Wnaiff Hyn Ddim Methu O'm Hachos I
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Fideo
(Edrychwch ar y wefan www.youtube.com/watch?v=NrKbyhCHhEs)
Wnaiff hyn ddim methu o’m hachos i
(4 munud 35 eiliad)
Mae’r gwasanaeth hwn yn dilyn llwybr cyflawn, gyda deunydd myfyriol tua’r diwedd.
Mae’n bosib, wrth gwrs, y byddech yn dymuno ymestyn hyn wedi i’r fideo ddod i ben. Gwelwch syniadau’n dilyn.
Rydym yn argymell eich bod yn gwylio’r fideo cyn ei ddefnyddio gyda’ch cynulleidfa.
Fe all ansawdd rhywfaint o’r deunydd ymddangos yn wael – mae hyn oherwydd oedran y delweddau sydd wedi cael eu defnyddio.
Crynodeb
Mae’r gwasanaeth 'Wnaiff hyn ddim methu o’m hachos i' yn rhoi cyflwyniad i ni o griw Apollo 11, a’u cenhadaeth i lanio ar y lleuad, gan nodi’r heriau a oedd yn eu hwynebu ar y ffordd. Mae’r gwasanaeth yn pwysleisio cymaint o bobl oedd yn ymwneud â’r fenter o anfon Apollo 11 i’r lleuad, a sawl un ym mhob tîm yn mabwysiadu’r arwyddair 'Wnaiff hyn ddim methu o’m hachos i'.
Mae gwaith tîm yn dibynnu ar bawb yn gwneud ei ran.
Themâu
Gwaith tîm a chyd-ddibyniaeth.
Anelu at y nod.
Perthnasoedd.
Dal ati i ddysgu/ ysgogiad
Cân/cerddoriaeth
The Planets gan Holst
Unrhyw gerddoriaeth electronig, fel ‘Oxygene’ gan Jean-Michel Jarre
Emynau’n ymwneud â’r byd a’r greadigaeth, neu gariad Duw.
Amser i feddwl
(Goleuwch gannwyll a gadewch i’r myfyrwyr feddwl am yr yn y maen nhw newydd ei weld a’i glywed.)
Gadewch i ni dreulio moment yn meddwl am yr holl dimau neu grwpiau rydyn ni’n rhan ohonyn nhw:
grwpiau lle rydyn ni’n dibynnu bod pobl eraill yno i ni, a phobl eraill yno sy’n dibynnu arnom ni i fod yno er eu mwyn nhw;
timau lle rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd;
projectau rydyn ni’n gweithio arnyn nhw gyda’n gilydd.
Gadewch i ni fod yn ddiolchgar am yr holl bobl sy’n cadw’u hymrwymiad i bob un ohonom ni.
Gadewch i ni ailymrwymo’n hunain i bopeth rydyn ni’n ymwneud ag ef.
Gweddi
Helpa fi i feddwl am y geiriau hynny,
'Wnaiff hyn ddim methu o’m hachos i',
ar yr adegau hynny pan fydd pethau’n anodd, yn ddwys ac yn galed.
Helpa fi i beidio â bod y ddolen honno yn y gadwyn sy’n torri.