Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Troi Dalen Newydd Yn Y Gwanwyn

Y Perchnogion siop a waeddodd, ‘Lladron’

gan Emma Burford

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl pa mor bwysig yw dweud y gwir a throi dalen newydd, gan ddefnyddio addasiad o’r stori, Y Bachgen a waeddodd “Blaidd!”

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r sgript yn addas ar gyfer ei pherfformio gan blant Blwyddyn 3 - Blwyddyn 6.
  • Mae’n bosib i blant dosbarth cyfan gymryd rhan yn y perfformiad. Fe allwch chi newid enwau’r plant a’r bobl yn y sgript i gydweddu ag amgylchedd eich ysgol chi.
  • Syniadau ar gyfer llwyfannu: Y ffordd orau i drefnu’r llwyfan ar gyfer y perfformiad fyddai creu pedwar man ar wahân i gynrychioli pob siop ar y llwyfan: fe fyddai bwrdd gydag arwydd arno yn ddigonol, er bod rhwydd hynt i chi bortreadu’r siopau mor fanwl ag y dymunwch chi wrth gwrs – ffordd dda o gael y plant sy’n artistig i ddangos eu doniau.
  • Cewch chi benderfynu a ydych chi am neilltuo lle i gynrychioli’r dosbarth ysgol . Fe fyddai hwnnw yn y tu blaen o flaen y siopau, ac fe allai’r plant symud i’r ochr pan fyddan nhw’n gwylio’r stori; fe allen nhw hyd yn oed ymuno a’r gynulleidfa sy’n gwylio’r perfformiad. Gall Mynedfa’r Lladron fod ar ochr y llwyfan, neu os ydych chi am fod yn anturus, fe allech chi eu cael yn dod i’r llwyfan o’r gynulleidfa?
  • Syniadau ar gyfer gwisgoedd: Fe allwch chi fod mor fanwl neu mor syml ag y dymunwch chi gyda’r gwisgoedd. Fe all y Dyfeiswyr fod fel ‘gwyddonwyr ecsentrig’ – gyda drama fel hon, fe fydd y plant yn aml yn barod i gynnig awgrymiadau ynghylch beth sy’n bosib iddyn nhw’u wisgo.
  • Syniadau ar gyfer props: Yn gyffredinol, fe dybiwn y byddai meimio’n ffordd ddigon da o ddangos yr holl ‘ddyfeisiau’ i’r gynulleidfa. Ond, os yw plant eich dosbarth yn neilltuol o ddyfeisgar, yna fe allan nhw greu dyfeisiadau i’w defnyddio ar y llwyfan.
  • Cymeriadau ychwanegol: Dim ond chwe Chwsmer sydd â rhannau i’w llefaru ar y llwyfan, ond fe allech chi rannu’r llinellau hyn rhwng mwy na chwech o blant.
  • Cysylltiadau â’r cwricwlwm: drama, iaith, addysg grefyddol, gwyddoniaeth ac ABaCh.

 

CYMERIADAU

Plentyn ysgol 1

Plentyn ysgol 2

Plentyn ysgol 3

Athrawes

Dyfeisydd 1

Dyfeisydd 2

Dyfeisydd 3

Dyfeisydd 4

Dyfeisydd 5

Dyfeisydd 6

Rheolwr Stryd

Bob

Jen

Cwsmer 1

Cwsmer 2

Cwsmer 3

Cwsmer 4

Cwsmer 5

Cwsmer 6

Lleidr 1

Lleidr 2

Lleidr 3

Gwasanaeth

Cyflwyniad  Tymor y gwanwyn, tymor dechreuadau newydd a glanhau’r gwanwyn yn ein tai. Ar ddechrau blwyddyn newydd, fe fydd pobl yn gwneud addunedau blwyddyn newydd, ond does dim rhaid i hynny ddigwydd ar 1 Ionawr. Mae’r gwanwyn yn dymor lle gallwn ni fyfyrio a meddwl am ei hymddygiad, a meddwl sut y byddai’n bosib i ni wella ein hymddygiad - troi dalen newydd er mwyn gwella ein ffordd o ymddwyn. Heddiw, rydyn ni’n mynd i weld dau unigolyn sy’n gorfod dysgu mewn ffordd anodd bod angen iddyn nhw wella eu ffordd o ymddwyn.

Plant yn eistedd mewn dosbarth.

Plentyn ysgol 1  Paid â dweud dy fod heb wneud dy waith cartref eto!

