Ffoaduriaid Trefol 1 : Pe bawn i’n ffotograffydd . . .
Meddwl sut gallwn ni ddefnyddio ein doniau er daioni.
gan Helen Redfern
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Meddwl sut gallwn ni ddefnyddio ein doniau er daioni.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen dod â chamera gyda chi i’r gwasanaeth, a pharatoi tri darllenydd ac oedolyn, neu un o’r plant hynaf, i chwarae rhan Andrew. Fe allai’r arweinydd chwarae rhan yr un sy’n ei gyfweld.
- Mae’r holl ffotograffau a’r storïau am yr arddangosfa i’w cael oddi ar y wefan: www.panos.co.uk/stories/2-13-1528-2022/Andrew-McConnell/Hidden-Lives/#. Mae’n bosib cael rhagor o wybodaeth hefyd ar www.bbc.co.uk/news/in-pictures 20900282 , http://vimeo.com/52559188 ac ar www.hidden-lives.org.uk/index.asp. Daw’r dyfyniadau oddi ar: www.frontlineclub.com/in_the_picture_urban_refugees_with_andrew_mcconnell/
Gwasanaeth
- Tybed oes gan rywun yn eich ty chi un o’r rhain? (Dangoswch y camera sydd gennych chi.) Pe byddwn i’n rhoi’r camera yma i chi am ddiwrnod, lluniau o beth fyddech chi’n eu tynnu? Meddyliwch am y peth am foment.
Darllenydd 1 Fe fyddwn i’n tynnu lluniau fy ffrindiau i gyd. Fe fydden ni’n gwneud wynebau gwirion ac yn gwneud pob math o bethau doniol eraill.
Darllenydd 2 Fe fyddwn i’n tynnu llun fy nghath, Lexi. Mae hi mor giwt! Rydw i wrth fy modd efo anifeiliaid bach ifanc, ac rydw i’n hoffi edrych ar luniau cathod bach ar y cyfrifiadur.
Darllenydd 3 Fe fyddwn i’n mynd i’r dre, ac yn tynnu lluniau o adeiladau enwog fel y theatr a’r castell. Fe fyddwn i’n cael lluniau da o’r afon a’r pontydd.
- Mae’r gwasanaeth heddiw’n ymwneud â bywyd ffotograffydd go iawn, dyn o’r enw Andrew McConnell. Mae ei luniau wedi eu cyhoeddi mewn cylchgronau ac mae wedi ennill llawer o wobrau am ei waith. Rydyn ni’n mynd i sôn heddiw am ei broject diweddaraf, a dod i wybod mwy am ei resymau dros ddewis tynnu’r lluniau arbennig hyn.
Mae’r cyfweliad sy’n dilyn yn seiliedig ar gyfweliad go iawn gydag Andrew McConnell ac adroddiadau amdano.
- Holwr Felly, Andrew, lluniau o beth fyddwch chi’n eu tynnu?
Andrew Mae’r lluniau yn y casgliad yma i gyd yn lluniau o ffoaduriaid trefol, lluniau wedi eu tynnu mewn wyth o ddinasoedd ar draws pedwar cyfandir.
Holwr Beth yw ffoaduriaid trefol?
Andrew Ffoaduriaid yw pobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi am eu bod wedi cael eu trin yn wael iawn, ac maen nhw’n bryderus am eu diogelwch. Mae ffoaduriaid trefol yn dianc i ddinasoedd ym mhob rhan o’r byd i ddod o hyd i le diogel i fyw ynddo.
Holwr Dydi hynny ddim yn swnio fel rhywbeth cyfareddol a deniadol iawn. Pam y gwnaethoch chi ddewis tynnu lluniau ffoaduriaid?
Andrew Pan fydd pobl yn meddwl am ffoaduriaid maen nhw’n meddwl am bobl mewn gwledydd tramor, wedi gorfod gadael eu cartrefi oherwydd amgylchiadau difrifol, ac yn byw mewn pebyll yng nghanol unlle. Sut bynnag, nid dyna yw hanes pob ffoadur, ac rydw i’n ceisio dangos hynny yn fy ffotograffau. Mae’n wir fod y bobl hynny wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi a phopeth oherwydd eu hamgylchiadau. Ond y dyddiau hyn, mae llawer o ffoaduriaid sydd ddim yn aros mewn gwersylloedd. Erbyn hyn mae dros 6 miliwn o bobl - mwy na hanner ffoaduriaid y byd - yn byw yn rhai o ddinasoedd mwyaf y byd.
Holwr Ble bydd eich ffotograffau’n cael eu harddangos? Mewn oriel yn rhywle?
Andrew Na, enw’r arddangosfa yw ‘Hidden Lives - The Untold Story of Urban Refugees’, ac mae’n cael ei dangos yng ngorsaf ryngwladol St Pancras yn Llundain, o 6 - 31 Ionawr 2013. Y gobaith yw y bydd yn cael ei symud i Frwsel ac yna i Efrog Newydd.
Holwr Mewn gorsaf drenau? Pam byddech chi eisiau arddangos eich ffotograffau mewn gorsaf?
Andrew Mae hyd at filiwn o bobl yn pasio trwy orsaf St Pancras bob wythnos. Mewn lle felly y dylai ffotograffau gael eu harddangos, lle mae cymaint o bobl â phosib yn gallu gweld y lluniau.
Holwr Mae’n amlwg eich bod chi’n ffotograffydd da iawn. Sut ydych hi wedi defnyddio eich dawn er lles pobl eraill?
Andrew Rydw i’n gobeithio y bydd yr arddangosfa yn newid syniad pobl ynghylch y darlun sydd ganddyn nhw yn eu meddyliau o ffoaduriaid trefol. Yn ymyl llun pob unigolyn mae stori amdano ef neu hi. Rydw i eisiau i bobl ddysgu bod pob ffoadur yn unigolyn arbennig, ac nid yn rhan o dyrfa o bobl gydag wynebau iddyn nhw ond heb enw.
Amser i feddwl
Mae’n amlwg bod Andrew McConnell wedi defnyddio’i ddoniau creadigol er mwyn gwneud rhywfaint o les i eraill. Fe allwn ni i gyd ddysgu rhywbeth wrth ystyried ei esiampl.
Mae gennym ni i gyd ddoniau. Mae pob un ohonom ni’n dda am wneud rhywbeth. Efallai mai arlunio neu ddawnsio yw’r peth hwnnw, neu goginio neu ysgrifennu storïau. Efallai ein bod yn dda am chwarae offeryn cerdd neu’n dda mewn chwaraeon, neu wneud rhywbeth hollol wahanol.
Treuliwch foment yn meddwl am yr hyn rydych chi’n dda am ei wneud.
Y ffordd rydyn ni’n dewis defnyddio ein doniau sy’n bwysig.
Felly, sut gallwch chi ddefnyddio eich dawn greadigol er budd pobl eraill?
Darllenydd 1 Rydw i’n hoffi coginio ac yn cael hwyl dda arni. Fe allwn i wneud cacennau bach, mae’n debyg, efo help mam, a mynd â nhw i’r hen wraig sy’n byw drws nesa i ni. Mae hi’n eithaf unig, dwi’n meddwl.
Darllenydd 2 Rydw i’n hoffi rhedeg. Fe allwn i gofrestru i gymryd rhan yn y ras hwyl sy’n cael ei chynnal yn y parc yr wythnos nesaf er mwyn codi arian at elusen.
Darllenydd 3 Rydw i’n hoffi arlunio. Fe allwn i ddylunio poster i’w roi i fyny yn yr ysgol er mwyn helpu stopio bwlio.
Arweinydd Beth fyddech chi’n gallu ei wneud?
Gadewch i ni orffen ein gwasanaeth gyda gweddi fer. Fe allech chi wneud y geiriau hyn yn eiriau i chi eich hunain os hoffech chi.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n cofio am y ffoaduriaid sy’n byw mewn dinasoedd mawr ledled y byd.
Rydyn ni’n diolch am waith Andrew McConnell
Rydyn ni’n meddwl am ein doniau ni ein hunain,
ac yn gweddïo y byddwn ni’n gallu dod o hyd i ffyrdd o’u defnyddio er lles pobl eraill.