Ydych Chi'n Barod?
Yr Adfent
gan Rebecca Parkinson
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Annog y plant i ddefnyddio tymor yr Adfent i baratoi eu hunain ar gyfer y Nadolig.
Paratoad a Deunyddiau
- Eleni, mae Sul cyntaf yr Adfent ar 2 Rhagfyr.
- Mae’n bosib cyflwyno’r gwasanaeth yma heb unrhyw brops – bydd y plant yn gallu defnyddio’u dychymyg. Ond fe allwch chi ddefnyddio’r eitemau canlynol, os hoffech chi. Fe allan nhw gyfleu dimensiwn ychwanegol os byddwch chi’n eu dangos wrth i’r plant awgrymu’r pethau hyn. Cadwch yr eitemau o’r golwg ar y dechrau, er enghraifft y tu ôl i sgrin, nes bydd y plant yn eu henwi.
– Eitemau y byddech chi’n mynd â nhw gyda chi wrth i chi fynd am y diwrnod i lan y môr: tywel, arian, bwced a rhaw fach, eli haul.
– Eitemau y byddech chi’n mynd â nhw gyda chi wrth i chi fynd i gysgu noson yn nhy eich ffrind (mynd am sleepover): pyjamas, set o ddillad glân i newid, brwsh dannedd, clustog, sach gysgu, ac ati.
– Cyllell, fforc a phlât. - Yn y gwasanaeth hwn, fe fyddwch chi’n darlunio tair sefyllfa, ac yn siarad â’r plant wrth i chi wneud hynny. Ym mhob sefyllfa, fe fyddwch chi’n dychmygu cyrraedd rhywle neilltuol ac yn sylweddoli na allwch chi fwynhau eich hun am nad ydych chi wedi paratoi. Fe fyddwch chi wedyn yn gofyn i’r plant awgrymu sut y gallech chi fod wedi paratoi’n well.
- Fe allech chi ofyn i wahanol athrawon neu blant actio’r sefyllfaoedd os hoffech chi drefnu hynny.
Gwasanaeth
- Dywedwch wrth y plant eich bod yn mynd am drip i lan y môr. Actiwch eich bod wedi cyrraedd y traeth; rydych chi’n edrych ar y môr’ edrychwch ar y tywod, rydych chi’n gweld y fan hufen iâ.
Nawr, edrychwch ar ddwr y môr eto, a dywedwch wrth y plant na allwch fynd i mewn i’r dwr yn eich dillad. Eglurwch nad yw hynny o bwys mawr, gan eich bod chi’n meddwl y gallwch chi o leiaf chwarae yn y tywod. Dywedwch pa mor siomedig ydych chi na wnaethoch chi ddod â bwced a rhaw fach na dim byd felly gyda chi i chwarae yn y tywod. O, wel, fe allwch chi gael hufen iâ. O, na! Dywedwch pa mor siomedig ydych chi na wnaethoch chi ddod ag arian gyda chi i brynu hufen iâ. Gorau yn y byd faint o fynegiant a rowch chi i’ch cyflwyniad - ceisiwch fod yn llawn cyffro, ac yna’n siomedig iawn bob tro rydych hi’n sylweddoli na wnaethoch chi baratoi ar gyfer eich ymweliad.
Os ydych chi angen sgript, fe allai fod yn debyg i’r hyn sy’n dilyn:
Rydw i mor hapus! Rydw i wedi dod am y diwrnod i lan y môr. O! Rydw i wrth fy modd ar y traeth. Edrychwch, draw acw mae’r môr. Mae’n ddiwrnod braf, alla i ddim aros nes caf fi fynd i mewn i ddwr y môr, a chael neidio yn y tonnau. (Edrychwch i lawr ar y tywod.) Rydw i wrth fy modd yn teimlo’r tywod cynnes rhwng bodiau fy nhraed, a’r tro diwethaf y bûm i ar lan y môr fe wnes i adeiladu’r castell tywod mwyaf welsoch chi erioed! O, edrychwch! Dacw’r fan hufen iâ. Unwaith y bydda i wedi bod yn y dwr ac wedi adeiladu castell tywod, fe wna i brynu hufen iâ mawr gyda fflêc siocled ynddo. Felly, i ffwrdd â fi . . . nofio’n gyntaf! O, na! Wnes i anghofio dod â fy ngwisg nofio . . . beth alla i ei wisgo? (Edrychwch yn siomedig.)
O wel, os na alla i fynd i nofio, o leiaf fe alla i adeiladu castell tywod . . . O na! Dydw i ddim wedi dod â bwced a rhaw efo fi. A dweud y gwir, dydw i ddim wedi dod ag unrhyw beth efo fi i chwarae yn y tywod.
