Dydi hyn ddim yn deg!
Archwilio’r syniad o beth sy’n deg, mewn perthynas â llwyddo i gael y bleidlais i ferched.
gan Gordon Lamont
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Archwilio’r syniad o beth sy’n deg mewn perthynas â llwyddo i gael y bleidlais i ferched.
Paratoad a Deunyddiau
- Mae’n bosib defnyddio’r gwasanaeth hwn ar unrhyw adeg, ond mae’n neilltuol o ddefnyddiol yn ystod cyfnod etholiadau cyngor ysgol, a hefyd yn ystod Wythnos y Senedd sy’n digwydd ym mis Tachwedd bob blwyddyn, (15–21 Tachwedd yn 2013), pan fydd rôl democratiaeth yn ein bywyd cenedlaethol yn cael ei dathlu (gwelwch www.parliamentweek.org am ragor o wybodaeth).
- Mae nifer cynyddol i adnoddau ynghylch Wythnos y Senedd ar gael i ysgolion, gyda deunyddiau newydd yn cael eu hychwanegu fel mae’r digwyddiad yn nesu, yn cynnwys adnoddau sy’n cyflwyno dadl a sioeau sleidiau clywedol yn archwilio’r testun pleidlais i ferched – gwiriwch y diweddariadau ar: www.parliamentweek.org/schools).
- Mae Gwasanaeth Addysg y Senedd wedi cynhyrchu cynllun gwersi ar gyfer Cyfnod Allweddol 2, a fydd yn cyd-fynd â’r gwasanaeth hwn, edrychwch ar: www.parliament.uk/documents/education/docs/suffragettes/ks2/suffragettes-ks2-lesson-plan.pdf
Gwasanaeth
- Gofynnwch rai cwestiynau agored syml i’r plant, cwestiynau y bydd y rhan fwyaf yn gallu cynnig ateb iddyn nhw. Gofynnwch iddyn nhw godi eu dwylo a disgwyl i chi ddewis rhywrai i gynnig atebion. Fe allech chi ofyn cwestiynau fel:
- Beth yw eich hoff fwyd?
- Pa un yw’r consol gemau gorau?
- Pa chwaraeon ydych chi’n eu mwynhau orau?
- Beth yw eich hoff bwnc yn yr ysgol?
- Pa un yw eich hoff lyf
Y bwriad wrth wneud y gweithgarwch hwn yw gofalu eich bod yn dewis bachgen i ymateb i chi bob tro.
- Ar ôl bod wrthi am ychydig, holwch y plant ydyn nhw wedi sylwi ar rywbeth anarferol ynghylch y sesiwn holi ac ateb hon. Os oes raid i chi, fe allech chi awgrymu i’r plant ei fod yn ymwneud â phwy ydych chi’n ei ddewis i gynnig atebion. Gofynnwch, ‘Ydych chi’n meddwl ei fod yn rhywbeth i’w wneud â phwy rydw i’n ei ddewis i ateb’. Er mwyn helpu i bwysleisio hyn, fe allech chi ddweud mai dim ond y bechgyn sy’n cael codi eu llaw i gynnig ateb y cwestiwn hwn.
- Cyfaddefwch mai dim ond bechgyn rydych chi wedi bod yn eu dewis i ateb bob tro, o’r dechrau. Yna gofynnwch i’r plant ymateb i’r cwestiwn hwn, ‘Pwy sy’n meddwl y dylwn i gymryd atebion gan rai o’r merched hefyd?’ Gwnewch yn glir eich bod y tro hwn yn mynd i dderbyn ymateb gan bawb, nid dim ond gan y bechgyn!
- Gofynnwch i’r plant awgrymu pam y dylech chi fod yn derbyn atebion gan y merched yn ogystal â gan y bechgyn. Derbyniwch ymateb gan drawstoriad o’ch cynulleidfa, a’u gwerthfawrogi, a chofiwch dderbyn awgrymiadau gan y merched hefyd y tro hwn. Ceisiwch bwysleisio’r syniad o fod yn deg, ac nad oedd unrhyw reswm pam y dylech chi eithrio’r merched yn y drafodaeth. Gofynnwch i’r merched sut roedden nhw’n teimlo pan oeddech chi ddim ond yn gofyn i’r bechgyn am eu hymateb bob tro, a ddim yn dewis merch i gynnig ateb. Fe allech chi ofyn hefyd i’r bechgyn sut roedden nhw’n teimlo. Fe allech chi hefyd ddangos eich bod chi wrth ofyn y cwestiwn hwn yn ei ofyn, am y tro, i’r bechgyn a’r merched ar wahân!
- Holwch oes rhywun wedi clywed y gair ‘Swffragét’ (neu ‘Suffragette’), ac a oes rhywun yn gallu egluro beth yw ystyr y gair? Gwerthfawrogwch unrhyw gynigion ac eglurwch mai hen air yw ‘suffrage’ sy’n golygu ‘bod â’r hawl i bleidleisio - having the right to vote’. Eglurwch fod merched am amser hir iawn ddim yn cael pleidleisio mewn etholiadau. Ond, yn nechrau’r ugeinfed ganrif, fe ddechreuodd merched, a rhai dynion hefyd, fynnu cael hawliau cyfartal i ddynion a merched. Fe ddechreuodd un papur newydd eu galw’n ‘Suffragette’. Fe ddechreuodd y bobl hyn brotestio ledled y wlad ac roedden nhw’n cael eu carcharu, a chael eu gorfodi i fwyta os oedden nhw’n mynd ar streic newyn. Roedd pobl yn poeri arnyn nhw, ac yn gwneud pethau gwaeth hefyd iddyn nhw, dim ond am eu bod eisiau cael eu cydnabod yn gydradd â dynion. Yn y diwedd, yn 1918, fe wnaethon nhw ennill yr hawl i gael pleidleisio – ond dim ond i ferched oedd dros 30 oed! Bu raid iddyn nhw aros tan 1928 cyn i ferched gael yr hawl i bleidleisio ar yr un telerau â dynion.
Amser i feddwl
Dychmygwch sefyllfa lle mai dim ond merched, neu dim ond bechgyn fyddai â’r hawl i ateb cwestiynau, drwy’r dydd, bob dydd . . . sut sefyllfa fyddai honno?
Allwch chi ddychmygu sut roedd y swffragetiaid yn teimlo - roedd disgwyl iddyn nhw ufuddhau i’r gyfraith, ond doedd ganddyn nhw ddim hawl bod yn rhan o’r penderfyniadau ynghylch pwy oedd yn eu llywodraethu na phwy oedd yn gwneud y deddfau?
Fe ddioddefodd llawer o’r swffragetiaid yn enbyd oherwydd eu bod eisiau yr un hawliau â dynion - fe fu rhai farw hyd yn oed yn yr ymdrech i sicrhau bod merched yn cael pleidleisio. Meddyliwch am foment ynghylch eu bywyd a’u hymdrechion.
Fyddwch chi’n defnyddio eich hawl i bleidleisio pan fyddwch chi’n hyn? Oes rhai pethau rydych chi’n gallu pleidleisio arnyn nhw eisoes, fel mewn etholiadau cyngor ysgol, er enghraifft?