Plentyn ysgol 2  Do, dyma’r pedwerydd tro ers dechrau’r tymor, ers Dechrau’r Flwyddyn Newydd.

Plentyn ysgol 1  Fydd Miss Wyn am dy ladd di!

Plentyn ysgol 2  Na, fydd hi ddim! Fe wna i ddweud stori fach arall wrthi o’r casgliad sydd gen i’n barod ar gyfer adegau fel hyn.

Plentyn ysgol 1  Beth oedd yr esgus diwethaf – bod y ci wedi bwyta dy waith cartref di?

Plentyn ysgol 2  Na, roedd y llifogydd wedi gorlifo trwy’r ty, a’r dwr wedi ei ddifetha!

Plentyn ysgol 1  Wel, sgwn i wnaiff hi dy gredu di heddiw! Plant eraill yn dod i mewn i’r dosbarth, a’r athrawes hefyd, a’r plant yn rhoi eu llyfrau gwaith cartref i’r athrawes.

Athrawes  Iawn, blant, rywun arall? Pawb i roi eu gwaith cartref i mi, os gwelwch yn dda. (Plentyn 2 yn sefyll o flaen yr Athrawes.) Wel, beth sy y tro yma, Carwyn? Dim gwaith cartref eto?

Plentyn ysgol 2  Na, Miss, mae’n wir ddrwg gen i, ond wnewch chi ddim credu beth ddigwyddodd!

Athrawes  Gad i mi ddyfalu. Dinosor? Estron o’r gofod wedi’i gipio?

Plentyn ysgol 2  Wel …

Athrawes  Cyn i ti ateb ... gad i mi ddweud stori wrthych chi. Enw’r stori yw Y Perchnogion Siop a waeddodd “Lladron!”.

Daw’r actorion ar y llwyfan. Dyfeiswyr 1 i 6 yn dod at ei gilydd wrth eu tair Siop Dyfeisiadau. Mae’r Cwsmeriaid yn crwydro ar hyd y stryd o siop i siop yn edrych ar y dyfeisiadau, ac yn meddwl beth fydden nhw’n gallu ei brynu.

Athrawes  Mae fy stori’n mynd â ni i stryd enwog iawn, llawn o siopau gan Ddyfeiswyr. Enw’r stryd oedd Heol Syniadau Newydd.

Plentyn ysgol 2  Heol Syniadau Newydd, Miss? Erioed wedi clywed amdani!

Athrawes  Mae hynny am nad wyt ti erioed wedi bod yno!

Dyfeisydd 1  Dewch i weld ein dyfeisiadau newydd!

Dyfeisydd 2  Ein dyfeisiadau NEWYDD SBON!

Mae rhai Cwsmeriaid yn mynd at siop Dyfeisydd 1 a 2.

Dyfeisydd 3  Ond fe fydd yn well gennych chi ein dyfeisiadau ni!

Dyfeisydd 4  Mae ein dyfeisiadau ni’n ddyfeisiadau electronig ac fe allan nhw eich helpu chi i wneud eich holl waith ty!

Mae rhai Cwsmeriaid yn mynd at siop Dyfeisydd 3 a 4.

Dyfeisydd 5  Peidiwch ag oedi gormod yn y siopau acw …

Dyfeisydd 6  Mae ein dyfeisiadau ni yn rhai rhyfeddol iawn ac fe fyddan nhw’n gallu gwneud eich bywyd chi yn llawer haws!

Mae gweddill y Cwsmeriaid yn mynd at siop Dyfeiswyr 5 a 6.

Athrawes  Roedd yr Heol bob amser yn llawn o gwsmeriaid eisiau prynu dyfeisiadau newydd. Roedd y Dyfeiswyr yn gwneud arian da – roedd y stryd a’i siopau’n enwog fel un o strydoedd mwyaf llwyddiannus y ddinas. Gymaint felly, nes y penderfynodd Bob a Jen sefydlu siop eu hunain ar yr Heol.

Bob  Dyma ni, Jen, Heol Syniadau Newydd.

Jen  Fawr o le i’w weld, roeddwn i’n meddwl y byddai pethau’n edrych yn well!

Bob  Paid â phryderu, gei di weld fe fydd yr Heol hon yn ein gwneud ni’n gyfoethog mewn dim.

Dyfeisydd 1  Dyfeisiadau newydd!

