Dyddiau'r Hydref
Ystyried mewn ffordd gadarnhaol y profiad o newid.
gan Alan M. Barker
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Ystyried mewn ffordd gadarnhaol y profiad o newid.
Paratoad a Deunyddiau
- Dewiswch emyn yn ymwneud â’r cynhaeaf i bawb ei chanu ar ddechrau’r gwasanaeth. Trefnwch i arddangos geiriau’r gerdd ‘Autumn days when the grass is jewelled’, i’w chael ar y rhyngrwyd neu’r llyfr emynau, Come and Praise, emyn 4.
- Lluniwch fwrdd neu arddangosfa i gyd-fynd â thema’r gwasanaeth i fod yn ganolbwynt i’r gwasanaeth (dewisol).
Gwasanaeth
- Mwynhewch ganu’r emyn diolchgarwch am y cynhaeaf rydych chi wedi ei dewis i’w chyd-ganu. Yna ewch drwy eiriau’r gerdd ‘Autumn days’, gan roi sylw i gynnwys y penillion.
- Nodwch fod yr hydref yn dymor o newid. Gwahoddwch y plant i ystyried y newidiadau sy’n bosib eu gweld, eu teimlo, a hyd yn oed eu harogli, yn y gerddi a’r parciau ac yng nghefn gwlad yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae’r dail yn newid eu lliw, caeau yn wag ar ôl casglu’r cynhaeaf, mae’r pridd wedi ei droi ag arogl nodedig arno, ac mae’r dyddiau’n byrhau a’r tywydd yn oeri.
- Cyfeiriwch at eiriau’r gerdd, Autumn days when the grass is jewelled. Canolbwyntiwch ar y newidiadau tymhorol sy’n cael eu disgrifio yn y ddwy linell gyntaf, dafnau trwm gwlith yr hydref ar y glaswellt yn y bore yw’r ‘jewels’, a sôn am ddod o hyd i gnau castan yn eu plisgyn pigog, ond sydd fel sidan ar y tu mewn, y mae’r awdur wedyn. Gwahoddwch y plant i feddwl am newidiadau tymhorol eraill sy’n cael eu disgrifio, fel y gwenoliaid yn ymadael, yr afalau’n aeddfedu, a’r awyrgylch sydd wrth edrych ar y lleuad ar noson oer.
- Nodwch fod newidiadau eraill wedi digwydd ers pan ysgrifennwyd y gân yn wreiddiol yn 1969. (Fe allech chi wneud sylw ei bod hi’n bosib fod rhai o’r thrawon wedi canu’r gân ‘Autumn days’ pan oedden nhw yn yr ysgol - a meddyliwch faint maen nhw wedi newid ers hynny!)
- Gofynnwch i’r plant sylwi ar y gerdd a nodi sut mae gweithgareddau dydd i ddydd wedi newid, ers yr amser yr ysgrifennwyd y penillion. Ym mhennill 2, llinellau 3 a 4, er enghraifft, does dim cymaint o bobl yn bwyta bacwn i frecwast y dyddiau hyn, mae velcro wedi dod yn gyfrwng cyfleus i gau esgidiau, ac mae’r rhan fwyaf o’r llefrith yn cael ei brynu yn yr archfarchnad mewn poteli plastig yn hytrach nag yn cael ei ddosbarthu o ddrws i ddrws mewn poteli gwydr gan y dyn llefrith. Ym mhennill 4, llinellau 3 a 4, mae ceir y dyddiau hyn dipyn mwy dibynadwy. A beth am y tîm lleol? Ydi o’n ennill, neu ddim yn gwneud cystal?
- Rhowch gyfle i’r plant fyfyrio ar rai newidiadau sydd wedi digwydd yn yr ysgol ers gwyliau’r haf, hefyd, fel newidiadau yn y dosbarthiadau, aelodau newydd ar y staff efallai, a phlant newydd, llyfrau newydd a themâu newydd i weithio arnyn nhw yn y dosbarth. Nodwch y gwahanol emosiynau y mae rhywun yn eu profi ar adegau o newid.
Sylwch, hefyd, tra mae ambell newid yn gallu bod yn heriol, fe allwn ni yn wir groesawu’r newidiadau sy’n dod gyda phob blwyddyn ysgol newydd. Anogwch bawb i ddweud diolch yn fawr am y profiad newydd o ddyddiau’r hydref!
Amser i feddwl
Mae adnod o’r Beibl (Salm 107.1,Y Neges) yn dweud:
Diolchwch i’r Arglwydd oherwydd da yw, ac mae ei gariad hyd byth.
Treuliwch foment neu ddwy yn myfyrio’n dawel.
Diolchwch gyda’r geiriau o fyfyrdod gan Dag Hammarskjöld, ail Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, enillydd Gwobr Heddwch Nobel a meddyliwr mawr:
For all that has been, thanks!
For all that shall be, yes!
Cân/cerddoriaeth
Efallai yr hoffech chi ganu’r emyn diolchgarwch am y cynhaeaf, rydych chi wedi ei dewis, eto wrth i’r plant fynd o’r gwasanaeth.
Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2013 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.