Rheoli Gwrthdaro A Chweryl
gan Manon Ceridwen Parry
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Helpu’r plant i feddwl am sut i reoli gwrthdaro.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe allech chi ddefnyddio lluniau neu ddelweddau (neu deganau meddal) i gyfleu’r gwahanol enghreifftiau o wrthdaro yma.
- Os hoffech chi, fe allech chi gyflwyno rhai geiriau allweddol ar PowerPoint. Fe fyddai’r rhain yn ddefnyddiol, ond dim rhaid eu cael.
Gwasanaeth
- Pa fath o anifail ydych chi? Ai arth tedi, tylluan, llwynog, crwban y môr neu siarc?
Am beth yn y byd rydw i’n sôn? Wel, mae'n debyg, pan fyddwn ni’n cweryla â rhywun, fe fyddwn ni’n gwneud hynny mewn gwahanol ffyrdd gyda gwahanol bobl. Fe geisia i egluro.
Meddyliwch am foment beth fyddwch chi’n ei wneud pan fyddwch chi’n cweryla gyda’ch brawd neu eich chwaer, neu gydag un o’ch ffrindiau. Fyddwch chi’n anwybyddu’r sefyllfa, neu a fyddwch chi’n mynd yn ddig ac yn teimlo fel taro’n ôl? Neu, a fyddwch chi’n ceisio trafod y broblem? - Felly, ydych chi’n un o’r anifeiliaid hyn? (Cyflwynwch bob un o’r anifeiliaid yn eu tro, fesul un, gan oedi rhwng pob un er mwyn rhoi cyfle i’r plant feddwl. Yn dibynnu ar yr ysgol, fe allech chi rannu’r plant yn grwpiau o ddau neu dri er mwyn iddyn nhw drafod pa anifail y maen nhw’n meddwl ydyn nhw.)
- Mae arth tedi’n bob amser yn ildio i bobl eraill.
- Mae’r dylluan yn gweithio gyda phobl eraill i geisio datrys y broblem a dod o hyd i’r ateb sy’n gwneud pawb yn hapus.
- Mae’r llwynog yn annog pawb i ildio ychydig bach, mewn geiriau eraill cyfaddawdu.
- Mae crwban y môr yn osgoi dadleuon, hyd yn oed pan fydd ef ei hun yn iawn.
- Mae’r siarc eisiau ennill, waeth beth fydd y gost - ac nid yw’n poeni beth fydd yn rhaid iddo’i wneud, nac yn poeni ychwaith am frifo teimladau pobl eraill. - Fe allen ni ddweud ei bod hi’n bwysig peidio â ffraeo ag eraill, i fod yn ffrindiau bob amser, a pheidio â chweryla. Ond mewn gwirionedd, weithiau, yr hyn sydd bwysicaf yw sut rydyn ni’n cweryla. Mae dysgu sut i ddadlau gyda phobl eraill yn y ffordd iawn yn rhan bwysig o dyfu i fyny ac o chwarae ein rhan yn ein byd.
Er enghraifft, mae ffrind yn yr ysgol yn dwyn pensil ffrind arall. Fyddwn ni’n dweud dim ac yn ceisio cadw’r heddwch? Na. Ond fe fyddai arth tedi’n gwneud hynny. Mae tedis bob amser yn ildio. Fe fyddai crwban y môr yn anwybyddu’r peth ac yn anwybyddu’r ffaith bod yno broblem yn y lle cyntaf. Ac fe fyddai’r siarc yn mynd yno ar ei union ac yn taro’r ffrind oedd wedi dwyn y pensil ac yn rhoi’r pensil yn ôl i’r llall.
Mae’n amlwg nad yw un o’r darluniau hyn yn iawn. Mae angen i ni fod yn dylluan neu’n llwynog. Fe fyddai’r dylluan wedi cael pawb i siarad gyda’i gilydd er mwyn datrys y broblem, ac fe fyddai’r llwynog wedi cael pawb i ildio rhywfaint, wedi cael y pensil yn ôl, ac efallai wedi gallu perswadio’r ffrind i roi benthyg y pensil i’r llall am ychydig. - Mae pawb, o dro i dro, yn gallu teimlo ychydig yn ddig am bethau sy’n digwydd, neu’n teimlo fel cweryla gyda rhywun am rywbeth. Mae hyd yn oed oedolion yn ei chael hi’n anodd bod yn hapus gyda phawb arall bob amser. Y peth pwysig yw dod o hyd i ffordd o ddelio â’r cweryl a dod o hyd i ffordd o ddatrys y broblem.
Allwn ni ddim anwybyddu’r ffordd rydyn ni’n teimlo, a ddylen ni ddim anwybyddu rhywun sy’n ymddwyn yn wael ychwaith - fel y ffrind oedd wedi dwyn pensil y ffrind arall. Ond, os dysgwn ni sut i siarad â phobl eraill am sut rydyn ni’n teimlo yn hytrach nag anwybyddu’r cyfan, neu bwdu, neu wneud hyd yn oed rywbeth gwaeth fel taro’n ôl a dweud pethau cas, fe fyddwn ni wedi dysgu rhywbeth a fydd yn fuddiol iawn ar gyfer ein bywyd cyfan. - Felly, gadewch i ni fod yn dylluanod neu’n llwynogod – a siarad am yr hyn sy’n ein gwneud ni’n ddig neu’n gwneud i ni ofidio, ildio ychydig bach, a gofalu bod pobl eraill yn hapus yn ogystal â ni ein hunain.
Amser i feddwl
Meddyliwch am adeg pan wnaethoch chi gweryla ag un o’ch ffrindiau neu aelod o’ch teulu. Beth allech chi fod wedi’i wneud yn wahanol a fyddai wedi gallu gwella’r sefyllfa?
Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2012 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.