Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sant Ffransis

Yr eco-sant cyntaf?

gan Laurence Chilcott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i ddysgu am Sant Ffransis, a gwerthfawrogi bod Ffransis yn meddwl am ein perthynas â’r amgylchedd ymhell cyn yr ymwybyddiaeth

sydd wedi datblygu yn y blynyddoedd diwethaf.

Paratoad a Deunyddiau

  • Cafodd Sant Ffransis ei eni yn y flwyddyn 1181 neu 1182, ac fe fu farw yn y flwyddyn 1226, yn 44 oed. Ef oedd sylfaenydd yr Urdd o frodyr Ffransisgaidd. Caiff dydd ei wyl ei gynnal ar 4 Hydref.
  • Dangoswch ddelweddau o luniau neu gerfluniau o Sant Ffransis, sy’n aml yn cael ei ddarlunio yng nghwmni anifeiliaid neu adar. Ochr yn ochr, dangoswch ‘Faner Werdd’ eich ysgol neu unrhyw dystysgrif neu wobr amgylcheddol arall.

Gwasanaeth

  1. Erbyn diwedd y gwasanaeth hwn fe fyddwch chi’n gallu gweld cysylltiad rhwng dyn a oedd yn byw 700 mlynedd yn ôl ag ymdrech eich ysgol i geisio arbed ynni ac i ofalu am yr amgylchedd.

  2. Dim ond yn y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi dechrau sylweddoli bod angen i ni ofalu am ein byd, er mwyn i’r bobl fydd yn byw yma ar ein hôl ni allu ei fwynhau hefyd. Fydd ein hadnoddau naturiol (er enghraifft glo, olew, a nwy) ddim yn para am byth, ac fe wyddom fod yn rhaid i ni leihau ein gwastraff ac ail ddefnyddio neu ail gylchu beth bynnag sy’n bosib. 

    Mae gwyddonwyr yn gweithio’n galed i ddatblygu ffyrdd mwy effeithiol o gynhyrchu’r ynni sydd mor hanfodol i’n ffatrïoedd, ar gyfer trafnidiaeth, ac i oleuo a gwresogi ein cartrefi.

    Mae’n bosib defnyddio pwer y gwynt, ynni’r haul, a grym dwr i ddarparu ynni. Caiff y rhain eu galw’n ffynonellau adnewyddadwy o ynni oherwydd ei bod hi’n bosib eu defnyddio drosodd a throsodd, ac nid yw’r ffynhonnell yn dod i ben.

    Mae ysgolion wedi dod yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd, ac mae sawl ysgol wedi gweithio i ennill gwobrau fel Gwobr y Faner Werdd neu wobrau amgylcheddol eraill. Yn aml, fe fydd plant wedi helpu eu rhieni i ddysgu sut i arbed ynni a lleihau gwastraff.

  3. Roedd Sant Ffransis, a oedd yn byw dros 700 mlynedd yn ôl, yn credu ei bod hi’n ddyletswydd ar bob un ohonom i warchod ein byd a gofalu am yr holl greaduriaid sy’n byw ynddo. Roedd Sant Ffransis yn meddwl am gadwraeth a chynaladwyedd ymhell cyn i ni heddiw sylweddoli pa mor bwysig yw hynny. Felly, nid yw’n syndod mai ef yw nawddsant yr anifeiliaid a’r amgylchedd.

  4. Ffransis yn ddyn ifanc

    Pan oedd Ffransis yn ddyn ifanc, doedd ganddo ddim llawer o amser i bryderu am yr amgylchedd – roedd yn rhy brysur yn mwynhau ei hun. Roedd yn dod o deulu cyfoethog ac fe fyddai’n gwneud y gorau o’r adegau da yr oedd arian ei deulu’n gallu ei brynu iddo. Roedd yn hoffi chwaraeon, gwisgai ddilladau ffasiynol ei oes, ac fe fyddai’n mwynhau gwledda gyda’i ffrindiau, yn bwyta’r bwydydd gorau ac yn yfed y gwinoedd gorau.

    Pan oedd yn ei ugeiniau cynnar, fe ddechreuodd yrfa fel milwr, ond wnaeth pethau ddim mynd yn dda iawn iddo – cafodd ei ddal yn garcharor rhyfel am flwyddyn. 

    Tua’r adeg honno, naill ai yn ystod y cyfnod y bu yn y carchar, neu’n fuan wedyn, fe aeth yn wael iawn. Fe ddechreuodd sylweddoli pa mor wag oedd ei fywyd, ac fe ddechreuodd deimlo’n anfodlon gyda’r ffordd yr oedd arian wedi dod yn beth mor bwysig yn ei fywyd. Fe ddechreuodd feddwl am yr hyn y byddai’n ei wneud â’i fywyd. 

    Cychwynnodd eto i ryfel, ond ar alwad Duw, fe drodd yn ei ôl yn sydyn er gwaetha’r ffaith y byddai pobl o bosib yn ei alw’n llwfrgi. Penderfynodd wasanaethu Duw mewn unrhyw ffordd y gallai. 

  5. Ffransis y pregethwr crwydrol

    Dechreuodd Ffransis adfer eglwysi a oedd wedi adfeilio. Roedd hefyd yn helpu’r bobl sâl a thlawd. Treuliai lawer o amser yn cerdded mewn llefydd unig yn gweddïo y byddai Duw’n dangos iddo sut y gallai ei wasanaethu yn y ffordd orau.

    Ymhen amser, fe sylweddolodd bod ei gyfoeth yn ei ddal yn ôl rhag gwasanaethu Duw yn iawn, felly fe benderfynodd Ffransis gael gwared â’i holl eiddo a’i holl arian.

    Roedd tad Ffransis yn ddig iawn wrtho am benderfynu gwneud hynny a cheisiodd ei berswadio ei fod yn gwneud camgymeriad mwyaf ei fywyd. Roedd ei ffrindiau’n gwneud hwyl am ei ben hefyd ac yn tybio bod Ffransis wedi colli ei bwyll. Ond roedd wedi penderfynu, a doedd neb yn gallu gwneud iddo newid ei feddwl.

    Gan wisgo clogyn bras, ac yn droednoeth, fe gerddai o le i le yn dweud wrth y bobl am gariad Duw ac am ei faddeuant.

  6. Y Brodyr Ffransisgaidd

    Ar ôl teithio’r wlad ar ben ei hun am rai blynyddoedd fe ddaeth dynion eraill i ymuno ag ef a’i helpu gyda’i waith yn pregethu am Dduw. Roedden nhw’n byw mewn ty gwag yn ymyl tref enedigol Ffransis, sef Assisi, yn yr Eidal. 

    Fe alwai Ffransis y rhai hynny oedd wedi ymuno ag ef yn ‘frodyr’ ac fe osododd un rheol s yml iddyn nhw, sef ‘Dilynwch Iesu a cherddwch yn olion ei draed.’

    Yn y dyddiau hynny, fe fyddai angen i chi gael trwydded gan y Pab yn Rhufain os oeddech chi eisiau pregethu. Felly fe aeth Ffransis a’i ‘frodyr’ cyntaf i Rufain, fe gafodd drwydded, a dyna sut y cafodd yr Urdd Ffransisgaidd ei chydnabod yn swyddogol. 

    Ymunodd mwy a mwy o bobl yr Urdd Ffransisgaidd ac roedd angen mwy o drefniadaeth, ond fe barhaodd un peth i fod yn bwysicach na dim – doedd neb ohonyn nhw’n cadw unrhyw arian nac eiddo iddyn nhw’u hunain. Credai Ffransis y byddai arian ac eiddo’n rhwystro pobl rhag addoli Duw, oherwydd weithiau dyna’r cyfan yr oedd rhai pobl yn meddwl amdano. 

  7. Anifeiliaid ym myd natur

    Roedd parchu anifeiliaid a byd natur yn bwysig iawn yng ngolwg Ffransis. Mae sôn bod ganddo ffordd arbennig gydag anifeiliaid, oedd yn ymddangos yn ddi-ofn yn ei gwmni. Dywedwyd ei fod hyd yn oed wedi bod yn pregethu i’r adar o’i gwmpas wrth iddo gerdded trwy’r coed.

    Mae stori arall sy’n sôn amdano’n siarad â blaidd oedd wedi bod yn lladd anifeiliaid a hyd yn oed wedi bod yn ymosod ar bobl mewn pentref neilltuol. Eisteddodd y blaidd wrth draed Ffransis, ac fe rybuddiodd Ffransis ef y dylai roi’r gorau i ymosod ar bobl fel hyn a byw’n heddychlon yn eu mysg. Arweiniodd Ffransis y blaidd i’r pentref er mwyn gwneud cytundeb rhwng y blaidd a’r bobl. Pe byddai’r bobl yn bwydo’r blaidd, fyddai’r blaidd wedyn ddim yn ymosod arnyn nhw - a dyna’n union beth ddigwyddodd.

  8. Mae rhai pobl hyd heddiw’n dal i berthyn i’r Urdd Ffransisgaidd ac yn dal i ddilyn rheolau ac athrawiaethau Sant Ffransis. Yn aml, fe fyddan nhw’n byw mewn grwpiau bach, yn helpu pobl sydd mewn angen. Maen nhw bob amser yn ceisio codi ymwybyddiaeth pobl am yr amgylchedd, ac ynghylch pa mor bwysig yw hi i ni ofalu am ein byd a phob peth byw.

    Roedd Sant Ffransis o flaen ei amser mewn sawl ffordd. Ef ddylai fod y sant cyntaf i ennill ar Faner Werdd ei hun!

Amser i feddwl

Rydyn ni i gyd yn meddwl am ailgylchu ac arbed ynni, ond beth allwn ni ei wneud i helpu anifeiliaid a chreaduriaid bach?

Fe roddodd Sant Ffransis y gorau i fod â diddordeb mewn arian ac eiddo. Pa bethau rydyn ni’n eu mwynhau sydd ddim yn bosibl eu prynu ag arian?

Gweddi
Arglwydd Dduw, 
rydyn ni’n diolch i ti am ein byd.
Helpa ni i ofalu amdano,
fel y bydd yn bosibl i’r rhai sy’n dod ar ein hôl ni ei fwynhau hefyd. 

 

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon