Doeddwn I Ddim Yn Bwriadu Gwneud Hynny
Fe fyddai’n dda gen i pe byddwn i heb wneud
gan Laurence Chilcott
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Annog y plant i fod yn gyfrifol am eu gweithredoedd.
Paratoad a Deunyddiau
- Dangoswch rai lluniau cartwn sy’n darlunio rhywun yn chwarae tric ar rywun arall.
- Mae’r gwasanaeth hwn yn neilltuol o berthnasol pan fydd yn dilyn math o ddigwyddiad all ddigwydd o dro i dro mewn ysgol, er enghraifft rhywun wedi rhoi esgid neu rywbeth felly i lawr toiled, rhywun wedi cuddio cot rhywun arall, neu wedi difwyno gwaith rhywun arall, i enwi dim ond rhai pethau!
- Mae’n bosib cysylltu canlyniadau posib gweithredoedd o fwlio â’r gwasanaeth hwn hefyd, gan annog y plant i gyd i fod â rhywfaint o gyfrifoldeb dros rwystro gweithredoedd o’r fath.
Gwasanaeth
- ‘Fo (neu hi) ddywedodd wrtha i am wneud!’
Sawl gwaith rydych chi wedi clywed rhywun yn rhoi’r esgus hwnnw wedi iddo ef (neu hi) gael ei ddal yn gwneud rhywbeth gwirion neu ddrwg?
Efallai eich bod wedi clywed oedolyn yn ymateb wedyn gyda’r geiriau, ‘Fyddet ti’n rhoi dy fys yn y tân pe byddai rhywun yn dweud wrthyt ti am wneud hynny?’
Mae’r oedolyn yn ceisio dangos i chi y byddai gennych chi ddigon o synnwyr cyffredin i beidio â gwneud rhywbeth pe byddech chi’n meddwl y byddech chi’n cael anaf wrth wneud. Felly, fe ddylech chi ddangos yr un synnwyr cyffredin, a pheidio meddwl gwneud rhywbeth allai niweidio rhywun arall hefyd. - Rhaid i ni ddysgu bod yn gyfrifol am yr hyn rydyn ni’n ei wneud. Os ydyn ni’n cael ein dal yn gwneud rhywbeth na ddylen ni fod yn ei wneud, yna rhaid i ni dderbyn nad oes neb arall i’w feio, ac fe ddylen ni dderbyn canlyniadau ein gweithredoedd.
Heddiw, rydyn ni’n mynd i glywed hanes rhai pobl ifanc sy’n gofidio na fydden nhw wedi ystyried y canlyniadau cyn gwneud rhywbeth neilltuol. Mae’r hyn roedden nhw wedi meddwl a fyddai’n hwyl ddiniwed wedi bod â chanlyniadau difrifol iddyn nhw, a nhw oedd yn gyfrifol. Nid storïau dychmygol yw’r rhain; fe ddigwyddodd y pethau hyn, o ddifrif.
- Roedd un bachgen yn credu y byddai’n hwyl pryfocio un o’r genethod yn ei ddosbarth, felly fe dynnodd ei chadair oddi tani ar yr union adeg roedd hi’n mynd i eistedd arni. Fe feddyliodd y byddai’n sbort - nes y gwnaeth sylweddoli na allai’r ferch godi. Yn wir, wnaeth hi ddim gallu codi ar ei thraed ei hun byth wedyn. Roedd hi wedi anafu asgwrn ei chefn. Fe dreuliodd yr eneth honno weddill ei hoes mewn cadair olwyn. Ac fe dreuliodd y bachgen hwnnw weddill ei oes yn edifarhau am yr hyn roedd o wedi ei wneud. Allai’r bachgen hwnnw ddim rhoi’r bai ar unrhyw un arall, ac yn wir doedd o ddim wedi bwriadu achosi niwed iddi, ond dyna beth ddigwyddodd.
- Fe safodd bachgen yn ei arddegau wrth y giât yn gwylio merch yn marchogaeth ceffyl o amgylch y cae. Yn ôl pob golwg, roedd y ferch yn gallu marchogaeth yn dda iawn, ond roedd y bachgen yn meddwl tybed pa mor dda fyddai hi pe byddai’r ceffyl yn dechrau carlamu. Y tro nesaf i’r ferch a’r ceffyl basio heibio’r giât fe daflodd y bachgen garreg at ben-ôl y ceffyl, gan obeithio y byddai’n dychryn ac yn dechrau carlamu. Ond yn hytrach na dechrau carlamu, yr hyn wnaeth y ceffyl oedd codi ar ei ddwy goes ôl gan weryru’n wyllt, ac fe syrthiodd y ferch wysg ei chefn oddi ar y ceffyl, fe ddisgynnodd ar lawr a gorwedd yno’n hollol llonydd. Roedd y bachgen wedi dychryn pan welodd bod y ferch yn dal yn hollol llonydd, hyd yn oed ar ôl i’r parafeddygon ei thrin. Nodwyd ei bod yn farw pan gyrhaeddodd yr ysbyty. Cyhuddwyd y bachgen o achosi ei marwolaeth, ac am weddill ei oes ni lwyddodd i anghofio sut y gwnaeth ei weithred ddifeddwl ef achosi marwolaeth rhywun.
- Roedd y ferch 12 oed yn crio’n ofnadwy. Roedd hi’n cerdded trwy’r siop gyda dyn mewn siwt dywyll. ‘Fydd dim rhaid i Mam gael gwybod, na fydd?’ plediodd. ‘Plîs, peidiwch â galw’r heddlu,’ begiodd. ‘Wna i byth wneud peth fel hyn eto,’ addawodd. Ond i ddim pwrpas. Roedd hi wedi cael ei dal yn dwyn o’r siop, a’r diwedd fu iddi gael cofnod troseddol. Roedd hi’n teimlo cymaint o gywilydd pan aeth ei mam gyda hi i swyddfa’r heddlu i gael ei holi, ac roedd hi’n teimlo cymaint o embaras pan ddaeth ei ffrindiau i wybod. Roedd yn ddrwg iawn ganddi pan ddeallodd bod ei hathrawon yn gwybod. Ond erbyn hynny, roedd hi’n rhy hwyr - dim ond fel ‘her’ roedd hi wedi gwneud yr hyn wnaeth hi, ac roedd hi wedi meddwl y byddai hynny’n hwyl. Ond erbyn gweld, doedd o ddim yn hwyl. Roedd yn brofiad annymunol - y profiad mwyaf annymunol a oedd wedi dod i’w rhan, hyd yn hyn, yn ystod ei bywyd.
- Meddyliodd criw o fechgyn y byddai’n hwyl rhoi gwair sych, a oedd yn tyfu ar ymyl y draffordd, ar dân. Cydiodd y tân a lledodd y fflamau’n gyflym. Am sbel fe gawson nhw hwyl yn edrych ar y fflamau’n cynnau a’r mwg yn llenwi’r awyr. Ond doedden nhw ddim mor llawen pan wnaethon nhw sylweddoli bod y mwg yn troi i gyfeiriad y draffordd ac yn rhwystro’r gyrwyr rhag gweld o’u blaen ar y rhan honno o’r ffordd. Fydd y bechgyn rheini byth yn anghofio swn y ceir yn brecio a swn y metel yn malu wrth i’r ceir wrthdaro, y naill yn erbyn y llall, yn y ddamwain fawr ar y rhan honno o’r draffordd y diwrnod hwnnw - y ddamwain a achosodd i un ferch fach golli ei bywyd ac i nifer fawr o bobl gael eu hanafu. Doedd y bechgyn ddim wedi bwriadu i hynny ddigwydd - ond fe ddigwyddodd. - Doedd dim un o’r plant neu’r bobl ifanc yn yr achosion hyn wedi bwriadu niweidio unrhyw un, ond nhw oedd yn gyfrifol am beth ddigwyddodd. Doedden nhw ddim yn gallu rhoi’r bai ar unrhyw un arall, ac yn wir doedd dweud nad oedden nhw wedi bwriadu achosi niwed i unrhyw un yn yr hyn ddigwyddodd yn ddim esgus - oherwydd fe ddigwyddodd.
Yn yr ysgol hon, ac ym mhob man y byddwn ni, gadewch i ni i gyd geisio ystyried canlyniadau posib unrhyw weithredoedd y gallen ni fod yn gyfrifol amdanyn nhw ambell dro, hyd yn oed os yw'r rheini ‘ddim ond am hwyl’ neu’n ‘ddim ond i boeni ychydig ar rywun’. Gadewch i ni feddwl cyn gwneud rhywbeth, fel na fyddwn ni’n edifarhau am yr hyn y byddwn ni wedi ei wneud.
Amser i feddwl
Rydyn ni i gyd yn gwneud pethau rydyn ni’n difaru eu gwneud, weithiau trwy fod yn ddiofal ac weithiau’n ddifeddwl. Ond mae’n well i ni gyfaddef ein camgymeriadau a derbyn canlyniadau yn hytrach na gadael i bobl eraill gael y bai, neu sefyll yn ôl yn y gobaith na fydd neb byth yn dod i wybod mai ni wnaeth.
Y peth gobeithiol yw nad yw’n rhaid i fethiant fod y gair olaf. Mae Cristnogion yn credu bod Duw’n maddau i ni am y pethau fyddwn ni’n eu gwneud yn ddiofal neu’n ddifeddwl, os ydyn ni o ddifrif yn edifarhau. Mae Cristnogion yn credu bod Duw’n gallu ein helpu ni i newid ein ffyrdd. Fe allwn ni wneud iawn am y pethau y byddwn ni’n eu gwneud o’u lle trwy ddod yn bobl well.
Wedi i Iesu gael ei gymryd yn garcharor fe ddywedodd Pedr, a oedd yn un o ffrindiau gorau Iesu, nad oedd yn ei adnabod. Yn ddiweddarach, roedd Pedr â chywilydd ei fod wedi gwadu ei fod yn adnabod Iesu. Fe dderbyniodd faddeuant, ac fe ddaeth yn arweinydd yr eglwys fore.
Roedd Paul, yn ei ddyddiau ifanc, yn erlid Cristnogion ac yn peri iddyn nhw gael eu taflu i garchar. Ond fe ddaeth wedi hynny’n genhadwr pwysig - y cenhadwr Cristnogol mwyaf.Gweddi
O, Dad, maddau i ni
pan fyddwn ni ddim yn meddwl am ganlyniadau ein gweithredoedd.
Weithiau, fe fyddwn ni’n brifo teimladau pobl eraill trwy fod yn ddifeddwl ac yn angharedig.
Weithiau, efallai y byddwn ni’n cael pleser wrth frifo teimladau pobl eraill.
Rydyn ni’n gwybod na fyddet ti’n dymuno i ni fod felly,
ac mae’n wir na fyddem ni’n hoffi cael ein trin felly ychwaith.
Helpa ni i geisio dilyn esiampl Iesu.