Yr Ystwyll
Meddwl beth yw ystyr yr wyl Gristnogol, Yr Ystwyll.
gan Rebecca Parkinson
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Meddwl beth yw ystyr yr wyl Gristnogol, Yr Ystwyll.
Paratoad a Deunyddiau
- Casglwch ynghyd nifer o bethau y gallech chi eu rhoi fel anrhegion i wahanol bobl, er enghraifft, tegan babi – i fabi bach; doli neu bêl – i blentyn; ffôn symudol – i amrywiaeth o bobl o ran oedran; dillad i ddyn neu ddynes. Fe allech chi ofyn i’r plant ddyfalu pwy fyddai’n debygol o gael anrhegion fel hyn.
- Dangoswch anrheg gawsoch chi ryw dro a oedd yn anrheg hollol annisgwyl. Neu, fe allech chi ofyn i aelod arall o’r staff, sydd wedi cael anrheg annisgwyl ryw dro, i siarad am yr hyn ddigwyddodd bryd hynny.
- Y gair Cymraeg am y term Saesneg Epiphany yw yr Ystwyll. Paratowch y ddau ddiffiniad canlynol o’r geiriau Saesneg ‘Epiphany’ ac ‘epiphany’ wedi eu hargraffu ar ddau ddarn o bapur neu gerdyn:
- Epiphany: a church festival that celebrates the visit of the wise men to Bethlehem to see the baby Jesus - Gwyl eglwysig sy’n dathlu ymweliad y Doethion â Bethlehem i weld y baban Iesu
- epiphany: a sudden and inspiring revelation - ymddangosiad sydyn ysbrydoledig. - Efallai yr hoffech chi baratoi geiriau trydydd pennill y garol ‘Ganol gaeaf noethlwm’ ar gyfer yr adran ‘Amser i feddwl’.
Gwasanaeth
- Eglurwch, am fod y Nadolig wedi mynd heibio, eich bod yn mynd i ddangos nifer o wahanol anrhegion, ac rydych chi eisiau i’r plant ddyfalu pwy fyddai’n debygol o fod wrth eu bodd yn derbyn anrhegion fel y rhain – babi bach , plentyn, rhywun yn ei arddegau, dyn, dynes neu rywun oedrannus, ac ati. Dangoswch yr anrhegion fesul un, a gofynnwch i’r plant egluro pam y byddai’r anrheg yn addas ar gyfer y math o unigolyn maen nhw’n ei awgrymu. Holwch pam na fyddech chi’n rhoi ambell anrheg i rywun neilltuol, er enghraifft, pam na fyddech chi’n rhoi tegan babi i hen wr ac ati?
- Holwch: Gafodd rhywun anrheg Nadolig a oedd wirioneddol wedi eu plesio neu a oedd yn rhywbeth arbennig iawn yn eu golwg. (Mae’n bosib y bydd rhai o’r plant yn awyddus i ddweud wrthych chi am yr anrhegion gawson nhw.)
Atgoffwch y plant nad oes rhaid i anrheg arbennig fod yn rhywbeth mawr, nac yn rhywbeth sydd wedi costio llawer o arian. Efallai mai rhywbeth rydych chi’n hoff iawn ohono ydyw, neu rywbeth roeddech chi’n wirioneddol falch o’i gael, neu oherwydd ei fod yn anrheg gan rywun arbennig. - Soniwch (neu gofynnwch i aelod arall o’r staff sôn) am adeg pan wnaethoch chi dderbyn anrheg a oedd yn anrheg hollol annisgwyl. Fe allai hynny fod pan oeddech chi’n blentyn neu’n oedolyn. Fe allai’r anrheg fod yn anrheg Nadolig neu’n anrheg pen-blwydd, neu hyd yn oed yn anrheg am basio arholiad neu unrhyw achlysur arall.
- Eglurwch, ar 6 Ionawr bob blwyddyn, fe fydd Cristnogion yn dathlu gwyl arbennig o’r enw yr Ystwyll. Mae’r Ystwyll yn dathlu ymweliad y doethion â’r baban Iesu.
Holwch y plant ydyn nhw’n cofio pwy arall wnaeth ymweld â’r baban Iesu - eich gobaith yw y bydd rhywun yn dweud y bugeiliaid! Pwysleisiwch fod gwahaniaeth mawr rhwng y bugeiliaid a’r doethion - a yw’r plant yn gallu meddwl sut roedden nhw’n wahanol?
- Roedd y bugeiliaid yn dlawd; roedd y doethion yn gyfoethog.
- Roedd y bugeiliaid yn dod o’r un wlad ag Iesu Grist (Iddewon oedden nhw); roedd y doethion yn dod o wlad arall (doedden nhw ddim yn Iddewon, Cenedl-ddynion oedden nhw) - a doedd Iddewon a Chenedl-ddynion ddim yn cymysgu â’i gilydd.
- Roedd y bugeiliaid yn digwydd bod yn y caeau yn ymyl y man lle cafodd Iesu ei eni; roedd y doethion wedi teithio o wlad bell.
- Fe ymddangosodd angylion i’r bugeiliaid i ddweud am eni Iesu; dilyn seren wnaeth y doethion.
Er bod y ddau griw o bobl yn hollol wahanol i’w gilydd, roedd Duw yn dymuno i’r doethion a’r bugeiliaid, fel ei gilydd, gael gweld y baban Iesu. Eglurwch fod hyn yn dangos i ni fod Duw eisiau i bawb gael gweld Iesu. Yng ngolwg Duw, does dim gwahaniaeth ydyn ni’n gyfoethog neu’n dlawd, nag o ba wlad rydyn ni’n dod. - Eglurwch i’r plant, yn union fel roedd yr anrhegion roeddech chi’n sôn amdanyn nhw ar ddechrau’r gwasanaeth yn golygu rhywbeth arbennig i’r rhai oedd wedi eu cael, felly hefyd yr anrhegion a roddodd y doethion i Iesu. Yr anrhegion hynny oedd aur a thus a myrr.
Mae Cristnogion yn credu bod ystyr arbennig i bob un o’r anrhegion hyn. Fe allech chi ofyn i’r plant ydyn nhw’n gallu dyfalu beth oedd ystyr pob un.
– Aur – roedd aur yn anrheg i frenin. Roedd yr anrheg hon yn cydnabod bod Iesu’n frenin mawr ac yn frenin ar yr holl fyd.
– Thus – persawr arbennig yw thus, a fyddai’n cael ei ddefnyddio gan offeiriadon mewn eglwysi.
– Myrr – hylif arbennig yw myrr ac arogl melys, pêr, arno. Fe fyddai pobl yn defnyddio myrr i’w rwbio’n ofalus ar groen rhywun a oedd wedi marw wrth iddyn nhw baratoi’r corff i gael ei gladdu. Roedd rhoi myrr yn anrheg yn nodi bod marwolaeth Iesu’n mynd i fod yn rhywbeth arbennig. - Gofynnwch i rywun ddod atoch chi i’r tu blaen i ddal y cerdyn gyda’r diffiniad cyntaf o’r gair ‘Epiphany’: ‘a church festival that celebrates the visit of the wise men to Bethlehem to see the baby Jesus’ - Gwyl eglwysig sy’n dathlu ymweliad y Doethion â Bethlehem i weld y baban Iesu.
Eglurwch mai ‘Epiphany’ yw’r gair Saesneg am yr Ystwyll, ond bod dau ystyr i’r gair, a dyma’r cyntaf. Daw’r gair ‘epiphany’ yn wreiddiol o’r iaith Roeg, a’i ystyr yw ‘rhoi gwybod’. Genedigaeth Iesu oedd dechrau proses Duw o roi gwybod i’r bobl pwy yw Iesu, ac am ei gynllun ar gyfer y byd. - Gofynnwch i rywun arall ddod atroch chi nawr i’r tu blaen i ddal yr ail gerdyn gyda’r ail ddiffiniad o’r gair ‘epiphany’: ‘a sudden and inspiring revelation - ymddangosiad sydyn ysbrydoledig.
Eglurwch eto, ar yr adeg y cafodd Iesu ei eni doedd yr Iddewon a’r Cenedl-ddynion (pobl oedd ddim yn Iddewon) byth yn cymysgu. Fe fyddai wedi bod yn ddatguddiad annisgwyl iawn i bobl glywed bod Duw eisiau i’r Cenedl-ddynion (y doethion) fynd i weld Iesu (a oedd yn Iddew).
Un peth pwysig iawn y mae gwyl yr Ystwyll yn ei ddangos yw nad oes gan Dduw ffefrynnau - i’r gwrthwyneb, mae’n croesawu pobl o unrhyw gefndir ac o unrhyw genedl.
Amser i feddwl
Mae’n amlwg fod y doethion yn ddigon cyfoethog i ddod ag anrhegion drud ac arbennig i Iesu. Er nad yw’n dweud hynny’n benodol yn y Beibl, mae’n ddigon posib bod y bugeiliaid hefyd wedi dod ag anrhegion i’r baban Iesu. Mae sôn am hyn mewn un pennill o garol adnabyddus, y garol ‘Ganol gaeaf noethlwm’:
Mae’r geiriau gwreiddiol y dod o’r garol ‘In the bleak midwinter’, gan Christina Rossetti (1830 -1894)
‘What can I give him, poor as I am?
If I were a shepherd, I would bring a lamb.
If I were a wise man, I would do my part.
Yet what I can I give him – give my heart.’
A dyma gyfieithiad Cymraeg Simon B Jones (1894 -1964) sydd i’w gael yn y llyfr emynau, Caneuon Ffydd, rhif 466:
Beth a roddaf iddo,
llwm a thlawd fy myd?
Petawn fugail, rhoddwn
orau’r praidd i gyd;
pe bawn un o’r doethion,
gwnawn fy rhan ddi-goll;
ond pa beth a roddaf?
Fy mywyd oll.
Meddyliwch am y geiriau hyn. Beth maen nhw’n ei gyfleu i chi?
Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch dy fod ti eisiau i’r bobl dlawd a’r rhai cyfoethog gael gweld y baban Iesu.
Wrth i ni feddwl am yr Ystwyll, diolch ein bod ni’n cael ein hatgoffa
bod pob unigolyn yn bwysig yn dy olwg di.
Helpa ni i ddefnyddio’r holl ddoniau rwyt ti wedi eu rhoi i ni.
Diolch i ti am yr holl bethau da rydyn ni’n eu cael gen ti.