Duw
Rhyfeddu at natur Duw
gan Angie Shackleton
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Rhyfeddu at natur Duw.
Paratoad a Deunyddiau
- Mae’r gwasanaeth hwn wedi ei lunio ar ffurf sgript er mwyn i’r plant allu ei gyflwyno eu hunain.
- Fe fydd arnoch chi angen delwedd ‘Nifwl Llygad Duw’ (Eye of God nebula) i’w harddangos.
Gwasanaeth
Darllenydd 1 Ar gyfer ein gwasanaeth heddiw, rydyn ni wedi bod yn meddwl am DDUW.
Er mwyn ein helpu ni i feddwl am hyn, fe wnaethon ni ddefnyddio pum cwestiwn: PWY, BETH, PRYD, PAM a BLE.
Yn gyntaf, PWY yw Duw?
Darllenydd 2 Duw yw’r Creawdwr, sydd wedi creu y bydysawd cyfan.
Duw sy’n rheoli’r bydysawd.
Duw yw ein tad, tad yr holl ddynoliaeth.
Yng ngolwg Cristnogion, mae Duw yn dri-yn-un: Tad, Mab ac Ysbryd Glân.
Darllenydd 3 Yn achos Hindwiaid, maen nhw’n credu bod un gwir Dduw, yr ysbryd goruchaf, sy’n cael ei alw’n Brahman. Mae tair prif ffurf yn perthyn i Brahman: Brahma, y creawdwr, Vishnu, y ceidwad, a Shiva, yr un sy’n dinistrio.
Darllenydd 4 Mae Sikhiaid yn credu na allwch chi ddisgrifio Duw, a dydyn nhw ddim yn credu bod Duw’n wryw nac yn fenyw.
Darllenydd 5 Mae llyfr sanctaidd y Mwslimiaid yn dweud fel hyn am Dduw: ‘Duw: does dim Duwdod ond Ef, y Bythfywiol, Ffynhonnell Pob Bodolaeth.
Darllenydd 1 Ein cwestiwn nesaf yw BETH yw Duw?
Darllenydd 6 Mae Duw’n HOLLALLUOG. Mae hyn yn golygu mai Duw sydd biau’r holl rym, ac mae’n fwy nerthol nag unrhyw beth yn y bydysawd.
Mae'r Beibl yn dweud wrthym fod Duw wedi creu bodau dynol ‘ar ei ddelw ei hun’. Ydi hynny’n golygu ein bod ni’n edrych yn debyg i sut mae Duw’n edrych?
Darllenydd 7 Flynyddoedd lawer yn ôl, roedd arlunwyr yn paentio lluniau o Dduw fel hen wr gyda gwallt hir gwyn a barf laes.
Y gwir yw, does neb yn gwybod sut un yw Duw o ran pryd a gwedd.
Darllenydd 8: Ond rydyn ni’n gwybod bod Duw’n ffrind i ni.
Mae Duw’n berffaith, yn faddeugar ac yn ddi-ofn.
Mae Duw’n haeddu pob moliant.
Am y rheswm hwn fe allwn ni ganu am fawredd Duw yn awr. Pawb i godi ar eu traed, os gwelwch yn dda.
Dewiswch emyn sy’n sôn am fawredd Duw i’w chanu gyda’ch gilydd (er enghraifft ‘Mor fawr wyt ti’, neu fe allech chi wrando ar recordiad o’r emyn ‘How great is our God’ os oes copi gennych chi).
Emyn
Darllenydd 1 Eisteddwch. Diolch. (Saib)
Rydyn ni nawr yn symud ymlaen at y cwestiwn nesaf, sef PRYD. PRYD y daeth Duw i fodolaeth?
Darllenydd 9 Mae pobl pob ffydd yn credu bod Duw wedi bodoli erioed, hyd yn oed cyn i’r bydysawd gael ei greu.
Mae rhai Beiblau’n dechrau gyda’r geiriau: ‘Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Yr oedd ef yn y dechreuad gyda Duw. Daeth pob peth i fod trwyddo ef; hebddo ef ni ddaeth un dim sydd mewn bod.’
Darllenydd 10 Yng ngolwg rhai sy’n Sikhiaid, mae Duw’n ddiamser a Duw yw’r gwirionedd tragwyddol.
Darllenydd 11 Yn achos y grefydd Islam, mae’n ysgrifenedig mai Allah yw’r unig Dduw bob amser.
Darllenydd 12 Felly, does dim dechrau na diwedd i Dduw. Mae’n parhau am byth, yn dragwyddol.
Darllenydd 1 Nesaf rydyn ni’n gofyn, BLE mae Duw?
Darllenydd 13 a 14 Mae Cristnogion a Mwslimiaid yn dweud bod Duw/ Allah yn HOLLBRESENNOL: Mae Duw’n bresennol ym mhob man.
Darllenydd 15 Mae’n debyg ein bod ni’n meddwl bod Duw yn y nefoedd, ble bynnag mae’r nefoedd!
Darllenydd 16 Ydi’r nefoedd yn y gofod? Fe wnaethon ni ddod o hyd i’r ddelwedd hon o rywbeth rhyfeddol sydd yn y gofod. (Dangoswch y ddelwedd.) Mae’r peth rhyfeddol yma’n cael ei alw’n ‘Llygad Duw’ - ‘The eye of God’.
Mae gwyddonwyr yn dweud mai nifwl yw hwn – sef clwstwr o sêr. Ond gan nad ydyn ni’n gwybod sut un yw Duw, na ble mae Duw, tybed ai Duw sydd yma’n gwylio drosom ni i gyd? (Diffoddwch y ddelwedd, am y tro.)
Darllenydd 1 A’r cwestiwn olaf yw PAM – PAM y mae Duw’n bodoli?
Dyma’r cwestiwn anoddaf ohonyn nhw i gyd!
Darllenydd 17 Ond rydyn ni’n meddwl bod Duw yma i ofalu amdanom ni i gyd, i’n caru ni, ac i’n hamddiffyn ni.
Darllenydd 18 Mae Duw’n ein helpu ni. Mae Duw’n maddau i ni.
Darllenydd 19 Maen nhw’n dweud bod ein henwau ni i gyd gan Dduw, pob un sy’n fyw a phob un sydd wedi byw, ac mae ein henwau ganddo wedi eu hysgrifennu ar gledr ei law.
Darllenydd 20 Mae Duw’n gweld pob peth, ac yn gwybod pob peth. Mae Duw’n HOLLWYBODOL.
Amser i feddwl
Tafluniwch y ddelwedd ‘Llygad Duw (‘Eye of God’) eto, a’i gadael ar y sgrin hyd ddiwedd y gwasanaeth.
Gweddi
Gadewch i ni weddïo gyda’n gilydd:
Ni chlywaf un llais, na theimlo cyffyrddiad,
Ni welaf un ymffrost, yn wir;
Ond eto, rwy’n gwybod bod Duw yno’n agos,
Yn y tywyllwch, ac mewn golau clir.
Mae Duw yno’n gwylio, wrth fy ymyl bob amser,
Mae’n clywed fy ngweddi fach dlos:
Duw cariad yw Duw, yn gofalu yn gyson,
Gofalu trwy’r dydd a thrwy’r nos.
Amen.
(Addasiad)
Wrth i ni feddwl tybed ble mae Duw, fe wnaethon ni benderfynu ei fod gyda ni bob un ohonom ni. Am y rheswm hwnnw rydyn ni wedi dewis y gerddoriaeth hon i’w chwarae i chi.
Wrth i’r plant fynd allan o’r gwasanaeth, chwaraewch y gerddoriaeth ‘Next To Me’ gan Emeli Sandé (ar gael yn rhwydd i’w llwytho i lawr oddi ar y rhyngrwyd).