O wel, o leiaf fe alla i gael hufen iâ. (Chwiliwch yn eich pocedi.) O diar! Rydw i wedi anghofio dod ag arian i’w wario. Mae’n amlwg na fydda i’n gallu cael hufen iâ ychwaith! Wel, am ddiwrnod diflas! Dyna siom! - Dilynwch yr un patrwm gyda’r stori eich bod yn mynd i aros dros nos at ffrind (mynd am sleepover), ond rydych chi wedi anghofio popeth fyddwch chi ei angen – dim brwsh dannedd (fe fydd blas drwg yn eich ceg); dim pyjamas (fe fyddwch chi’n oer); dim clustog (fe fyddwch chi’n anghyfforddus); dim sach gysgu (fe fyddwch chi’n oer ac yn anghyfforddus).
- Nawr, ewch trwy’r un math o stori ynghylch bwyta pryd o fwyd. Mae gennych chi blât, cyllell a fforc, ond rydych chi wedi anghofio prynu unrhyw beth i’w fwyta. Ceisiwch greu’r awyrgylch trwy ddweud eich bod eisiau bwyd yn ofnadwy, a disgrifio’r math o fwyd yr hoffech chi ei gael i’w fwyta. Mynegwch eich siom y byddwch chi, oherwydd hynny, yn parhau i deimlo’n llwglyd!
- Dewisol - ewch dros bob sefyllfa eto, a gofynnwch i’r plant pa baratoadau y dylech chi fod wedi’u gwneud. Pa bethau y dylech chi fod wedi dod â nhw gyda chi? Wrth i’r plant awgrymu enwau pob eitem, dewch a’r eitemau i’r golwg a gofynnwch i’r plentyn a awgrymodd yr eitem ddod ymlaen atoch chi i ddal y peth hwnnw.
- Eglurwch fod y cyfnod o bedair wythnos cyn y Nadolig yn cael ei alw’n gyfnod yr Adfent. Mae’r Adfent yn amser arbennig i Gristnogion. Mae’r cyfnod hwn o bedair wythnos yn gyfle i ni baratoi ein hunain ar gyfer y Nadolig. Ac mae hynny, nid yn unig yn golygu cael partïon, gosod addurniadau a phrynu anrhegion, mae’n golygu paratoi ein calon ar gyfer neges y Nadolig.
Mae Cristnogion yn credu bod Duw wedi anfon Iesu i’r byd ar adeg y Nadolig i gynnig heddwch i ni ac i ddangos i’r byd faint mae’n ein caru ni. Wrth i ni nesáu at y Nadolig, mae’n bwysig ein bod yn oedi ac yn meddwl am fyw’n heddychlon gyda’r bobl sydd o’n cwmpas, a’u caru. Mae’n bwysig bod yn barod ar y tu mewn i ni ein hunain, yn ein meddwl ac yn y ffordd rydyn ni’n teimlo, er mwyn dathlu rhyfeddod y Nadolig.
Amser i feddwl
Gadewch i ni feddwl ydyn ni mewn heddwch gyda’r rhai sydd o’n cwmpas ni.
Ydyn ni wedi cweryla, ac wedi brifo teimladau pobl eraill, ac ar yr un pryd wedi peri gofid i ni ein hunain?
Ydyn ni wedi gwneud i unrhyw un deimlo’n drist?
Ydyn ni wedi gwneud rhywbeth y dylen ni ddweud ei bod hi’n ddrwg gennym am ei wneud?
Os mai’r ateb i unrhyw un o’r cwestiynau hyn yw ‘do’, yna mae’r Adfent yn amser da i ddatrys y problemau a gwneud iawn am hynny. Mae’n amser da i ddweud ei bod hi’n ddrwg gennych chi, i fod yn ffrindiau unwaith eto, a chael popeth i’w le fel o’r blaen. Os gwnawn ni hynny, yna fe allwn ni fod yn hollol barod i ddathlu’r Nadolig yn yr ysbryd iawn.
Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch i ti am y Nadolig,
yr adeg y byddwn ni’n dathlu dy rodd werthfawr di i ni, sef dy Fab, Iesu.
Diolch i ti am yr heddwch mae Iesu’n gallu ei roi yn ein calonnau.
Helpa ni i ddefnyddio tymor yr Adfent
i baratoi ein hunain fel y gallwn ni fwynhau’r Nadolig
gan wybod ein bod mewn heddwch gyda’r rhai sydd o’n cwmpas ni.