Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Helo Sgryfii

Annog y plant i feddwl am rannu’r cynhaeaf fel bod gan bawb fwyd i’w fwyta.

gan The Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Annog y plant i feddwl am rannu’r cynhaeaf fel bod gan bawb fwyd i’w fwyta.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.

  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped yn barod am eich llaw.

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw ar Sgryffi.

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol
    .

    Mae Liwsi Jên yn byw ar fferm gyda’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr a’i brawd bach, Tomi. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi, y mul bach sy’n byw ar y fferm. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn - pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

  2. Roedd hi’n adeg y cynhaeaf ar fferm Mr Bryn. Roedd Liwsi Jên a Sgryffi yn y berllan gyda Mrs Bryn, yn casglu ffrwythau.

    Holwch y plant pa fath o ffrwythau sy’n tyfu mewn perllannau? Ydyn nhw’n gallu enwi ffrwythau eraill, hefyd?

    Pa ffrwythau mae’r plant yn feddwl y mae Liwsi Jên yn eu casglu?

  3. Roedd hi wedi bod yn flwyddyn dda am afalau. Roedd Liwsi Jên wedi rhoi cyfrwy ar gefn Sgryffi, gyda dwy fasged ddofn bob ochr i’r cyfrwy. Wrth i’w mam basio’r afalau iddi, roedd Liwsi Jên yn rhoi’r ‘afalau bwyta’ yn un fasged a’r ‘afalau coginio’ yn y fasged arall.

    Fe allech chi egluro’r gwahaniaeth yma rhwng y ddau wahanol fath o afalau.

    Ar ôl llenwi’r basgedi fe arweiniai Liwsi Jên Sgryffi yn ôl i’r ysgubor fawr, ac yno roedd hi’n gosod yr afalau’n ofalus ar wellt mewn bocsys. Erbyn hyn roedden nhw eisoes wedi mynd yn ôl ac ymlaen rhwng y berllan a’r ysgubor bedair gwaith, ac roedd Liwsi Jên a Sgryffi’n dechrau blino.

  4. Y tro nesaf, fe ddilynodd Mrs Bryn nhw o’r berllan a thra roedd Liwsi Jên yn brysur yn gosod yr afalau ar y gwellt yn y bocsys yn yr ysgubor fe aeth Mrs Bryn i gegin y ffermdy a dod â diod o lemonêd a bisgedi allan iddyn nhw. . .  a moronen i Sgryffi, wrth gwrs! ‘Hi-ho, hi-ho!’ meddai Sgryffi, gan nodio’n ddiolchgar. Roedd y tri ohonyn nhw’n barod am orffwys bach, felly fe wnaeth Liwsi Jên a’i mam eistedd wrth fwrdd picnic yng nghornel y buarth.

    ‘Wel, dyna lawer o afalau rydyn ni wedi eu casglu heddiw!’ meddai Mrs Bryn.
    ‘Wnawn ni byth eu bwyta i gyd ein hunain, Mam,’ meddai Liwsi Jên
    ‘Na, Liwsi Jên,’ atebodd ei mam, ‘mae mwy na digon yma. Fe allen ni roi rhai i’r bobl sy’n gofalu am y Banc Bwyd yn y pentref, i’w rhannu (efallai bydd angen ichi fod yn sensitif wrth egluro beth yw Banc Bwyd, a sut mae’n gweithio). Fe allen ni wneud tartenni afalau.’
    ‘O, ie!’ cytunodd Liwsi Jên, a oedd wrth ei bodd yn rholio crwst i wneud tarten.

    Gofynnwch i’r plant, pwy sy’n hoffi coginio? Beth maen nhw wedi bod yn ei wneud?

    ‘Rwy’n siwr y byddai Nain a Taid yn hoffi tarten afalau  . . .  a dyna Mrs Khan i fyny’r ffordd.’
    ‘A rhaid i ni beidio ag anghofio am Mr Smith yn y bwthyn’, ychwanegodd Mrs Bryn.

    Rhwng awgrymiadau’r ddwy ohonyn nhw, yn fuan iawn roedd ganddyn nhw restr o bobl roedden nhw’n gwybod a fyddai’n hoffi tarten afalau wedi ei choginio gartref.

    ‘Gawn ni wneud y tartenni heno, Mam?’ gofynnodd Liwsi Jên yn awyddus.
    ‘Rydw i’n meddwl ein bod wedi gweithio’n ddigon caled eisoes heddiw, dywedodd ei mam wrthi’n garedig. ‘Fory, efallai!’ ‘Hi-ho, hi-ho!’ cytunodd Sgryffi, gan nodio’i ben.

