Gwyl Fair Y Canhwyllau
gan The Revd John Challis
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Archwilio beth yw ystyr Gwyl Fair y Canhwyllau, a meddwl am yr angen i edrych y tu hwnt i olwg allanol er mwyn gallu gweld agweddau cudd ar Iesu.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen bisged felys a darnau o ffrwythau - o leiaf pedwar ffrwyth: banana, afal, gellygen, datysen. Fe fydd arnoch chi angen un lemon cyfan hefyd.
- Ac fe fydd arnoch chi angen un papur pum punt glân. Yn ofalus, torrwch ben uchaf y lemon yn ymyl lle'r oedd y coesyn. Rowliwch y papur £5 yn dynn iawn a’i wthio i’r lemon. Fe ddylai fynd dros ei ben i ganol y lemon ar ei hyd. Gludiwch dop lemon yn ôl, os gallwch i, â glud. (Mae hwn yn hen dric.)
- Hefyd, fe fydd arnoch chi angen bwrdd torri a chyllell i dorri’r lemon.
- Daw’r hanes am Iesu’n cael ei gymryd i’r Deml o Efengyl Luc 2.22–38.
- Ar Wyl Fair y Canhwyllau, mae Cristnogion yn cofio am y baban Iesu’n cael ei gymryd i’r Deml er mwyn iddo gael ei gyflwyno i Dduw. Mae Simeon ac Anna yno’n gweld baban, ond maen nhw’n gweld rhywbeth llawer mwy: maen nhw’n adnabod y Meseia. Mae hwn yn newydd da, ond eto’n newydd trist, gan fod Iesu’n mynd i farw dros bawb. Mae thema chwerw-felys i Wyl Fair y Canhwyllau.
- Caiff yr wyl ei galw’n ‘Wyl l Fair y Canhwyllau’ am fod canhwyllau sy’n mynd i gael eu defnyddio mewn gwasanaethau yn yr eglwys yn cael eu bendithio yn ystod y gwasanaeth cymun ar yr wyl hon.
Gwasanaeth
- Eglurwch fod Gwyl Fair y Canhwyllau yn cael ei chadw gan Gristnogion i gofio bod y baban Iesu wedi cael ei gymryd i'r Deml yn Jerwsalem i'w gyflwyno i Dduw. Mae hwn yn achlysur pwysig.
Yn y Deml, mae Mair, Joseff a'r baban Iesu yn cyfarfod â Simeon ac yna gydag Anna. Nhw yw'r proffwydi sy'n aros i Dduw anfon ei Feseia, ei negesydd arbennig. Maen nhw'n gweld y baban Iesu, ond maen nhw'n gweld llawer mwy na hynny. - Gofynnwch: Pwy sy'n hoffi ffrwythau ac yn hoffi bwyta'n iach? Dangoswch y ffrwythau sydd gennych gyda chi, yn cynnwys y lemwn, a gofynnwch: Pwy fyddai'n hoffi bwyta rhywbeth o’r rhain yma nawr?
Gofynnwch i'ch gwirfoddolwyr ddod ymlaen a gadael iddyn nhw ddewis eu ffrwyth. Dywedwch wrth bob plentyn yn ei dro, ar wahân i'r plentyn sydd â'r lemwn, i gymryd tamaid. Cadwch y plentyn gyda'r lemwn i aros.
Cymharwch y blasau. Gofynnwch i'r plant ddisgrifio, efallai gyda'ch cymorth chi, y blasau melys yn eu ffrwythau. Pwysleisiwch y cyferbyniad gyda'r lemwn. Adeiladwch y tyndra. Yna dywedwch wrth y plentyn sy'n dal y lemwn, ‘Fyddai'n well gen ti gael bisged neu ddarn o un o'r ffrwythau eraill i'w fwyta?’ Chwaraewch ar hyn a mwynhewch geisio perswadio'r plentyn y byddai'n well cael bisged neu ffrwyth arall yn hytrach na'r lemwn. (Caniatewch i'r plentyn gymryd bisged neu ffrwyth arall os yw ef neu hi yn dymuno.)
Anfonwch y plant eraill yn ôl i'w lleoedd gyda'u ffrwyth, gan ddiolch iddyn nhw. Tynnwch y bwrdd torri a chynyddwch y tyndra cyn torri'r lemwn fel y gall y plentyn ei fwyta. (Neu, os cymerodd eich gwirfoddolwr y ffrwyth arall neu'r fisged, dywedwch eich bod chi eich hunan eisiau blasu'r lemwn.)
Torrwch y lemwn o gwmpas y rhan llydan, gan fod yn ofalus i beidio â thorri'n ddwfn trwy’r canol. Fe ddylai'r lemwn haneru'n hawdd (twistiwch ef, os nad yw'n gwneud), gan adael y £5 wedi ei rowlio heb ei dorri yn ei ganol.
Os yw'r plentyn wedi mynnu cael blasu'r lemwn, gofynnwch iddo ef neu iddi hi gymryd y £5 allan. Os mai chi biau'r lemwn i'w fwyta, yna dangoswch ef i'r plant i gyd gan edrych fel pe byddech chi wedi cael syndod mawr.
Dywedwch fod hyd yn oed y pethau mwyaf chwerw a sur, fel lemwn, yn gallu bod yn cynnwys y syndod melysaf – yn yr achos yma, £5. Bydd y plant yn synnu ac yn rhyfeddu at sut y daeth i fod yno.
(Gallwch bocedu'r £5 neu ddweud y byddwch yn ei roi i un o'r elusennau y mae'r ysgol yn eu cefnogi.) - Dywedwch fod Gwyl Fair y Canhwyllau yn cael ei hystyried yn chwerw-felys:
- melys am fod Iesu wedi cael ei eni i ddangos i ni'r hyn yw Duw
- ond yn chwerw oherwydd ei fod wedi marw ar y groes
- ond yn felys eto oherwydd ei fod wedi atgyfodi i fywyd newydd gyda Duw.
Amser i feddwl
Mae'n rhy hawdd i edrych yn unig ar yr hyn sy'n weladwy, a ffurfio barn wedi ei sylfaenu ar y wedd allanol o rywbeth neu rywun. Ond yna, os byddwn ni’n gwneud hynny, fe allwn ni golli golwg ar y trysorau sydd oddi mewn. Hyd yn oed pan nad yw pethau'n ymddangos yn rhy dda ar y tu allan, gall fod yna wobr fawr oddi mewn.
Gweddi
O Dduw,
rho i ni lygaid ffydd
i'th weld di yn y byd.
Lle bydd ofn yn cau ein llygaid, helpa ni.
Lle bydd dagrau'n ein dallu, iachâ ni.
Rhyddha ni i weld dy gariad ar waith yn y byd.
Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2013 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.