Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Angylion Yn Gwlio Drosof Fi

Ystyried y ffaith bod Duw’n gofalu trosom trwy gyfrwng angylion.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Ystyried y ffaith bod Duw’n gofalu trosom trwy gyfrwng angylion.

Paratoad a Deunyddiau

  • Tegan meddal, oen bach neu ddafad (dewisol).
  • Paratowch eich cyflwyniad o ‘Stori’r bugeiliaid’ (gwelwch rhif 3).
  • Mae’r stori am y bugeiliaid i’w chael yn Efengyl Luc 2.8–16, yn y Beibl, neu mewn fersiynau eraill o storïau’r Beibl ar gyfer plant.
  • Mae’r cyfeiriad Beiblaidd am angylion gwarcheidiol i’w gael yn Efengyl Mathew 18.10 (gwelwch rhif 5).
  • Daw’r gair ‘angel’ o’r gair Groegaidd angelus, sy’n golygu ‘negesydd’.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy sgwrsio gyda’r plant am fynd i’r gwely ar noson oer yn y gaeaf. 

    Pwy sy’n gwisgo gwisg nos gynnes, yn defnyddio potel ddwr poeth neu flanced drydan, neu’n hoffi swatio dan duvet trwchus?

    Pwy sy’n hoffi gwrando ar swn y gwynt yn chwyrlio o amgylch y ty a gwrando ar swn y glaw yn pitran patran ar y ffenestr? 

  2. Eglurwch fod swyddi gan rai pobl sy’n golygu eu bod yn gorfod gweithio yn ystod oriau’r nos.  Pan fydd hi’n amser i ni fynd i’r gwely, mae’n amser iddyn nhw roi eu cotiau amdanyn nhw er mwyn mynd allan i weithio.

    Trafodwch y math o waith y bydd gweithwyr sy’n gweithio dros nos yn debygol o fod yn ei wneud. 

  3. Paratowch yr olygfa ar gyfer stori’r bugeiliaid.

    Amser maith yn ôl, ar y bryniau uwchben tref o’r enw Bethlehem, roedd yno nifer o weithwyr nos yn eistedd o gwmpas y tân er mwyn cadw’n gynnes. Bugeiliaid oedden nhw. Eu gwaith oedd cadw’r defaid a’r wyn yn ddiogel yn ystod oriau’r nos.  Roedd yn rhaid iddyn nhw eu casglu at ei gilydd ar ôl i’r anifeiliaid dreulio’r diwrnod yn pori’r glaswellt ar y bryniau. Roedd yn rhaid iddyn nhw eu cyfrif er mwyn gwneud yn siwr nad oedd yr un o’r defaid ar goll.

    Bob nos, fe fyddai’r bugeiliaid yn casglu’r defaid i gorlan gron o gerrig er mwyn eu cadw’n ddiogel rhag yr anifeiliaid gwyllt a fyddai’n hoffi gwneud pryd ohonyn nhw yn y nos. Lloches heb do iddi yw corlan. Roedd twll yn y wal, fel drws, i’r defaid fynd i mewn i’r gorlan. Ac wedi cael y defaid i gyd i mewn i’r gorlan, fe fyddai un o’r bugeiliaid yn eistedd neu’n gorwedd wrth y fynedfa i rwystro’r defaid rhag mynd allan a rhwystro’r anifeiliaid gwyllt rhag dod i mewn.

    Byddai’r bugeiliaid yn cynnau tân ac eistedd wrth geg y gorlan fach honno drwy’r nos, yn gwylio. Efallai y byddai rhai ohonyn nhw’n gallu cael ychydig o gwsg tra byddai’r gweddill o’u cyd-weithwyr yn cael diod gynnes a sgwrs. Fe fyddai’n gallu bod yn oer iawn ar y bryniau yn ystod y nos, a byddai’r bugeiliaid yn swatio gyda’u cotiau a’u blancedi’n dynn o gwmpas eu hysgwyddau ac yn closio at y tân i gadw’n gynnes.

    Ar y noson arbennig hon, roedd popeth yn ddistaw fel arfer. Roedd y sêr yn disgleirio. Roedd y defaid yn llonydd ac yn cysgu.  Ond roedd rhywbeth anghyffredin iawn ar fin digwydd.  Roedd rhywbeth yn mynd i newid y byd am byth.

  4. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gwybod beth oedd ar fin digwydd?

    (Darllenwch y stori o’r Beibl - Luc 2.8–16.)
  5. Mae’n debyg y gallwch chi ddychmygu’r cynnwrf ymysg y bugeiliaid. Fe wnaethon nhw godi ar eu traed mewn syndod, ac wedyn lapio’u cotiau’n dyn amdanyn nhw. Ar ôl gofalu bod y tân yn iawn, fe wnaethon nhw ddechrau rhedeg i lawr y bryn tuag at Bethlehem.

    Ond arhoswch funud! Wnaethon nhw ddim anghofio rhywbeth? Beth am y defaid? 

    Pwy oedd yn mynd i aros gyda’r defaid?

    Gadewch i’r plant ddefnyddio’u dychymyg a chynnig awgrymiadau.  Nid oes yr un ateb pendant, ond rydyn ni’n mynd i ddod i’r casgliad efallai na fyddai’r un o’r bugeiliaid eisiau colli bod yn dyst i’r enedigaeth hon, a go brin y bydden nhw’n mynd â’r defaid gyda nhw! Ac, o bosib, efallai y bydd un o’r plant yn awgrymu y gallai un o’r angylion aros gyda’r defaid i’w gwarchod.

  6. Fe fyddai hynny’n eich arwain yn daclus i ddatgan bod Cristnogion yn credu mai defaid Duw ydyn ni, a bod Duw yn ein gwarchod ni ac yn rhoi angel gwarcheidiol i bob un ohonom ni i’n hamddiffyn ni.

Amser i feddwl

Amser i feddwl

Meddyliwch am y noson dywyll ar y bryniau.  Meddyliwch am y defaid ar ben eu hunain, heb neb i’w gwarchod. Meddyliwch am yr hyn a allai fod wedi mynd o chwith. 

Yn awr, meddyliwch am y cwmni llawen o angylion.  Fe fydden nhw’n gallu gwneud y gwaith o ofalu am y defaid yn hollol ddidrafferth!

Gweddi

Annwyl Dduw Dad,
Diolch dy fod ti’n fy ngharu i, yn union fel pe byddwn i yn un o’th ddefaid. 
Rwyt ti’n rhoi angel gwarcheidiol i ofalu amdanaf a’m gwarchod nos a dydd. 
Diolch i ti fod y neges am enedigaeth Iesu yn neges i mi hefyd,  

a phe byddwn innau wedi bod yr y bryniau y noson honno

fe fyddet ti wedi fy ngwahodd innau i ddod i lawr i Fethlehem. 
Diolch i ti am wneud yn siwr fy mod innau hefyd yn cael clywed y newydd bendigedig hwn

Cân/cerddoriaeth

Mae’r garol ‘Pan oedd bugeiliaid gyda’u praidd’ i’w chael yn y rhan fwyaf o lyfrau emynau, neu canwch un o hoff garolau plant yr ysgol.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon