Gwyl Vasant Panchami : Dechreuad newydd
Dathlu dechreuad newydd mewn bywyd ac mewn dysgu.
gan Alan M. Barker
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Dathlu dechreuad newydd mewn bywyd ac mewn dysgu.
Paratoad a Deunyddiau
- Mae’n bosib defnyddio’r gwasanaeth hwn i gyd-fynd â gwyl Vasant Panchami (15 Chwefror), neu yn ddiweddarach ym mis Mawrth.
- Trefnwch fod gennych chi gennin Pedr mewn fâs fel rhywbeth i ganolbwyntio arno - yn ddelfrydol fe fyddai’n dda cael rhai blodau sydd heb agor eto a rhai eraill sydd wedi agor yn llawn yn y cynhesrwydd.
- Fe fydd arnoch chi angen OHP, neu siart troi, er mwyn gallu llunio’r wyddor am bethau’r gwanwyn gyda’ch gilydd.
Gwasanaeth
- Soniwch fod y gwanwyn, i ni yn hemisffer y Gogledd, yn dechrau ar 21 Mawrth. Ond, yn India, mae llawer o bobl sy’n Hindwiaid yn nodi diwrnod cyntaf y Gwanwyn gyda gwyl Vasant Panchami, sy’n cael ei chynnal rhwng diwedd Ionawr a chanol Chwefror.
- Mae’r wyl wedi ei chysegru i Saraswat, duwies dysg a doethineb, ac mae’n draddodiad i blant ifanc ddechrau dysgu sut i ysgrifennu llythrennau’r wyddor ar yr adeg yma. Mae pobl sy’n dilyn y grefydd Hindwaidd yn credu y bydd yr arferiad hwn yn dod â bendith a doethineb.
- Gwahoddwch gymuned yr ysgol i fyfyrio ar ddechreuadau newydd.
Pryd a sut y gwnaethon nhw ddysgu’r wyddor?
Oes unrhyw un yn cofio ei ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol?
Sut mae eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth wedi tyfu? - Rhowch her i bawb geisio llunio’r wyddor gyda chi a meddwl am eiriau i fynd gyda phob llythyren, os yn bosib, geiriau sydd â rhywbeth i’w wneud â’r gwanwyn - pethau rydych chi’n eu gweld neu eu teimlo.
Eglurwch nad yw hon yn dasg hawdd. Fe fydd angen help pawb arnoch chi. Cyfeiriwch at y cennin Pedr yn y fâs. Fe fyddwn ni’n dysgu gyda’n gilydd ac fe fydd pawb yn blodeuo. Ac yn union fel mae cynhesrwydd yr haul yn y gwanwyn yn denu’r planhigion i flodeuo, mae anogaeth yn helpu i ddod â’r gorau allan ohonom ninnau hefyd!
Dechreuwch gyda llythrennau cyntaf y wyddor ar eich siart troi. Yn y wyddor sy’n ymwneud â’r gwanwyn, fe allech chi gael geiriau tebyg i’r rhai a ganlyn:
A am ‘adar’ yn canu ac yn nythu
B am ‘blagur’ a ‘blodau’
C am y ‘cennin Pedr’ a’r ‘cywion bach’
Ch am ‘chwa’ o awel iach neu’r anifeiliaid bach yn ‘chwarae’
D am y dail ar y coed a ‘dechrau newydd’
Dd am y ‘ddafad’ gydag oen bach
Pwysleisiwch y gallech chi ddewis rhai geiriau sydd hefyd yn disgrifio agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu yn ogystal â nodweddion gwanwynol.
E am ‘eirlysiau’ ac am fod yn ‘egniol’ ac yn ‘effro’
F am bopeth yn dod yn ‘fyw’
Ff am ‘ffarwelio’ â’r gaeaf
G am ‘gwych’
H am ‘haul’ a ‘heulwen’ a ‘hapus’.
Fydd rhai o gymuned yr ysgol ‘yn effro’ ac ‘yn fyw’ i syniadau newydd?
Pa mor ‘egniol’ a ‘gwych’ a ‘hapus’ fyddan nhw wrth ymwneud â dechreuadau newydd? - Cyfeiriwch eto at y fâs a’r cennin Pedr. Ymhen ychydig, cyn diwedd y dydd efallai, fe fydd rhagor o’r blodau wedi agor. Bydd y gwres yn denu’n blagur i flodeuo. Mynegwch y gobaith y bydd y dydd yn ein denu ninnau i flodeuo hefyd, ac yn dod â’r gorau allan o bob aelod o gymuned yr ysgol!
(Ar ôl y gwasanaeth, gosodwch y cennin Pedr mewn man canolog yn yr ysgol lle bydd pawb yn gallu eu gweld a sylwi arnyn nhw’n agor.)
Amser i feddwl
Yn union fel mae cynhesrwydd yr haul
yn denu’r dail a’r blagur i agor
felly hefyd y bydd bod gyda’n gilydd heddiw
yn agor ein calonnau ninnau a’n meddyliau
fel y byddwn yn gallu dysgu.
Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2013 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.