Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Hanukkah

Egluro ystyr yr wyl Hanukkah, a meddwl beth yw ystyr gwyrth i ni heddiw.

gan Manon Ceridwen Parry

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Egluro ystyr yr wyl Hanukkah, a meddwl beth yw ystyr gwyrth i ni heddiw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dathliad Iddewig o oleuadau yw gwyl Hanukkah, sydd yn cael ei chynnal dros wyth diwrnod ym mis Tachwedd neu fid Rhagfyr. Gair Hebraeg sy'n golygu 'cysegriad' yw Hanukkah (neu Chanukah).

    Cafodd yr wyl Hanukkah cyntaf ei dathlu yn y flwyddyn 164 CC, ar y pumed diwrnod ar hugain o'r mis Iddewig Kislev, pan ail-gysegrwyd y Deml i Dduw ar ôl iddi gael ei hadennill oddi wrth y Groegiaid Syriaidd.

    Mae Hanukkah yn digwydd ar yr un adeg bron â'r dathliad Cristnogol, y Nadolig, ond nid oes unrhyw gysylltiad rhwng y naill a'r llall. Yr unig debygrwydd rhwng y ddau ddathliad yw bod goleuni'n brif symbol. Fodd bynnag, mae rhai arferion Nadoligaidd wedi llithro i ddathliadau Hanukkah, yn enwedig ar gyfer Iddewon sy'n byw mewn gwledydd lle mae'r diwylliant yn bennaf Gristnogol.

    Gellir cael hyd i'r stori yn y Beibl yn llyfrau'r Macabeaid yn yr Apocryffa.
  • Dewch â menora, neu ddarlun o menora gyda chi.
  • Byddwch angen wyth o ganhwyllau hud sy'n ailgynnau eu hunain (gellir cael y rhain yn y mwyafrif o siopau sy’n gwerthu nwyddau dathlu pen-blwydd). Fe fyddwch angen trefnu rhyw ffordd o'u gosod i sefyll fel eu bod yn weladwy, ac fe fydd arnoch chi angen dwr mewn jwg (i'w diffodd!).
  • Gellir defnyddio peth o fwydydd arbennig y dathliad fel adnoddau gweledol - latkes (crempog tatws) a thoesenni (er nad yw hyn yn hollol angenrheidiol).

Gwasanaeth

  1. Soniwch am yr wyl a'i gwreiddiau. Mae'r wyl yn dathlu gorchfygiad yr ymerodraeth Seleucidaidd (Groegaidd) o Syria. Roedd Antiochus Epiphanes, brenin Groegaidd Syria a rheolwr yr Iddewon, wedi ceisio dinistrio'r ffydd Iddewig. Roedd yn gyfnod o erledigaeth greulon iawn. 

    Yn y flwyddyn 167 CC fe orymdeithiodd byddinoedd Syria i mewn i'r Deml ei hun, codi cerflun o Sews, ac aberthu mochyn yno.  Roedd hyn yn wrthun i'r Iddewon, ac roedd yn groes i bopeth yr oedden nhw'n credu ynddo. Bu gwrthdystiad, ac ar ôl tair blynedd cafodd ymerodraeth fawr Syria ei gorchfygu.

  2. Aeth yr Iddewon ati i lanhau ac adfer y Deml.  Fe wnaethon nhw adeiladu allor newydd ac fe wnaethon nhw wrthrychau sanctaidd newydd. Roedden nhw angen goleuo wyth o lampau olew ar y menora, y daliwr lampau euraid, ar gyfer yr ail-gysegriad. Pan oedden nhw'n glanhau, roedden nhw wedi dod o hyd i un jar o'r olew sanctaidd arbennig a oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y lampau.  Ond yna fe wnaethon nhw ddarganfod mai digon o olew ar gyfer un diwrnod yn unig oedd ganddyn nhw.

    Beth bynnag, fe wnaethon nhw oleuo'r lampau, ac fe ddigwyddodd gwyrth - fe gadwodd y lampau i oleuo am wyth diwrnod. Mae'r wyl hon, gwyl o oleuni, yn ddathliad o'r wyrth hon.

  3. Oherwydd bod olew yn bwysig i'r wyl hon, caiff bwyd arbennig sydd wedi ei goginio ag olew ei fwyta – er enghraifft, toesenni a theisennau tatws (latkes). 

  4. Goleuwch y canhwyllau pen-blwydd hud.  Dewiswch wirfoddolwr i ddod ymlaen i'w diffodd trwy chwythu arnyn nhw (efallai rhywun sydd yn cael ei ben-blwydd ar ddiwrnod o gwmpas yr adeg hon).

    Bydd y gwirfoddolwr yn gweld na ellir diffodd y canhwyllau trwy chwythu arnyn nhw - maen nhw'n ailgynnau eu hunain.  Dyna paham y maen nhw'n cael eu galw'n ganhwyllau hud.

    Ond a ydyn nhw'n bethau hud o ddifrif? Mae rhywun wedi dyfeisio'r canhwyllau hyn a'u cael i weithio yn y ffordd ryfeddol hon.

  5. Weithiau dydyn ni ddim yn deall pam fod pethau'n ufuddhau i reolau natur. Yn aml fe fydd eglurhad (byddai gwneuthurwr y canhwyllau hud yn gallu egluro sut maen nhw'n gweithio); weithiau does dim eglurhad. 

    Fel pobl, dydyn ni ddim yn gwybod popeth sydd i'w wybod am bopeth. A chaiff yr hyn nad ydyn ni'n ei ddeall weithiau ei alw'n wyrth, yn debyg i wyrth yr Hanukkah cyntaf.

Amser i feddwl

Goleuwch y canhwyllau'n araf (ond nid y menora ychwaith, o barch at y gweddïau sy'n cael eu defnyddio adeg yr Hanukkah wrth oleuo'r menora).

Anogwch y plant i feddwl am y rhyddid yr ydym yn ei fwynhau i addoli yn y ffordd y dymunwn, beth bynnag yw ein ffydd, ac i feddwl sut y gallwn ni barchu'r naill a'r llall.

Fel y bydd pob un o'r wyth cannwyll yn cael eu goleuo, efallai y byddech yn hoffi enwi'r wyth o werthoedd sy'n ganolog i wyl Hanukkah: cariad, parch, derbyniad, cyfeillgarwch, dathliad, hwyl, rhannu, goleuni. 

Gweddi
Arglwydd Dduw,
helpa ni i garu a pharchu pobl eraill;
i’w derbyn nhw, hyd yn oed pan fydd eu ffyrdd yn wahanol i’n ffydd ni;
i ddangos cyfeillgarwch at bobl sy'n debyg i ni
ac at bobl sydd yn wahanol i ni;
i ddathlu'n traddodiadau ein hunain;
ac i gael hwyl;
i rannu;
ac i arddangos goleuni yn ein bywydau.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon