodd. Fe wyddai George y byddai Duw yn darparu bwyd ar gyfer y plant, fel yr oedd yn ei wneud bob amser. 

    O fewn munudau, curodd pobydd ar y drws. ‘Mr Müller,’ meddai, ‘neithiwr doeddwn i ddim yn gallu cysgu. Rywfodd, roeddwn yn gwybod y byddech chi angen bara bore heddiw. Mi wnes i godi a chrasu tri phobiad ar eich cyfer. Fe ddof â’r bara i mewn.’

    Yn fuan ar ôl hynny daeth curiad arall ar y drws.  Y dyn llefrith/ llaeth oedd yno. Roedd ei gert wedi torri o flaen y cartref i'r plant amddifad.

    Fe ddywedodd y dyn llefrith/ llaeth, ‘Fe fydd y llefrith/ llaeth wedi suro erbyn y bydd yr olwyn wedi cael ei thrwsio. A hoffech chi gael rhywfaint o lefrith/ llaeth am ddim?’ Fe ddaeth â deg o ganiau mawr o lefrith/ llaeth i mewn. Roedd hynny'n union ddigon ar gyfer 300 o blant sychedig.

Amser i feddwl

Roedd George Müller yn ymddiried yn Nuw am y cyfan roedd arno’i angen, ac fe helpodd gannoedd o filoedd o bobl, oedolion yn ogystal â phlant.

Ydi hi’n bosib i ni ymddiried yn Nuw am y cyfan rydyn ni ei angen?

Dydi hynny ddim yn golygu y gallwn ni eistedd i lawr a gwneud dim, mae’n golygu gweddïo ar Dduw, a galw am ei help pan fydd gennym ni broblem, ac ymddiried y bydd Duw gyda ni wrth i ni fyw ein bywyd o ddydd i ddydd, gan geisio ein gorau i wneud yr hyn y mae Duw’n dymuno i ni ei wneud.

Gweddi

Arglwydd Dduw,

diolch dy fod ti’n ein caru ni.

Helpa ni i ymddiried ynot ti am y pethau mawr

ac am y pethau bach.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon