Cyrraedd Nod : Stori Kelly Holmes
Defnyddio stori dyfalbarhad Kelly Holmes fel model o rywun yn ymgyrraedd at nod.
gan Manon Ceridwen Parry
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Defnyddio stori dyfalbarhad Kelly Holmes fel model o rywun yn ymgyrraedd at nod.
Paratoad a Deunyddiau
- Mae’r gwasanaeth hwn yn seiliedig ar hanes Kelly Holmes – mae’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wedi ei nodi yma, ond os hoffech chi ddod i wybod mwy, mae digon o wybodaeth i’w chael ar y rhyngrwyd. Mae’r hyn sydd wedi ei gynnwys yma’n seiliedig ar wybodaeth oddi ar y gwefannau canlynol:
http://www.kellyholmes.co.uk/ (gwefan bersonol Kelly Holmes)
http://www.guardian.co.uk/uk/2004/aug/27/athensolympics2004.sport
http://news.bbc.co.uk/sport1/hi/olympics_2004/athletics/3605014.stm
- Mae delweddau hefyd i’w cael ar-lein y gallech chi eu defnyddio ar ffurf PowerPoint pe byddech chi’n dymuno gwneud hynny, ac mae clip fideo i’w gael ar YouTube hefyd, ar https://www.youtube.com/watch?v=aV6LfdD97fY
- Ar Wyl Fair y Canhwyllau, 2 Chwefror, rydyn ni’n cofio am Simeon ac Anna yn y Deml, pan fyddwn ni’n dathlu hanes Mair a Joseff yn cyflwyno Iesu yn y Deml.
Gwasanaeth
- Eglurwch eich bod yn mynd i adrodd stori Kelly Holmes oherwydd eich bod eisiau archwilio'r thema o ymgyrraedd at nod.
A oes unrhyw un yn gwybod pwy yw Kelly Holmes?
Fe enillodd hi ddwy fedal aur yng Ngemau Olympaidd 2004. Fe enillodd aur yn yr 800 metr ac yn y 1500 metr.
Hi oedd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yn 2004 ac yn 2005 cafodd ei henwi'n Fonesig. - Mae'n amlwg fod Kelly Holmes yn rhywun talentog iawn. Mae'n amlwg, felly, y bu'n hawdd iddi gyflawni ei nod? Ond a yw hynny'n wir?
Na, bu ei thaith i ymgyrraedd at ei nod yn anodd a hir.
Yn gyntaf, nid yw'n ferch dal - dim ond 5 troedfedd a 3 modfedd.
Mae hi hefyd o aml hil, ac roedd hi ymhlith yr ychydig o blant du ei chroen oedd yn tyfu i fyny ar y stad dai lle'r oedd yn byw.
Yn ei harddegau, rhoddodd y gorau i redeg ac ymunodd â'r fyddin, yn gyrru lorïau i ddechrau ac yna fel hyfforddwraig ffitrwydd corfforol. A llwyddodd yn dda yn ei gyrfa filwrol, a dod yn rhingyll. Fodd bynnag, fe welodd hen gydymgeisydd o'i chyfnod yn yr ysgol yn rhedeg yng Ngemau Olympaidd 1992 yn Barcelona, a meddyliodd y gallai hi wneud cystal. Felly fe ddechreuodd hyfforddi eto a rhedodd mewn cystadlaethau o'r flwyddyn 1993 ymlaen.
Cafodd ei dewis ar gyfer Gemau Olympaidd Atlanta yn 1996. Ond cafodd anaf; torrodd ei choes. Er hynny, llwyddodd i gyrraedd y pedwerydd safle.
Yng Nghampwriaethau'r Byd yn 1997, hi oedd y ffefryn i ennill y ras 1500 metr, am ei bod pum eiliad yn gyflymach na'i chydymgeisydd agosaf. Ond gyda 200 metr yn weddill o'r ras, fe ildiodd ei choes o ganlyniad i hen anaf. Fe lwyddodd i orffen y ras, ond gorffennodd yn olaf, hanner lap y tu ôl i'w cyd-redwyr, a syrthiodd i'r llawr mewn dagrau ar y llinell derfyn.
Fe feddyliodd pawb bod ei dyddiau rhedeg drosodd. Ond daliodd ati.
Ar gyfer Gemau Olympaidd Sydney 2000, ni fedrodd ymarfer ond am chwe wythnos gan ei bod yn wael â firws. Ond, er hynny, fe lwyddodd i ennill y fedal efydd yn y ras 800 metr.
Erbyn hyn, rhaid ei bod yn ddigalon wrth weld ei hun yn wael bob amser, neu'n ymdrechu yn erbyn anafiadau. Roedd cyfweliadau'r adeg yma'n dangos ei bod hefyd yn dioddef oddi wrth deimladau o dristwch a hunan amheuaeth. (Roedd yn ymdrechu yn erbyn yn awydd i hunan-anafu ac iselder, felly rhaid trafod ei thrafferthion iechyd meddwl mewn ffordd sensitif yma, neu sôn amdanyn nhw mewn termau hollol gyffredinol, yn dibynnu ar y cyd-destun.)
Roedd yn 34 mlwydd oed pan gyrhaeddodd Athen ar gyfer Gemau Olympaidd 2004. Roedd wedi ei rhestru yn rhif 11 yn y byd, ac nid hi oedd y rhedwraig gyflymaf ym Mhrydain - Hayley Tullett oedd rhif 1 ym Mhrydain. Ar ben y cyfan, roedd yr hen anaf yn ei choes yn ei phoeni unwaith eto. Doedd neb yn disgwyl iddi wneud yn dda iawn. Caiff ei dyfynnu hyd yn oed yn y papurau newydd bryd hynny yn dweud: ‘I was just waiting for something not to go right.’
Felly, beth ddigwyddodd yng Ngemau Olympaidd Athen? (Os oes modd i chi gael mynediad at y We Fyd Eang, efallai y gallech chi ddangos y clip YouTube fan hyn, gwelwch yr ‘Paratoadau a deunyddiau’.) Er gwaethaf popeth, fe enillodd Kelly Holmes y ddwy ras a redodd ynddyn nhw. Enillodd yr aur yn y ras 800 metr, a'r aur yn y ras 1500 metr.
Er bod ganddi ei amheuon, ei thrafferthion, a’i hanafiadau, fe ddaliodd ati, ac yn y diwedd fe wireddwyd ei breuddwyd. Ac roedd pawb wedi gwirioni. - Efallai bod gennym nodau yn ein bywydau; fe allen nhw fod yn rhai mawr neu’n rhai bach, o ddysgu clymu carrai ein hesgidiau i gael gafael ar y swydd fu'n freuddwyd i ni o'r dechrau. (Os yn briodol, efallai y byddech yn dymuno sgwrsio yma am nod oedd gennych chi eich hun ryw dro; a'r rhwystredigaethau a'r llwyddiannau, yr amheuon a'r methiannau yr oeddech chi wedi eu hwynebu.)
Pan fyddwn yn ymgyrraedd at ein nod, po leiaf y bo, fe fyddwn ni’n teimlo’n wirioneddol dda. - Yr hyn ddylen ni ei wneud weithiau yw dim ond dal ati, yn union fel y gwnaeth Kelly Holmes.
Fe all pethau fynd o chwith ar hyd y ffordd. Fe allwn ni gael cyfnodau, efallai, o gredu na allwn wireddu ein nod. Ond fe ddylen ni barhau i ddal ati i ymgyrraedd at ein nod, ac o bosib fe fyddwn ni yn y diwedd yn cyrraedd y nod hwnnw.
Datblygiad
Fe ellir cysylltu'r thema hon â stori Simeon ac Anna yn y Deml (Luc 2.22–38). Roedd y ddau yn oedrannus ac yn sicr o fod wedi teimlo nad oedd y Dewisedig Un, y Meseia, yn mynd i ymddangos yn ystod eu hoes. Ond fe wnaethon nhw barhau i ddilyn ffordd Duw, parhau i addoli yn y Deml, ac fe gawson nhw eu gwobr yn eu henaint trwy gael gweld Iesu ei hun, pan ddaeth Mair a Joseff ag ef yn faban bach i'r Deml i'w gyflwyno i Dduw.
Weithiau mae'n rhaid i ni aros am amser hir i wireddu dymuniad neu ymgyrraedd at ei nod.
Amser i feddwl
Meddwl am unrhyw nod sydd gennych chi, fe all fod yn rhywbeth bach neu’n rhywbeth mawr.
Sut byddwch chi’n gallu cyrraedd at eich nod?
Peidiwch â gadael i amheuon eich rhwystro - rydyn ni i gyd yn cael amheuon. Roedd Kelly Holmes ag amheuon.
Peidiwch â gadael i bethau sy’n eich dal yn ôl achosi gormod o bryder i chi - roedd sawl peth wedi dal Kelly Holmes yn ôl.
Peidiwch â gadael i bethau sy’n peri i chi oedi, ladd eich awydd - fe arhosodd Simeon ac Anna am amser hir iawn.
Mae’n bwysig parhau i ddal ati.
Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2013 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.