Na!
Annog y myfyrwyr i allu dweud ‘na’ pan fydd angen gwneud hynny.
gan Helen Bryant
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5
Nodau / Amcanion
Annog y myfyrwyr i allu dweud ‘na’ pan fydd angen gwneud hynny.
Paratoad a Deunyddiau
- Dim gwaith paratoi o flaen llaw.
Gwasanaeth
- Heddiw, fe hoffwn i sôn am un gair bach ond gair sydd, mae’n ymddangos, yn gallu bod ag ystyr a chanlyniadau enfawr. A’r gair hwnnw yw ‘Na’. Mae’n hen, hen, air. Mae cofnod o’i ddefnydd yn Gymraeg yn mynd yn ôl o leiaf i’r 14 ganrif, a honnir fod tarddiad y gair ‘No’ yn Saesneg yn mynd yn ôl mor bell â’r 12 ganrif. A 'na' oedd y gair bryd hynny yn Saesneg hefyd a oedd yn golygu ‘byth’ neu ‘dim o gwbl’.
- Tybed allwch chi gofio’r tro diwethaf i chi gytuno i wneud rhywbeth doeddech chi ddim yn wir eisiau ei wneud. ‘Wrth gwrs, fe wna i ddod i dy barti’, ‘Wrth gwrs, fe gei di gopïo fy ngwaith cartref’, ‘Wrth gwrs, fe alla i dy helpu di gyda di gyda dy broblemau’, ‘Wrth gwrs, fe wna i ddweud wrth Mrs Bryn pam dwyt ti ddim wedi gwneud dy waith cartref mathemateg.’ Yr hyn roeddech chi o ddifrif eisiau ei ddweud ym mhob un o’r sefyllfaoedd hyn oedd, ‘Na, alla i ddim helpu, sori’, ‘Na, dydw i ddim eisiau dod i’r parti am fy mod i’n gwybod y bydd rhywun yno dydw i ddim eisiau ei weld’ a ‘Na, gwna dy waith cartref dy hun. Fe gymrodd oes i mi ei wneud.’
- Ond mae’n ymddangos ei fod, mewn gwirionedd, yn beth anodd dweud ‘Na’. Felly, yn lle hynny, rydych chi’n dweud, ‘Iawn. Dim problem’ a gwenu, oherwydd eich bod chi’n methu dweud ‘Na’ wrth bobl.
- Tybed pa mor hawdd yw hi o ddifrif i ddweud ‘Na’. Mae plant bach yn gwneud hynny’n aml iawn heb bryderu dim am y canlyniadau! Maen nhw’n ysgwyd eu pen, neu efallai’n strancio, neu’n syml yn dweud ‘Na’, a dyna ddiwedd y stori. Dydyn nhw ddim yn cael eu hunain yn gwneud rhywbeth dydyn nhw ddim eisiau ei wneud. Maen nhw’n syml yn gwrthod, ac yna’ n mynd ymlaen i wneud yr hyn maen nhw’n dymuno’i wneud. Dyna i chi braf fyddai gallu gwneud hynny!
- Ar ryw bwynt yn ein bywydau, rhwng bod yn bod yn blentyn bach ac yn oedolyn, mae’r gair ‘Na’ yn dod yn fwy anodd ei ddweud. Tybed a yw hyn oherwydd bod y gair ei hun yn ymddangos fe pe bai’n gysylltiedig â gwrthod i rywun wneud rhywbeth. Er enghraifft, ‘Na! Paid â gwneud hyn’, ‘Na, dwyt ti ddim yn cael hwn’ ac ati, ac ati. Mae’r elfen negyddol sydd ynglyn â’r gair yn ei wneud yn anodd ei ddefnyddio mewn rhai sefyllfaoedd pryd yn wir y dylech chi fod yn dweud ‘Na’. Er enghraifft, pan fydd gennych chi ormod o lawer o waith i’w wneud i gymryd unrhyw waith arall, pan fydd y dasg y gofynnir i chi ei gwneud yn rhy uchelgeisiol, neu pan fydd rhywun yn gofyn i chi wneud rhywbeth rydych chi’n teimlo ei fod ddim yn iawn i’w wneud. Dydyn ni ddim eisiau siomi neu wrthod yr un sy’n gofyn i ni, ac felly dydyn ni ddim yn dweud ‘Na’.
- Felly, gadewch i ni edrych ar sut y byddai’n bosib i ni ddweud ‘Na’ heb ddefnyddio’r gair. Ceisiwch ddefnyddio’r ffyrdd canlynol o ddweud ‘Na’.
Y 'Na' ystyriol. Er mwyn gwneud hyn, rydych chi’n cydnabod cynnwys y frawddeg a’r teimlad o gais, ac yna rydych chi’n ychwanegu’r gwrthod pendant ar y diwedd. Er enghraifft, ‘Rydw i’n gwybod dy fod ti eisiau siarad efo fi ynghylch defnyddio fy ngwaith cartref, ond alla i ddim gwneud hynny heddiw, sori.’
Mae’r 'Na' rhesymol yn ymwneud â rhoi rheswm byr a dilys dros wrthod, heb agor eich hun i drafodaeth bellach. Enghraifft o hyn fyddai, ‘Alla i ddim dod i dy barti di, mae’n ddrwg gen i, am fy mod i’n gorfod mynd allan efo fy nheulu y noson honno.’
Y 'Na' tocyn galw (rain check). Dyma ffordd o ddweud 'Na' i gais penodol heb ddileu’r posibilrwydd y gallech chi ddweud ‘Iawn’ ryw dro arall yn y dyfodol. Fe all y ffordd yma fod yn rhagarweiniad i drafodaeth yn hytrach na bod yn wrthodiad pendant. Peidiwch â defnyddio’r math yma o ymateb oni bai eich bod wirioneddol yn awyddus i dderbyn y cais ond na fedrwch chi wneud hynny am y tro. Er enghraifft, fe allech chi roi ateb tebyg i hwn, ‘Alla i ddim dod allan efo ti heno, ond efallai y bydda i’n gallu dod yr wythnos nesaf.’
Mae’r 'Na' ymholgar yn ffordd o agor y cais neu ei ddargyfeirio, i weld a oes rhywbeth yn ei gylch, neu rywbeth arall y byddech chi eisiau ei wneud. Un ffordd o ddefnyddio’r math hwn o ateb fyddai, ‘Alla i ddim siarad efo ti ar Skype heno, ond a oes unrhyw beth arall yr wyt ti eisiau ei ddweud wrtha i heblaw sôn am dy gariad newydd?
Os yw popeth arall yn methu, mae’r ffordd uniongyrchol o ddweud 'Na' ar ôl. Pan fydd rhywun yn gofyn i chi wneud rhywbeth dydych chi ddim eisiau ei wneud, dywedwch 'Na' a dyna fo! Does dim rhaid i chi ymddiheuro, dim ond bod yn gryno a phendant. Pe byddai rhywun yn gofyn i chi ymuno ag ef neu hi i gael cinio, er enghraifft, a chithau ddim eisiau mynd, dywedwch, ‘Na, dim diolch’ yn gwrtais. - Felly, y tro nesaf, yn hytrach na dweud ‘Iawn’ a difaru wedyn, neu ofidio pam na fyddech chi wedi gallu dweud ‘Na’ o’r dechrau, ceisiwch ddefnyddio un o’r strategaethau hyn neu ddweud ‘Na, dim diolch’ yn syml. Efallai y gwelwch chi wedyn fod bywyd ychydig yn haws. Dydych chi ddim yn bod yn greulon nac yn gas wrth ddweud ‘Na’. Dim ond gofalu amdanoch chi eich hun ychydig yn well yr ydych chi, oherwydd weithiau mae’n rhaid i chi ddweud ‘Iawn’ wrthych chi eich hun, a dweud ‘Na’ wrth bobl eraill.
Amser i feddwl
Treuliwch foment neu ddwy yn meddwl am sefyllfaoedd sydd wedi digwydd oherwydd eich bod wedi cytuno i wneud rhywbeth doeddech chi ddim wir eisiau ei wneud.
Nawr meddyliwch am strategaeth, ffordd o ddweud ‘Na’, a fydd yn gallu eich helpu y tro nesaf y bydd rhywbeth felly’n digwydd.
Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch fod y gair bach ‘Na’ yn bodoli.
Helpa fi i allu defnyddio’r gair bach hwnnw’n ofalus ac yn feddylgar.
Dyddiad cyhoeddi: Mai 2013 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.