Zartusht-No-Diso
Coffau’r proffwyd Zoroastraidd cyntaf
gan Gordon Lamont
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Cyflwyno’r wyl Zoroastraidd, a myfyrio ar athrawiaethau’r proffwyd Zoroaster.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen bwrdd gwyn neu siart troi i arddangos, yn eu tro, y geiriau: ‘Zartusht-no-diso’, ‘meddyliau da’, ‘geiriau da’ a ‘gweithredoedd da’. Fe fydd arnoch chi angen cannwyll hefyd, a modd o’i goleuo.
- Rhywbeth dewisol – Fe allech chi chwarae cerddoriaeth thema’r ffilm 2001: A Space Odyssey – ‘Also sprach Zarathustra’ (felly y dywedodd Zarathustra), gan Richard Strauss.
- Nodwch fod y dyddiad y caiff yr wyl hon ei dathlu’n amrywio’n fawr, yn dibynnu ar ba galendr Zoroastraidd sy’n cael ei ddefnyddio - felly, mae’n bosib i chi gyflwyno’r gwasanaeth hwn unrhyw bryd y mynnoch chi!
Gwasanaeth
- Os ydych chi wedi dewis chwarae cerddoriaeth thema’r ffilm 2001: A Space Odyssey - ‘Also sprach Zarathustra’, gwnewch hynny nawr. Holwch y plant ydyn nhw wedi clywed y gerddoriaeth hon o’r blaen? Os mai ‘Do’ yw’r ateb, holwch iddyn nhw ymhle a pha bryd? Am beth mae’r gerddoriaeth yn gwneud iddyn nhw feddwl? Pa ddarluniau maen nhw’n eu gweld yn eu dychymyg wrth iddyn nhw wrando arni? Dywedwch wrth y plant beth yw enw’r darn. Eglurwch fod y gerddoriaeth wedi cael ei defnyddio mewn ffilm ffug wyddonol enwog a gafodd ei gwneud yn 1968: 2001: A Space Odyssey. Ysbrydolwyd y cerddor, Richard Strauss i gyfansoddi’r gerddoriaeth gan lyfr athronyddol oedd â’r un teitl hefyd, a phrif gymeriad y llyfr hwnnw yw ‘Zarathustra’.
Eglurwch fod y ffordd mae enw’r cymeriad yn cael ei sillafu wedi newid dros amser, ond proffwyd oedd Zoroaster, ac ef oedd sylfaenydd y grefydd sydd wedi cael ei henwi ar ei ôl - Zoroastraeth - yn y rhan o’r byd rydyn ni heddiw’n ei galw’n Iran. Zoroaster oedd un o’r bobl gyntaf i ddysgu’r bobl mai dim ond un Duw sydd. - Eglurwch fod Zoroastraeth yn system o gredu meddylgar. Mae tân a fflamau’n chwarae rhan bwysig iawn yn y gwyliau sy’n gysylltiedig â’r grefydd hon. Yn aml, fe fydd y bobl yn canolbwyntio ar fflam gysegredig tra byddan nhw’n myfyrio , ac weithiau fe fydd pobl yn neidio dros goelcerthi hyd yn oed! Nid meddwl mai fflam yw Duw y mae’r Zoroastriaid, ond maen nhw’n credu bod y fflam yn cynrychioli ei oleuni a’i ddoethineb. Hefyd, mae canolbwyntio ar rywbeth y gallwn ni ei weld ond eto sydd heb fod yn solid, rhywbeth sy’n rhoi gwres a goleuni i ni, yn gallu ein helpu ni i feddwl am Dduw.
- Eglurwch fod Zoroaster wedi treulio llawer o flynyddoedd ar ben ei hun mewn ogof yn myfyrio cyn dod allan ohoni wedyn gyda’i neges i’r bobl. Awgrymwch, er bod treulio cymaint o amser mewn ogof yn beth braidd yn eithafol i’w wneud, efallai y byddai’n dda i bob un ohonom feddwl yn ofalus am foment cyn gwneud rhywbeth neu ddweud rhywbeth. Gofynnwch i’r plant beth maen nhw’n ei feddwl o hynny - pa wahaniaeth fyddai hynny’n ei wneud ym mywyd yr ysgol, er enghraifft? Ydyn nhw’n gallu meddwl am unrhyw enghreifftiau?
- Dangoswch y geiriau cyntaf sydd gennych chi wedi eu paratoi, sef enw’r wyl ‘Zartusht-no-diso’. Dysgwch enw’r wyl i’r plant, trwy ddangos yr enw ar y bwrdd gwyn neu’r siart troi, a’i ail adrodd drosodd a throsodd sawl gwaith gyda’ch gilydd.
Rhywbeth y gallech chi ei wneud ar y pwynt hwn yn ystod y gwasanaeth, os hoffech chi, er mwyn ei wneud yn ddiddorol, yw trefnu’r plant fel bod y geiriau’n ‘teithio ar draws yr ystafell’ fel petai. Er enghraifft, fe allech chi ofyn i’r plant sydd ar y chwith i chi ddechrau’r broses trwy ddweud ‘Zar’, ac yna fe fydd y bloc nesaf yn dweud ‘Tusht’ ymlaen at y bloc nesaf fydd yn dweud ‘No’, a ‘Diso’ i’r bloc olaf. Wedi i chi ail adrodd hynny unwaith neu ddwy, ceisiwch newid cyfeiriad wedyn a gweithio o’r dde i’r chwith, o’n tu blaen i’r tu ôl, ac o’r tu ôl i’r tu blaen hefyd os bydd amser yn caniatáu. - Eglurwch mai enw’r wyl Zoroastraidd yw hwn ac mae’n wyl i helpu pobl gofio am farwolaeth y proffwyd Zoroaster a chofio am ei waith. Ar adeg yr wyl (mae’r dyddiad yn amrywio yn ôl traddodiad a lleoliad), mae Zoroastriaid yn dod ynghyd i ymweld â’r temlau tân ac i weddïo a myfyrio ar neges eu proffwyd. Maen nhw’n mynd i ddarlithoedd ac yn cael trafodaethau sy’n eu helpu i feddwl am dri pheth pwysig – ac rydyn ni’n mynd i feddwl am dri pheth pwysig yma nawr hefyd.
- Yna dangoswch yr ail set o eiriau, ‘meddyliau da’ ar y bwrdd gwyn neu’r siart troi, a gofynnwch i’r plant am eu hawgrymiadau ynghylch beth fyddai’n ‘feddyliau da’ Oes gan y plant enghreifftiau?
- Gwnewch yr un peth wedyn gyda’r lleill - ‘geiriau da’ a ‘gweithredoedd da’, a derbyn awgrymiadau’r plant.
Amser i feddwl
Goleuwch gannwyll, a gwahoddwch y plant i edrych arni a chanolbwyntio ar y fflam yn ystod y cyfnod hwn o ‘Amser i feddwl’. Os yw hynny’n bosib, diffoddwch y goleuadau ar gyfer y rhan hon a gwneud yr ystafell ychydig yn dywyllach fel eu bod yn gallu canolbwyntio’n gyfan gwbl ar fflam y gannwyll.
Crynhowch yr hyn rydych chi wedi bod yn sôn amdano trwy ddweud bod llawer y gallwn ni ei ddysgu oddi wrth Zoroastraeth - crefydd sy’n peri i chi fod yn feddylgar, ac sy’n annog meddyliau da, geiriau da a gweithredoedd da.
Dywedwch wrth y plant bod Zoroastriaid yn teimlo bod canolbwyntio ar fflam wrth iddyn nhw fyfyrio yn eu helpu i feddwl am Dduw. Anogwch bawb i edrych ar y gannwyll a gofynnwch iddyn nhw dreulio moment neu ddwy yn canolbwyntio arni gan gadw’n dawel a llonydd a chanolbwyntio ar eu meddyliau eu hunain. Gofynnwch iddyn nhw beidio â gorfodi syniadau i’w meddwl, dim ond gadael i’w meddyliau fynd a dod yn naturiol yn y tawelwch.
Ar ddiwedd y cyfnod o fyfyrio, dywedwch wrth y plant eich bod yn gobeithio y byddan nhw’n cael diwrnod sy’n llawn o feddyliau da, llawn o eiriau da , ac yn llawn o weithredoedd da.