Dyfeisydd 3  Dewch i weld y model newydd sydd gennym wedi ei ddyfeisio yr wythnos hon!

Dyfeisydd 5  Sugnwr llwch newydd sbon, gorau erioed! Dim ond ar gael yn y siop hon!

Jen  Bob, mae gennym ni broblem.

Bob  Pa broblem?

Jen  Dydyn ni ddim yn Ddyfeiswyr!

Bob  Wel, mae gen i rai syniadau go-lew …

Jen  Dwyt ti erioed yn dy fywyd wedi dylunio unrhyw beth!

Bob  Ond dydi’r cwsmeriaid ddim yn gwybod hynny!

Mae’r Rheolwr Stryd yn cerdded at Bob a Jen.

Rheolwr Stryd  A! Ai chi yw Bob a Jen?

Bob  Ie, fe wnaethon ni sgwrsio ar y teleffon.

Rheolwr Stryd  Iawn, rydych chi’n awyddus i rentu siop ar yr Heol, Heol Syniadau Newydd?

Jen  Yn ôl pob golwg, ydym.

Rheolwr Stryd  OK, dyma’r allwedd. Fe fydda i’n disgwyl y rhent am y mis cyntaf ddechrau’r wythnos nesaf.

Bob  O, diolch yn fawr iawn! (Mae’r Rheolwr Stryd yn cerdded oddi yno.) Felly, dyma ni – fe fyddai’n well i  ni ddechrau dylunio rhai dyfeisiadau rhyfeddol i’w gwerthu i’r Cwsmeriaid gwirion!

Mae Bob a Jen yn cerdded oddi ar y llwyfan.

Athrawes  Felly, mae Bob a Jen yn dechrau ceisio dylunio dyfeisiadau rhyfeddol, ond yn anffodus nid yw pethau mor llwyddiannus ag yr oedden nhw wedi gobeithio.

Daw Bob a Jen yn ôl ar y llwyfan a sefyll wrth eu siop.

Bob  Dewch i weld ei dyfeisiadau rhyfeddol!

Jen  Dyfeisiadau gwych am brisiau gwych.

Daw pedwar Cwsmer ar eu siop.

Cwsmer 1  Dim ond hyn o bethau sydd gennych chi?

Cwsmer 2  Does fawr o ddim byd yma, nag oes!

Bob  Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i berffeithio’r dyfeisiadau yma ar hyd yr wythnos!

Cwsmer 3  Ond mae gan y siopau eraill lawer iawn mwy o ddyfeisiadau na hyn.

Cwsmer 4  Ac maen nhw’n llawer gwell na’r rhain hefyd.

Jen  Beth am y cyfrifiadur ardderchog yma!

Cwsmer 1  Mae rhai llawer gwell na hwn, ac sy’n gweithio’n gyflymach o lawer, yn siopau’r Dyfeiswyr eraill!

Bob  Beth am y tegell yma? Mae’n newid ei liw pan fydd y dwr yn berwi.

Cwsmer 2  Mae’r un sydd yn y siop i lawr yr Heol yn gwneud hynny hefyd.

Cwsmer 3  Ac mae’n berwi’r dwr mewn llai o amser na hwn hefyd!

Jen  Ond, mae gennym ni ragor o bethau i’w gwerthu i chi.

Cwsmer 4  Fel hwn? Beth ydi hwn?

Jen  Ym… hwn ydi …

Cwsmer 1  Sbwriel, dyna beth ydi o!

Cwsmer 4  Dwi’n meddwl y dylen ni fynd i’r siopau eraill.

Cwsmer 3  A finnau hefyd.

Cwsmer 2  Dewch, fe awn ni!

Mae’r Cwsmeriaid yn mynd o siop Bob a Jen.

Jen  Na, arhoswch, plîs!

Bob  Dewch yn ôl!

Jen  O, does dim pwrpas i ni wneud hyn. Fe ddywedais i y byddai’n syniad gwirion! Pam gwnaethon ni hyn, wn i ddim!

Bob  Oherwydd ei fod yn syniad da!

Jen  Syniad da! Nac ydi, wir! Does gennym ni ddim dyfeisiadau na syniadau. Dydyn ni’n dda i ddim!

Bob  Mae gen i gynllun! 

Mae Bob a Jen yn meimio siarad.

Plentyn ysgol 1  Felly, beth wnaethon nhw benderfynu ei wneud?

Athrawes  Gwyliwch!

