Aeddan Sant (Rhan 2)
Deall y cysyniad ei bod yn well rhoi na derbyn.
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Deall y cysyniad ei bod yn well rhoi na derbyn.
Paratoad a deunyddiau
Map i ddangos i.r plant ble mae Lindisfarne (dewisol).Gwasanaeth
- Cafodd Aeddan groeso mawr yn Northumberland. Cafodd le i aros yng nghastell y brenin, yn Bamburgh, ond fe sylweddolodd Aeddan yn fuan nad oedd hynny’n helpu ei achos. Yn y castell yr oedd y fyddin yn aros - roedd yn lle prysur a swnllyd iawn. Roedd Aeddan wedi arfer byw yn nhawelwch Ynys Iona, lle byddai’n treulio llawer o amser yn gweddïo ar Dduw. Hefyd, roedd yn teimlo bod byw yn y castell yn ei osod yn uwch na’r bobl gyffredin. Felly, fe ofynnodd i’r brenin a gai fynd i fyw i rywle arall, ac fe ddewisodd ynys fechan wastad ar arfordir gogleddol Northumberland.
Heddiw, caiff yr ynys ei galw’n Holy Island, ac mae pobl yn dal i fynd yno i fwynhau’r tawelwch ac i dreulio amser yn gweddïo ar Dduw.
Dangoswch ble mae Lindisfarne ar y map, os byddwch yn dymuno gwneud hynny.
Oddi yno, fe allai Aeddan weld castell y brenin, ond wrth iddo gerdded trwy gefn gwlad fe fyddai’n cwrdd â llawer o’r bobl gyffredin. Fe fyddai’n gofyn iddyn nhw, ‘‘Ydych chi’n gwybod am Dduw?’ Os mai ‘ydw’ fyddai’r ateb a gâi, yna fe fyddai Aeddan yn gweddïo gyda nhw. Os mai ‘nac ydw’ fyddai’r ateb, yna fe fyddai Aeddan yn sôn wrthyn nhw am gariad Duw, ac yn dweud wrthyn nhw faint oedd Duw’n caru pobl ym mhob man, a sut y gwnaeth anfon Iesu i’r byd. - Yn ddiweddarach ym mywyd Aeddan, dechreuodd brenin newydd Northumbria, y brenin Oswyn, bryderu oherwydd bod Aeddan yn heneiddio. Teimlai fod yr holl waith cerdded i bob man yn mynd yn ormod o ymdrech i Aeddan. Er syndod mawr i Aeddan, fe gyflwynodd Oswyn rodd iddo, ryw ddiwrnod, sef ceffyl - y gorau o stablau’r brenin - ynghyd â chyfrwy lledr gwych.
‘Fe fydd hyn yn llawer gwell i ti, fy nghyfaill,’ meddai’r brenin wrtho. Ac, yn wir, yr oedd y ceffyl yn un hardd a’r cyfrwy yn un cyfforddus iawn. Ond, am ryw reswm, doedd calon Aeddan ddim yn teimlo mor gyfforddus. Roedd rhywbeth o’i le ynghylch yr anrheg hon. Yn awr, fe fyddai’n gweld pobl ar y ffordd wrth farchogaeth ei geffyl, ond fe fydden nhw i lawr ar y ffordd ac yntau’n uchel ar gefn y ceffyl. Roedd rhywbeth ynglyn â’r sefyllfa oedd ddim yn hollol iawn yng ngolwg Aeddan.
Un diwrnod, fe welodd Aeddan ddyn tlawd yn dod tuag ato, yn begio. Daeth i lawr oddi ar gefn ei geffyl a gwrando ar stori’r dyn.
‘Gyfaill,’ meddai Aeddan wrtho, ‘does gen i ddim arian, ond yr hyn sydd gen i yw’r ceffyl hwn a’r cyfrwy. Fe allet ti werthu’r rhain a chael arian amdanyn nhw i fwydo dy hun a dy deulu.’
Edrychodd y dyn ar Aeddan yn ddrwgdybus i ddechrau. Rhaid bod rhyw dric ynghylch y fath gynnig! Ond, wrth iddo wrando ar yr hyn oedd gan Aeddan i’w ddweud wrtho am gariad Iesu, ac am ostyngeiddrwydd, fe ddechreuodd ddeall. Cofleidiodd y dyn Aeddan yn ddiolchgar iawn, ac yna fe garlamodd i ffwrdd ar gefn y ceffyl gorau, a oedd â’r cyfrwy gorau, yn y deyrnas. Teimlai Aeddan fel petai pwysau mawr wedi cael ei godi oddi ar ei ysgwyddau. Dechreuodd gerdded unwaith eto, ac yn ei achos ef, roedd hynny’n teimlo’n iawn iddo. - Wrth gwrs, fe glywodd y brenin y newyddion am yr hyn yr oedd Aeddan wedi’i wneud â’r ceffyl a’r cyfrwy. A’r tro nesaf yr aeth Aeddan i gastell Oswyn, doedd dim rhyfedd bod y brenin yn edrych yn ddig arno, a dweud y lleiaf, ac yn ei chael hi’n anodd gwybod beth i’w ddweud wrtho. Ond, ymhen sbel, fe arthiodd y brenin arno, ‘Sut gallet ti wneud hyn, Aeddan? Fe roddais i anrheg i ti, y ceffyl gorau oedd gen i, a’r cyfrwy gorau, a dyna’r cyfan o feddwl oedd gen ti ohonyn nhw, fe gefaist ti wared â nhw!’
Ond atebodd Aeddan ef yn addfwyn iawn, ‘Gyfaill hoff, beth sydd bwysicaf, ceffyl neu enaid dyn tlawd?’ - Ac er syndod mawr i bawb oedd o’u cwmpas, fe ddaeth y brenin at Aeddan a phenlinio o’i flaen gan ddweud, ‘Mae’n wir ddrwg gen i, rwyt ti’n iawn. Mae pobl yn bwysicach o lawer na cheffylau a chyfoeth.’
- Fe ddaeth y Brenin Oswyn yn enwog iawn am fod yn hael a charedig wrth ei bobl. Unwaith, pan glywodd fod pobl dlawd a newynog yn begio am fwyd y tu allan i’w gastell, fe roddodd blât arian mawr wedi ei lwytho â bwyd blasus oddi ar ei fwrdd ei hun iddyn nhw. Ond mae honno’n stori arall, ar gyfer diwrnod arall.
Amser i feddwl
Mae stori debyg yn Llyfr yr Actau (3.1 - 6) yn y Beibl. Cafodd y disgyblion, Pedr ac Ioan, eu stopio gan ddyn yn cardota, sef begio am arian. Dywedodd Pedr, ‘Arian ac aur nid oes gennyf; ond yr hyn sydd gennyf, hynny yr wyf yn ei roi iti; yn enw Iesu Grist o Nasareth, cod a cherdda’.
Y rhoddion gorau yn aml yw’r rhai hynny na allwch chi eu prynu ag arian.
Meddyliwch am yr hyn y gallech chi ei roi heddiw a fyddai’n bendithio ac yn annog rhywun arall.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch bod Aeddan yn dy adnabod di, a’i fod yn gallu dangos trwy ei fywyd ei hun, pa mor dda a charedig yr wyt ti eisiau bod wrth bawb.
Dysga ni i rannu ag eraill y pethau da sydd gennym ac, fel Aeddan, boed i ni brofi heddwch a llawenydd yn ein calon.
Amen.