Rwdolff Y Carw Trwyn-Goch
Gwasanaeth ar gyfer y Nadolig
gan Manon Ceridwen Parry
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried y ffaith fod pob un ohonom yn unigryw ac yn bwysig, a bod y nodweddion sy’n ein gwneud yn wahanol yn rhoddion arbennig.
Paratoad a Deunyddiau
- Cryno ddisg yn cynnwys y gân (neu llwythwch y gerddoriaeth i lawr oddi ar y rhyngrwyd, unrhyw fersiwn) ‘Rudolph the red-nosed reindeer’.
- Mae’r stori wreiddiol gan Robert L. May. Fe’i cyhoeddwyd yn gyntaf gan Montgomery Ward yn y flwyddyn 1939, ac fe wnaeth brawd yng nghyfraith yr awdur droi’r stori’n gân a ddaeth yn gân boblogaidd iawn.
Gwasanaeth
- Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n edrych ymlaen at y Nadolig, ac archwiliwch gyda nhw beth mae’r Nadolig yn ei olygu iddyn nhw. Fe all fod yn amser hapus a chyffrous iawn.
Trafodwch gyda’r plant rai o’r caneuon a’r storïau arbennig sy’n gysylltiedig â’r Nadolig. Pa rai yw eu ffefrynnau? - Mae un gân yn gân drist iawn (ond mae’n gorffen yn hapus). Y gân honno yw ‘Rudolph the red-nosed reindeer’. Mae’n un o hoff ganeuon y Nadolig gan lawer o bobl. Ydi’r plant yn gyfarwydd â’r gân? Ydyn nhw’n gwybod y stori?
(Chwaraewch y gân, ac wedyn ewch dros y stori gyda’r plant.) - Mae’r stori’n drist ar y dechrau. Mae gan Rwdolff drwyn coch iawn, ac mae ei ffrindiau’n gwneud hwyl am ei ben. Maen nhw’n chwerthin, yn galw enwau arno, a dydyn nhw ddim yn gadael iddo chwarae gyda nhw. Heddiw, fe fydden ni’n galw hynny’n ‘fwlio’.
Archwiliwch sut deimlad yw bod yn wahanol, a phawb arall yn gwneud hwyl am eich pen oherwydd eich bod yn ‘wahanol’. Mae’n gwneud i chi deimlo’n unig iawn ac yn anhapus. - Ond, mewn gwirionedd, roedd trwyn coch Rwdolff yn ei wneud yn rhywun arbennig yn y pen draw. Er mai ei drwyn coch oedd yn ei wneud yn wahanol i’r ceirw eraill, yn y diwedd dyna beth sy’n ei wneud yn ‘sbesial’.
Mae Siôn Corn yn gofyn iddo fynd i’r tu blaen a bod yn arweinydd ar y ceirw i gyd. Oherwydd bod ei drwyn yn lliw coch mor llachar mae’n gallu arwain car llusg Siôn Corn trwy’r niwl. - Cyn hynny, roedd pawb yn meddwl bod rhywbeth o’i le ar ei drwyn ac roedd gan Rwdolff gywilydd ohono. Ond mewn gwirionedd, roedd trwyn Rwdolff yn ddefnyddiol iawn i Siôn Corn. Ac fe ddaeth Rwdolff yn un o’r ceirw enwocaf erioed oherwydd ei drwyn coch unigryw.
Mae’n bosib y gallai rhywbeth tebyg fod yn wir amdanom ninnau hefyd. Yr hyn sy’n ein gwneud ni’n wahanol i bawb arall, weithiau, yw’r peth sy’n ein gwneud ni’n arbennig ac yn ‘sbesial’.
Amser i feddwl
Rydyn ni i gyd yn unigryw (eglurwch beth yw ystyr y gair os teimlwch ei fod yn anodd i’r plant ddeall).
Archwiliwch sut rydych chi’n teimlo pan fyddwch chi wedi derbyn bod pawb yn wahanol, a phan fyddwch chi’n sylweddoli bod rhywbeth y mae rhai pobl yn ei ystyried yn wendid weithiau’n gallu bod yn gryfder ynom.
Gweddi
(Chwaraewch y gân eto a threuliwch ychydig o amser yn meddwl yn dawel. Anogwch y plant i ailadrodd y weddi ganlynol ar eich ôl chi.)
Diolch i ti, Dduw, am wneud pob un ohonom yn ‘sbesial’.
Diolch i ti, Dduw, am fy ngwneud i’n ‘sbesial’.