    Ac felly, dyna beth wnaethon nhw. Y diwrnod wedyn, fe wnaeth Liwsi Jên a’i mam wyth o dartenni gyda’r afalau coginio, a rhoi rhai o’r afalau bwyta melys mewn bagiau. Yna, yn y pnawn, fe wnaethon nhw roi harnais am Sgryffi a’i gysylltu â throl fach, a llenwi’r drol yn llawn o dartenni a bagiau o afalau yn barod i’w rhannu, ac i ffwrdd â nhw i’r pentref i rannu’r cynhaeaf o afalau.

    Yna tynnwch Sgryffi, y pyped, oddi am eich llaw.

  5. Ar gyfer Ysgolion Eglwys:

    Mae sawl stori yn y Beibl am Joseff. Dyma un sy’n sôn am gynhaeaf.

    Roedd Joseff wedi cael ei roi mewn carchar mewn gwlad oedd yn ddieithr iddo, ymhell iawn o’r fferm gartref lle’r oedd wedi bod yn byw gyda’i dad a’i 11 brawd. Un noson cafodd Pharo, brenin y wlad ddieithr, freuddwyd ddrwg. Yn y freuddwyd roedd Pharo’n gweld ei hun yn sefyll ar lan Afon Nîl ac yn gweld saith o wartheg tewion braf yn dod allan o’r dwr ac yn dechrau pori ymysg y brwyn ar lan yr afon. Wedyn, fe welodd Pharo saith o wartheg tenau, hyll, yn dod o’r afon, ac er ei syndod beth wnaeth y saith buwch denau ond bwyta’r saith buwch dew! Ond roedden nhw’n dal i fod yr un mor denau a hyll ar ôl iddyn nhw wneud hynny.

    Doedd Pharo erioed wedi gweld anifeiliaid mor hyll. Wedi iddo ddeffro, roedd eisiau gwybod beth oedd ystyr ei freuddwyd, ond doedd neb yn gallu ei helpu. Yna, fe gofiodd un o’i weision am Joseff yn y carchar. Roedden nhw wedi cwrdd yn y carchar un tro ac roedd Joseff wedi egluro i’r gwas ystyr breuddwyd yr oedd ef wedi ei chael bryd hynny. Fe awgrymodd y gwas y gallai Pharo ofyn i Joseff beth oedd ystyr ei freuddwyd.

    Rhoddodd Pharo orchymyn i’w weision ddod â Joseff ato o’r carchar. Gwrandawodd Joseff ar Pharo’n dweud hanes y freuddwyd am y saith buwch dew a’r saith buwch denau. Yna, fe ddywedodd Joseff, ‘Mae Duw wedi dangos beth sy’n mynd i ddigwydd. Mae’r saith buwch dew yn cynrychioli saith mlynedd o lawnder, a chynaeafau da, digon o fwyd yn tyfu trwy’r wlad, mwy o fwyd nag y mae’r bobl yn gallu ei fwyta hyd yn oed. Ond wedyn, am saith mlynedd arall, mae’r saith buwch denau’n dweud wrthych chi y bydd y cynhaeaf yn wael, ac fe fydd pobl y wlad yn newynu, oni bai . . .'

    Roedd Joseff yn ddewr iawn wrth egluro ystyr breuddwyd Pharo, ond fe aeth yn ei flaen fel hyn:

    ‘ ... oni bai, eich bod chi, yn ystod y blynyddoedd da, yn storio peth o’r grawn sydd gennych chi dros ben mewn ysguboriau, ac wedyn fe fydd gennych chi ddigon ar gyfer y bobl i’w fwyta pan fydd dim byd yn tyfu yn y caeau.’

    Roedd Pharo wrth ei fodd gyda’r syniad ac yn ddiolchgar iawn i Joseff. Roedd yn meddwl ei fod yn syniad ardderchog. Roedd yn hoffi Joseff, ac fe orchmynnodd ei fod yn cael ei ryddhau o’r carchar ar unwaith. Fe’i gwnaeth yn rheolwr ar gynhaeaf ei wlad. Ei waith oedd gofalu bod y grawn oedd dros ben am y saith mlynedd dda yn cael ei storio mewn ysguboriau mawr, ac wedyn yn gofalu bod y grawn yn cael ei rannu’n deg ar ôl hynny yn ystod y saith mlynedd pan oedd y bwyd yn brin. Felly, fe ddaeth y carcharor Joseff yn un o’r dynion pwysicaf yn y wlad honno, ar wahân i’r Pharo, wrth gwrs. Waw!

Amser i feddwl

Sut rydyn ni’n dathlu’r cynhaeaf? Sut gallwn ni rannu’r cynhaeaf?

Gweddi

Dduw Dad,
Diolch i ti am adeg y cynhaeaf,
diolch am fwyd i’w fwyta
ac am ddigon ohono i’w rannu.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon