Diolch Am Y Cynhaeaf
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Dosbarth Derbyn
Nodau / Amcanion
Gwerthfawrogi cynhaeaf y bwydydd y mae Duw wedi eu darparu ar ein cyfer.
Paratoad a Deunyddiau
- Casglwch ynghyd y ffrwythau, llysiau a’r grawnfwyd canlynol i’r plant eu dal yn ystod y gwasanaeth, neu ddelweddau o’r rhain gyda’r modd o’u dangos yn y gwasanaeth (os byddwch chi’n defnyddio lluniau, argraffwch ddigon fel bod pob plentyn yn cael llun i’w ddal yn ystod cam 7 y gwasanaeth hwn):
- afal coch, grawnwin gwyrdd, oren, gellygen/ peren, pomgranad
- moronen, ysgewyll, blodfresychen, nionyn a’r llysieuyn tebyg i fresychen - cêl
- llun o gae gwenith, haidd neu geirch
- ceirch uwd, creision yd, reis.
Gwasanaeth
-
Chwaraewch gêm ddyfalu gyda’r plant. Rhowch gliwiau iddyn nhw sy’n disgrifio ffrwyth neu lysieuyn, gan ofyn i’r plant ddyfalu beth ydych chi’n ei ddisgrifio. Er enghraifft, ‘Rydw i’n meddwl am lysieuyn. Mae’n lliw oren. Mae’n hir ac yn mynd yn big yn ei flaen. Fe allwch chi ei fwyta wedi ei dorri’n ddarnau, heb ei goginio, neu ei fwyta wedi ei goginio gyda saig o gig.’ Neu, ‘Rydw i’n meddwl am ffrwyth. Mae’n tyfu mewn clwstwr. Fe all fod yn wyrdd neu’n lliw porffor. Mae’n ffrwyth suddog, ac mae pobl yn gwneud gwin gyda llawer o’r ffrwythau hyn.’ Neu, ‘Rydw i’n meddwl am gnwd grawnfwyd. Rydych chi’n gwneud uwd gyda’r grawnfwyd hwn.’ Dangoswch y ffrwyth, y llysieuyn neu’r grawnfwyd, neu lun o’r eitem, pan fydd rhywun wedi dyfalu’n gywir neu wedi i chi roi digon o gyfle iddyn nhw roi cynnig arni os ydyn nhw’n methu dyfalu eu hunain beth ydyw.
- Dangoswch y gweddill o’r ffrwythau, y llysiau, a’r grawnfwyd, neu ddelweddau ohonyn nhw, a’r llun o’r cae yd – fel sydd wedi ei nodi uchod – popeth ar wahân i’r cêl a’r pomgranad.
Nodwch bob un yn ei dro, a gofynnwch gwestiynau fel, ‘Pwy sy’n hoffi’r ffrwyth hwn?’, ‘Pryd rydyn ni’n bwyta hwn, a chyda beth?’ ac felly ymlaen. - Cyflwynwch y cêl fel llysieuyn sydd, o bosib, yn anghyfarwydd i’r plant. Mae cêl yn debyg i fresych, ac fe all fod â dail gwyrdd neu ddail porffor. Mae’n llawn fitaminau a chalsiwm.
- Cyflwynwch y pomgranad. Os bydd hynny’n briodol efallai y gallech chi roi cyfle i’r plant flasu’r ffrwyth hwn, sydd eto o bosib ychydig yn anghyfarwydd.
- Eglurwch fod llawer o’r bwydydd hyn yn tyfu yn ein gwlad ni. Mae’r grawnwin hyd yn oed yn tyfu mewn rhai ardaloedd. Ond mae rhai o’r bwydydd y byddwn ni’n eu mwynhau angen tywydd cynhesach i dyfu ac aeddfedu. Mae’r rhieni’n tyfu mewn gwledydd pell. Y dyddiau hyn, rydyn ni’n gallu mewnforio’r bwydydd hynny am fod gennym ni awyrennau a chychod cyflym, ac oergelloedd a rhewgelloedd ynddyn nhw, i gadw’r cynnyrch yn ffres. Felly, fe allwn ni ddod o hyd i’r holl bethau hyn ar silffoedd ein harchfarchnadoedd.
Holwch y plant ydyn nhw’n gwybod pa ffrwythau, llysiau a grawnfwyd sydd ddim yn tyfu ym Mhrydain? - Eglurwch fod angen pridd da a ffrwythlon ar y pethau hyn er mwyn iddyn nhw dyfu. Ac maen nhw angen haul a glaw hefyd. Mae Duw’n darparu’r pethau hyn i gyd. Ar adeg y cynhaeaf, rydyn ni’n cofio pa mor dda yw Duw, yn darparu’r holl fwydydd da hyn ar ein cyfer, fel y gallwn ni eu bwyta a chadw’n iach. Rydyn ni’n dweud diolch, Dduw Dad, am y cynhaeaf.
- Dysgwch y gân fach syml hon sy’n dilyn i’r plant, ar yr alaw ‘I can sing a rainbow’, gan roi ffrwyth , llysieuyn neu rawnfwyd, neu luniau ohonyn nhw, i bob un eu dal a’u dangos yn y drefn y cyfeirir atyn nhw yn y gân. Gall pob plentyn roi cam ymlaen pan fydd cyfeiriad at yr eitem y mae’n ei dal.
Afalau coch hyfryd a grawnwin melys lu,
pomgranadau, orenau a phêrs.
Cytgan:
Diolch am gynhaeaf,
am gynhaeaf,
am ein bwyd bob dydd.
Moron oren crensiog ac ysgewyll Brwsel gwyrdd,
nionod a blodfresych a chêl.
Cytgan
Caeau o wenith a barlys a cheirch,
Rice Krispies, a Cornflakes ac uwd.
Cytgan
Amser i feddwl
Gofynnwch i’r plant gau eu llygaid, a meddwl am blât mawr. Yna, gofynnwch iddyn nhw feddwl pa fwydydd y bydden nhw’n eu dewis i’w rhoi ar y plât?
Fe allai’r plant wneud llun y plât wedyn, a nodi’r pethau hyn, wedi iddyn nhw fynd yn ôl i’r dosbarth, yn barod ar gyfer llunio arddangosfa dosbarth gyda’r teitl ‘Diolch am y cynhaeaf’.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y cyfnod hapus hwn - adeg y cynhaeaf.
Diolch i ti am yr holl fwydydd sy’n tyfu mewn gerddi ac mewn caeau ar ffermydd.
Diolch i ti hefyd am yr holl fwydydd sy’n tyfu mewn gwledydd sy’n bell o’n gwlad ni.
A diolch i ti hefyd am ddarparu’r grawn i wneud y bara rydyn ni’n ei fwyta bob dydd.