Mae’r chwe Dyfeisiwr yn sefyll y tu allan i’w siopau yn sgwrsio gyda’i gilydd. Mae Jen yn rhedeg atyn nhw.

Jen  HELP! HELP! Rydw i wedi gweld lladron yn dwyn dyfeisiadau o’n siop ni! O helpwch ni! Wnewch chi fy helpu i, os gwelwch yn dda?

Dyfeisydd 2  O diar, wel, wel! Fe ddof fi i’ch helpu chi, Jen! 

Dyfeisydd 4  Fe ddof finnau hefyd. Allwn ni ddim cael lladron yn Heol Syniadau Newydd!

Dyfeisydd 6  Na fedrwn yn wir! Ie, gadewch i ni i gyd fynd i chwilio amdanyn nhw. Fedran nhw ddim bod wedi mynd ymhell!

Mae’r Dyfeiswyr i gyd yn rhedeg oddi ar y llwyfan. Mae Jen yn sibrwd wrth rywun sydd o’r golwg ar ochr y llwyfan.

Jen  Bob! Brysia!

Mae Bob a Jen yn rhedeg i’r siopau ac yn casglu rhai o ddyluniadau’r Dyfeiswyr.

Athrawes  Ac felly, tra roedd y Dyfeiswyr yn ceisio dal y lladron, fe fu Bob a Jen yn dwyn cynlluniau a dyluniadau o’u siopau.

Mae Bob a Jen yn rhedeg allan gyda’r dyluniadau.

Bob  Brysia, Jen! Brysia!

Athrawes  Ac yna, fe ddechreuodd Bob a Jen wneud dyfeisiadau newydd o’r dyluniadau roedden nhw wedi eu dwyn.

Jen  Mae’r rhain yn ardderchog – dwi’n siwr y byddwn ni’n eu gwerthu mewn dim o dro!

O un i un, mae’r Cwsmeriaid yn dechrau dod ar y llwyfan eto ac yn edrych ar y dyfeisiadau yn siop Bob a Jen.

Athrawes  Ac yn wir, pan ddaeth y Dyfeiswyr yn ôl, roedden nhw’n gweld bod y Cwsmeriaid i gyd wedi mynd i siop Bob a Jen.

Cwsmer 1  Mae’r rhain yn anhygoel!

Cwsmer 2  Ardderchog!

Cwsmer 3  Rhagorol! Gwell o lawer na’r dyfeisiadau oedd gennych chi o’r blaen!

Cwsmer 4  Fe bryna i dri o’r rhain!

Athrawes  Ac wrth i’r cynnwrf ddatblygu, fe dynnodd hynny sylw’r Dyfeiswyr eraill!

Mae’r Dyfeiswyr yn mynd i siop Bob a Jen.

Dyfeisydd 1  Waw, edrychwch ar y teledu yma. Roeddwn i wrthi’n dylunio un fel hwn.

Dyfeisydd 3  A hwn! Fe feddyliais i am beiriant tostio fel hwn yn ddiweddar!

Dyfeisydd 5  Mae rhywbeth sydd ddim cweit yn iawn yma. 

Dyfeisydd 6  Wel, mae’n ymddangos does dim wedi ei ddwyn!

Dyfeisydd 2  Hen dro na wnaethon ni ddal y lladron!

Dyfeisydd 4  Gobeithio na ddôn nhw’n ôl.

Plentyn ysgol 2  Felly, fe wnaeth Bob a Jen gymryd y dyluniadau heb ofyn?

Plentyn ysgol 1  Mae hynny’n beth ofnadwy!

Athrawes  Wel, ie, fe wnaethon nhw ddweud celwydd am y lladron yn dwyn eu dyfeisiadau nhw, ac fe wnaeth y bobl glên ar Heol Syniadau

Newydd eu helpu. Ac ar ôl hynny, fe waeddodd Bob a Jen ‘Lladron!’ sawl gwaith wedyn. Ac fe wnaethon nhw ddwyn llawer iawn mwy o gynlluniau a dyluniadau.

Plentyn ysgol 2  A gwneud mwy o arian.

Plentyn ysgol 1  Ond pam nad oedd y Dyfeiswyr eraill yn amau bod rhywbeth o’i le?

Athrawes  Wel …

Daw’r Cwsmeriaid i mewn eto, a chasglu ynghyd wrth siop Bob a Jen. Mae’r Dyfeiswyr yn sefyll ar ochr arall y llwyfan.

Cwsmer 1  Mwy o ddyfeisiadau newydd gwych!

Cwsmer 3  Fe bryna i ddau o’r ymbaréls newydd yma sydd gennych chi!

Dyfeisydd 1  Fi ddyluniodd yr ymbarél yna!

Cwsmer 5  A’r gyfrifiannell yma!

Dyfeisydd 4  Hei!

Dyfeisydd 3  Roedd dyluniad y gyfrifiannell acw gen i’n barod i’w wneud y pnawn ’ma!

Dyfeisydd 5  Rydw i wedi blino ceisio dal y lladron drwg sydd o gwmpas y lle y ddyddiau yma.

Dyfeisydd 6  Rhaid eu bod yn eithriadol o gyflym. Mae’n ymddangos eu bod yn dwyn dyluniadau Bob a Jen, ac yna’n diflannu!

Dyfeisydd 2  Ie, os oes lladron, yn y lle cyntaf!

Dyfeisydd 4  Be wyt ti’n feddwl?

Dyfeisydd 2  Beth os nad oes unrhyw ladron, a bod Bob a Jen yn defnyddio’r esgus hwnnw i ddwyn ein dyluniadau ni?

Dyfeisydd 1  Wnes i ddim meddwl am hynny! 

Dyfeisydd 5  Ydi, mae yn beth od, bob tro rydyn ni’n gadael ein siopau i fynd i’w helpu nhw, mae dyfeisiadau newydd yn ymddangos yn eu siop

Dyfeisydd 3  Dw i wedi cael llond bol ar hyn!

Plentyn ysgol 2  Yn wir! Mae’r Dyfeiswyr yn wirion os ydyn nhw’n dal i gredu Bob a Jen.

Plentyn ysgol 1  M! Mae’n ymddangos bod y Dyfeiswyr yn dechrau blino ar y celwyddau mae Bob a Jen yn eu dweud wrthyn nhw.

Athrawes  Wel, fel roedd y siop yn dod yn lle mwy a mwy poblogaidd, ac yn denu mwy a mwy o gwsmeriaid, roedd Bob a Jen yn gwneud mwy a

mwy o arian, ac roedd eu siop yn cael mwy a mwy o sylw - nid yn unig gan gwsmeriaid ond hefyd gan gymeriadau mwy amheus.

Lleidr 1  Wel, wel, edrychwch ble rydyn ni  – Heol Syniadau Newydd. 

Lleidr 2  Rydw i wedi clywed bod un o’r siopau yma’n gwneud yn dda iawn – mae ynddi lawer iawn o ddyfeisiadau gwych ar werth. Pob math o

bethau!

Lleidr 3  Mae’r siop maen nhw’n ei galw’n Siop Bob a Jen yn gwneud lot o bres. Ffortiwn!

Lleidr 1  Fe hoffwn i wneud tipyn o bres!

Lleidr 3  Os wyt ti eisiau gwneud pres, fe allen i gymryd rhai o’r dyfeisiadau a gwneud ein ffortiwn ein hunain!

Lleidr 2  Gadewch i ni ddod yn ôl ar ddiwedd y dydd pan fydd y siopau’n cau!

Athrawes  A dyna’n union beth ddigwyddodd. Pan ddaeth i’n amser cau.

Mae Jen a Bob y paratoi i gau'r siop, pan ddaw’r lladron ar redeg a dwyn rhai o’r dyfeisiadau.

Jen  O na! Ein dyfeisiadau! Rhowch nhw i lawr! Gollyngwch  nhw! 

Bob  Dos i nôl help, Jen! Fe wna i geisio anfon y lladron oddi yma!

Athrawes  Rhedodd Jen at y Dyfeiswyr eraill i chwilio am help, tra roedd Bob yn ceisio achub rhai o’r dyfeisiadau.

Jen  HELP! HELP! Mae lladron yn dwyn dyfeisiadau o’n siop ni! O helpwch ni, plîs! Wnaiff rhywun ein helpu ni, plîs?

Mae’r Dyfeiswyr yn aros yn llonydd, dydyn nhw ddim yn symud.

Dyfeisydd 1  Be? Yr un lladron ag o’r blaen?

Dyfeisydd 2  Ydyn nhw wedi dwyn eich dyfeisiadau chi?

Dyfeisydd 3  Ydych chi eisiau i ni redeg ar eu holau a cheisio’u stopio?

