Craceri'r Nadolig
gan Helen Redfern
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Holi, a yw cael mwy o bethau’n arwain at fwy o hapusrwydd?
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen dwy neu bedair cracer Nadolig draddodiadol, ac un wedi’i gwneud gartref gyda llun y baban Iesu, yn y stabl, y tu mewn iddi.
- Daw’r darlleniad o’r Beibl o Lyfr Eseia 9.6-7.
Gwasanaeth
- Holwch y cwestiwn: At beth rydych chi’n edrych ymlaen fwyaf, y Nadolig yma? (Naill ai gofynnwch i’r plant drafod hyn mewn parau, neu derbyniwch ymateb rhai o’r plant, neu gadewch i’r plant feddwl am hyn eu hunain wrth i chi gynnig yr awgrymiadau canlynol iddyn nhw.)
- yr anrhegion
- y partïon
- yr adegau arbennig gydag aelodau o’r teulu
- y bwyd
- canu caneuon Nadoligaidd
- neu holl gynnwrf a hud y Nadolig.
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn edrych ymlaen at ryw agwedd ar y Nadolig. Mae’r disgwyl (a’r edrych ymlaen) ambell dro yn gymaint o hwyl â’r Nadolig ei hun! - (Gofynnwch i ddau neu bedwar o blant ddod atoch chi i’r tu blaen, a rhowch gracer Nadolig i bob un.)
Holwch y plant sut maen nhw’n teimlo wrth ddal y craceri? (Ceisiwch iddyn nhw awgrymu teimlad o gyffro a theimlad o fod eisiau dyfalu beth sydd ynddyn nhw.)
Ydyn nhw’n awyddus i dynnu’r gracer a chael gweld beth sydd ynddi?
Beth maen nhw’n feddwl fydd y tu mewn?
Nawr, gadewch iddyn nhw eu tynnu (a mwynhau’r hyn fydd i mewn ynddyn nhw!)
Gofynnwch i bob plentyn ddisgrifio’i deimlad ar ôl gweld beth gawson nhw yn y craceri.
Mae tynnu craceri yn hwyl, gan fod y cynnwys bob amser yn syrpreis. Fyddwn ni byth yn gwybod beth sydd ynddyn nhw. Weithiau, fe fyddwn ni wrth ein bodd â’r cynnwys, dro arall fe fyddwn ni’n teimlo’n siomedig. - Gannoedd o flynyddoedd cyn i Iesu gael ei eni, roedd yr Iddewon yn y wlad honno, yn llawn cyffro, yn disgwyl am yr un roedden nhw’n meddwl amdano fel Gwaredwr.
Ar y pryd, yn y wlad honno, doedden y bobl ddim yn cael eu trin yn dda. Roedd gelynion wedi ymosod ar eu gwlad, ac roedd y bobl wedi cael eu hanfon i fyw i wlad arall. Roedd hiraeth ar y bobl, ac roedden nhw eisiau mynd yn ôl i’w gwlad eu hunain. Roedden nhw mewn caethiwed, ac roedden nhw o ddifrif yn dymuno cael bod yn rhydd.
Roedd dyn o’r enw Eseia wedi dweud wrthyn nhw am un a fyddai’n dod i’w gwaredu, a’u cael yn rhydd o’u caethiwed. Fe ddywedodd Eseia:
Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni,
a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd.
Fe’i gelwir, ‘Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn, Tad bythol, Tywysog heddychlon’.
Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth, nac ar ei heddwch i orsedd Dafydd a’i frenhiniaeth, i’w sefydlu’n gadarn â barn a chyfiawnder o hyn a hyd byth.
Bydd sêl Arglwydd y Lluoedd yn gwneud hyn. (Eseia 9.6-7)
Gwych! Plentyn, Duw cadarn! Tywysog Tangnefedd! Heddwch diddiwedd! Dim rhagor o ddioddef, rhyddid wedyn o’r caethiwed! - (Dangoswch y gracer rydych chi wedi’i gwneud gartref – yr un sy’n cynnwys llun o’r baban Iesu yn y stabl.)
Roedd y disgwyl mawr yma bron yn fwy na’r hyn y gallai’r Iddewon ymdopi ag ef! Mil gwaith mwy o gyffro na dal cracer yn eich llaw!
(Yna, gofynnwch i rywun dynnu eich cracer gyda chi, a dangoswch y llun o’r baban Iesu a oedd y tu mewn iddi.)
Dywedwch mai dyma beth oedd yr hyn yr oedd Eseia wedi’i addo i’r bobl flynyddoedd lawer ynghynt. Iesu Grist yn cael ei eni. Wrth gwrs roedd y bobl yn llawn cyffro! - Wel dyna syndod, dyna beth oedd syrpreis! Baban bach yn cael ei eni mewn stabl? Brenin yn cael ei eni mewn lle mor dlawd? I rieni tlawd?
Roedd gwahanol bobl yn ymateb mewn gwahanol ffyrdd i enedigaeth Iesu.
- Fe geisiodd y Brenin Herod ei ladd. Herod oedd yr un a oedd yn frenin ar y wlad pan gafodd Iesu ei eni.
- Roedd llawer o Iddewon yn siomedig, ac yn methu credu mai hwn oedd yr un a oedd wedi cael ei addo iddyn nhw, yr holl flynyddoedd yn ôl. Nid dyna beth oedd yr Iddewon yn ei ddisgwyl o gwbl. Roedden nhw’n dweud pethau fel: ‘Dyna siom! Brenin? Na, dim hwn! Gwaredwr? Mae rhywun yn tynnu coes yma!’
- Ond, roedd pobl eraill yn gwybod fod Duw’n gallu gweithio mewn ffyrdd rhyfeddol. Ac fe ddaethon nhw i addoli’r Brenin bach oedd newydd gael ei eni ym Methlehem.
Amser i feddwl
Hyd heddiw, mae gwahanol bobl yn dal i ymateb i’r Nadolig mewn gwahanol ffyrdd.
Mae rhai pobl wrth eu bodd; eraill ddim yn mwynhau cymaint.
Mae rhai pobl yn edrych ymlaen yn fawr at y Nadolig; mae eraill yn pryderu.
Mae rhai pobl yn gweld y Nadolig yn adeg rhy brysur, gyda gormod i’w wneud; ac mae eraill yn eistedd gartref yn unig.
Mae rhai pobl yn dathlu geni Iesu; eraill ddim yn gwneud hynny.
Gweddi
O Dduw, ein Tad,
Diolch i ti am y Nadolig, ac am bob peth rydyn ni’n edrych ymlaen tuag ato eleni.
Helpa ni i gofio am y rhai sydd ddim yn edrych ymlaen at y Nadolig.
Helpa ni i fod yno ar eu cyfer nhw, fel y gallwn ni eu helpu.
Cân/cerddoriaeth
Canwch eich hoff garol Nadolig.
Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2012 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.