Awdurdod
gan The Revd John Challis
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Deall natur awdurdod.
Paratoad a Deunyddiau
- Casglwch nifer o hetiau, trwy eu benthyca, chwilio ymysg dilladau yn y gornel chwarae, neu brynu rhai o siop deganau.
- Fe fydd arnoch chi angen helmed plisman, wig barnwr, coron a meitr esgob, hefyd, efallai, a rhosglwm (rosette) plaid wleidyddol. Ac, yn olaf, goron o ddrain, ond rhaid iddi beidio bod yn rhy bigog! Fe allech wneud un o bapur.
Gwasanaeth
- Gofynnwch i rai o'r plant ddod ymlaen atoch chi a gwisgo'r hetiau a'r rhosglwm, beth bynnag fydd gennych chi i’w defnyddio.
- Dywedwch wrthyn nhw bod thema ynghlwm wrth yr eitemau a gofynnwch iddyn nhw beth maen nhw'n feddwl yw’r cysylltiad.
- Fwy na thebyg fe fydd yn rhaid i chi gymell yr ateb mai pobl mewn awdurdod fydd yn gwisgo hetiau fel hyn fel arfer.
- Gofynnwch iddyn nhw pa fath o awdurdod sydd gan y bobl fydd yn gwisgo'r hetiau hyn.
- Siaradwch â'r plant am bob un o'r hetiau a'r gwahanol gyfrifoldebau sydd gan y bobl sy'n eu gwisgo, fel a ganlyn, gan orffen gyda'r goron a'r goron ddrain.
- Dywedwch rywbeth yn debyg i'r ffaith bod aelodau’r heddlu’n gorfod cymryd penderfyniadau a gweithredu gydag awdurdod pan fydd rhywun yn torri'r gyfraith, a sut y caiff deddfau eu gwneud gan y Senedd.
- Bydd barnwyr yn gorfod defnyddio'u hawdurdod i benderfynu a yw rhywun yn euog o gyflawni trosedd ai peidio. Nid yw hyn yn beth hawdd i'w wneud, ond y mae ganddyn nhw reolau i'w dilyn.
- Mae gan wleidyddion awdurdod, ond yn unig oherwydd bod pobl wedi rhoi'r grym iddyn nhw trwy eu hethol i’w cynrychioli.
- Mae esgob yn gwisgo meitr i ddangos ei fod ef neu hi wedi cael awdurdod gan Dduw i weithredu yn yr Eglwys.
- Mae gan y Frenhines awdurdod fel arweinydd ar y wlad, ond nid yw hi'n gallu newid deddfau. Trwy etifeddiaeth a chael ei choroni y mae hi wedi cael ei hawdurdod. Mae ganddi ddyletswydd i ddefnyddio ei bywyd a'i safle i wasanaethu, ac i wneud pethau sydd er lles y deyrnas. Mae ei choron a'i phalas yn arwyddion gweledol o'i hawdurdod, ond mae ganddi hefyd awdurdod mewnol.
- Roedd gan Iesu awdurdod hefyd, ond awdurdod tra gwahanol oedd ei awdurdod ef. Fe wyddai ef pa bryd i fod yn ostyngedig. Roedd Iesu'n gwybod hefyd pryd i orchymyn pobl ddrwg i atal yr hyn yr oedden nhw'n ei wneud. Roedd Iesu’n llefaru ag awdurdod ac roedd pobl yn holi'n aml o ble roedd yr awdurdod hwnnw'n dod.
- Mae gennym ninnau hefyd, awdurdod, bob un ohonom. Efallai pan fydd grwp ohonoch eisiau chwarae gêm, ond ddim yn gwybod beth i'w chwarae, rhaid i rywun yn eich plith wneud penderfyniad. Pe byddech chi’n gweld rhywun yn chwarae â matsis, neu’n ymddwyn yn wirion a pheryglus, efallai y byddai'n rhaid i chi weithredu ag awdurdod.
- O ba le y daw'r awdurdod hwnnw? Yn wahanol i wleidyddion, sy'n derbyn eu hawdurdod gan bobl y wlad a wnaeth eu hethol, neu'r heddlu neu'r barnwyr, sy'n gweithredu er mwyn gosod rheolau, neu esgob, sydd â'i reolau wedi eu gosod gan yr Eglwys, mae awdurdod y Frenhines yn dod oddi wrth Dduw a'r Senedd. Rhoddwyd awdurdod i'r Frenhines pan fu farw ei thad a chafodd ei choroni, ond caiff ei hawdurdod moesol ei sylfaenu nid yn unig ar ei theitl ond hefyd ar ei hawdurdod mewnol, ac mae hwnnw gan bob un ohonom.
Amser i feddwl
Meddyliwch am ba awdurdod sydd gennych chi yn eich bywyd. Ai awdurdod mewnol yw hwn neu awdurdod ffurfiol fel, er enghraifft, eich bod wedi cael eich ethol i fod ar y cyngor ysgol.
Gweddi
Annwyl Dduw,
gad i mi fod yn awdurdod da yn y meysydd rydw i’n gwybod amdanyn nhw, a gad i mi fod yn ddigon gostyngedig i ofyn am help ynghylch pethau nad ydw i’n gwybod llawer amdanyn nhw.
A gad i mi fod yn ddigon doeth i wybod y gwahaniaeth rhwng y pethau hyn.
Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2013 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.