Jen  Plîs! Maen nhw’n mynd i ddwyn ein stoc ni i gyd!

Dyfeisydd 4  Rhyfedd! Fyddech chi’n meddwl y byddai’r lladron hyn wedi cael eu dal bellach. Maen nhw’n dod yn ôl i’r un siop bob tro, a does neb

yn ôl pob golwg wedi eu gweld o gwbl - neb ond chi!

Jen  Na, na, mae’r rhain yn lladron go iawn! (Mae Jen yn sylweddoli beth mae hi wedi ei ddweud ac yn rhoi ei llaw dros ei cheg.)

Dyfeisydd 5  Lladron go iawn, ie? Be, o’i gymharu â’r rhai eraill fu yn eich siop chi, ie?

Jen  Na na, maen nhw yn y siop ar hyn o bryd! Plîs, dewch!

Dyfeisydd 6  Dydw i ddim yn meddwl. Rydw i newydd ddylunio ddyfais newydd, dyfais yr ydw i eisiau ei chadw i mi fy hun, nid dyfais i chi ei

gwerthu!

Athrawes  Doedd neb am gredu bod lladron o ddifrif yn dwyn o’r siop. Y diwrnod wedyn fe ddaeth Cwsmeriaid i siop Bob a Jen fel arfer, ond i

ddarganfod …

Cwsmer 1  Bobol bach! I ble’r aeth eich holl ddyfeisiadau rhyfeddol?

Cwsmer 3  Ydych chi’n symud oddi yma?

Cwsmer 5  Ydych chi wedi pacio pob peth?

Jen  Na, fe gawson nhw eu dwyn.

Cwsmer 2  Eu dwyn?

Cwsmer 4  O, dyna ofnadwy! 

Cwsmer 6  Wnaeth neb geisio eich helpu?

Mae’r Dyfeiswyr yn dod i’r siop.

Dyfeisydd 1  Fe fydden ni wedi helpu.

Dyfeisydd 4  Pe byddai Bob a Jen heb ddefnyddio “Lladron!” fel esgus o’r blaen er mwyn iddyn nhw gael cyfle i ddwyn ein dyfeisiadau ni!

Dyfeisydd 6  Roedden ni’n meddwl mai defnyddio’r un hen stori bod lladron yno yr oedden nhw eto.

Dyfeisydd 2  Dim ond PEDAIR gwaith y maen nhw wedi  gwneud hynny o’r blaen.

Cwsmer 1  PEDAIR gwaith! 

Cwsmer 3  Mae hynny’n ofnadwy.

Cwsmer 5  Rydw i’n meddwl y dylech chi adael Heol Syniadau Newydd.

Cwsmeriaid  Yn wir!

Jen  Peidiwch â’n hanfon ni oddi yma! Rydyn ni wedi dysgu ein gwers. Fe wnawn ni newid ein ffordd o fyw.

Bob  Mae’n wir ddrwg gennym! Rydyn ni wedi sylweddoli na ddylai unrhyw un ddweud celwydd, oherwydd pan fyddwch chi’n dweud celwydd fydd

neb yn eich credu chi wedyn pan fyddwch chi yn dweud y gwir.

Athrawes  Ac felly, fe sylweddolodd Bob a Jen bod dweud celwyddau yn gwneud i bobl beidio eich credu wedyn pan fyddwch chi’n dweud y gwir.

Gwers dda i’w dysgu, ydych chi’n cytuno?

Plentyn ysgol 2  Iawn, Miss. Mae’n wir ddrwg gen i. Wnaeth yr un dinosor ddwyn fy ngwaith cartref. Dydw i ddim wedi ei orffen. Fe allwn i wneud gydag ychydig o help i ddeall rhywbeth.

Athrawes  Wel, mae hynny’n iawn, fe allwn i gael golwg arno ar ddiwedd y wers. Rwy’n falch dy fod ti wedi dweud y gwir, Carwyn, yn hytrach na dweud celwydd. Dysgwch oddi wrth y stori hon, ac rwy’n siwr y byddwch chi’n gwneud yn llawer gwell o hyn ymlaen.

Amser i feddwl

Annwyl Dduw,
Helpa ni i beidio â bod yn anonest,
ac i ddysgu oddi wrth ein camgymeriadau.
Arwain ni i wella ein ffyrdd ar gyfer y gwanwyn
ac i ffynnu trwy gydol y flwyddyn.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon