Sut i ddefnyddio'r safle hwn   Amdanom ni   Cyflwyniadau   Adborth   Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Eid Ul-Adha

Gwyl Fwslimaidd o aberth

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Ystyried beth yw ystyr aberth.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae Eid ul-Adha yn nodi diwedd yr Hajj, sef pererindod flynyddol Mwslimiaid i Mecca. Mae’n ddiwrnod o lawenydd pan fydd Mwslimiaid, pa un a ydyn nhw’n gwneud y bererindod ai peidio, yn dathlu ystyr aberth fel mae’n cael ei adrodd mewn stori yn eu llyfr sanctaidd, y Qur’an. Dyma stori Abraham yn aberthu Isaac, stori sydd hefyd yn cael ei hadrodd yn y Beibl, yn Llyfr Genesis pennod 22. Yr enw Ibrahim y mae Mwslimiaid yn ei ddefnyddio am Abraham, ac maen nhw’n credu mai Ishmael, mab ei wasanaeth-ferch Hagar, a oedd i fod i gael ei aberthu, nid Isaac, mab Abraham a Sarah ei wraig. Nodwch:  er mwyn osgoi dryswch ynghylch y gwahaniaethau hyn rhwng y ddwy ffydd, nid yw’r awdur wedi rhoi enw’r tad na’r mab yn y stori sy’n dilyn.
  • Mae llawer o Fwslimiaid yn dechrau’r diwrnod trwy fynd i’r mosg lle’r adroddir gweddïau arbennig. Wedyn, maen nhw’n cyfarch eu ffrindiau a’u cyd-addolwyr yn wresog. Maen nhw’n cyfnewid anrhegion, ac maen nhw’n trefnu prydau bwyd a dathliadau yn eu cartrefi.
  • Fe fydd arnoch chi angen tedi neu degan meddal arall sy’n arbennig yng ngolwg rhywun yn y gwasanaeth (un o’r athrawon hyd yn oed), a threfnwch fod y person hwnnw’n dweud yn y gwasanaeth pam mae’r tegan yn arbennig yn ei olwg. Hefyd, trefnwch fod gennych chi’r pethau canlynol wrth law: y llyfr stori i blant Dogger gan Shirley Hughes, rhai tafelli o gig oen oer, a thun o bwdin reis, parsel wedi ei lapio, a balwn ac eitem o dân gwyllt. Dylai’r rhain fod o’r golwg mewn bag, i’w dangos fesul un.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y tedi, neu’r tegan meddal arall, a gofynnwch i’w berchennog ddweud pam ei fod yn bwysig yn ei olwg ef neu hi.

  2. Dangoswch y llyfr stori,Dogger, sydd efallai yn gyfarwydd i rai o’r plant. Fe allech chi atgoffa’r plant o’r stori. Ewch drosti a dewis syniadau allweddol, fel sydd yn yr enghreifftiau sy’n dilyn, a dangos rhai o’r lluniau yn y llyfr wrth wneud hynny.

    Roedd Dave yn hoff iawn o Dogger. Roedd yn mynd ag ef i bob man.
    Roedd chwaer fawr Dave, Bella, yn mynd â saith tedi gyda hi i’r gwely bob nos, ond dim ond Dogger oedd Dave eisiau i fynd gydag ef i’w wely.
    Roedd Dogger ar goll. Roedd Dave yn drist iawn, ac yn hiraethu am Dogger.
    Enillodd Bella dedi mawr melyn yn gwisgo ruban sidan glas hardd.
    Daeth Dave o hyd i Dogger yng nghefn y stondin, ond roedd geneth fach wedi ei brynu. Fe wnaeth Bella rywbeth caredig iawn, fe gynigiodd roi’r tedi mawr newydd i’r ferch fach yn gyfnewid am Dogger. Roedd Bella’n gwybod faint yr oedd Dave yn caru Dogger.

  3. Eglurwch i’r plant bod Bella wedi rhoi rhywbeth arbennig iawn am rywbeth oedd hyd yn oed yn fwy arbennig - sef cael gweld ei brawd yn hapus eto, ar ôl cael ei hoff degan yn ôl. Rydyn ni’n galw hynny’n aberth. Oherwydd bod Dave yn hapus eto, roedd ei chwaer yn hapus hefyd. Llun da yw’r llun o Bella’n troi trosben yn y llofft, ac efallai yr hoffech chi ddangos hwn i’r plant er mwyn dangos pa mor hapus yr oedd hi.

    Roedd Bella’n caru ei brawd Dave yn fawr iawn  . . .  ond roedd hi hefyd wrth ei bodd gyda’r tedi mawr newydd sbon gyda’r ruban glas hyfryd!

    Mae rhoi’r gorau i rywbeth, neu roi rhywbeth i ffwrdd, er mwyn rhywun arall yn beth anodd iawn ei wneud.

  4. Eglurwch i’r plant sut mae pobl sy’n dilyn y ffydd Fwslimaidd, bob blwyddyn, yn dathlu gwyl arbennig o’r enw Eid ul-Adha. Yn ystod yr wyl maen nhw’n gwrando ar stori benodol, stori debyg i’r hyn sy’n digwydd yn stori Dogger. Gofynnwch i’r plant wrando ar y fersiwn ganlynol o’r stori sy’n dilyn yma, a chwilio am unrhyw beth sy’n debyg ynddi i stori Dogger.

    Mae’r stori hon am ddyn y gofynnwyd iddo roi rhywbeth arbennig iawn oedd ganddo, i Dduw. Roedd y dyn yn ffrind da i Dduw. Roedd Duw wedi gofyn iddo ryw dro, fynd o’i gartref ac allan o’r ddinas a’i ddilyn i wlad newydd, ac fe wnaeth y dyn hynny i blesio Duw.

    Roedd y dyn wedi aros yn hir iawn, iawn cyn cael plentyn, a phan gafodd ei wraig fabi bach yn y diwedd, ac yntau’n hen wr erbyn hynny, roedd wedi gwirioni’n lân. Roedd yn meddwl y byd o’i fab bach. Ond fe sibrydodd Duw rywbeth wrtho.

    ‘Rydw i eisiau i ti aberthu dy fab i mi. Rydw i eisiau i ti ei offrymu i mi.’

    Roedd y dyn wedi dychryn. Na! Does bosib! Na, doedd Duw erioed yn gofyn iddo ladd ei fab annwyl? Sut gallai peth felly fodloni Duw? Ond roedd yn dal i gael y teimlad mai dyna oedd ar Dduw eisiau iddo’i wneud. Felly, un diwrnod, fe aeth gyda’i fab (go brin fod mam y bachgen yn gwybod dim am hyn, neu fe fyddai’n siwr o fod wedi ceisio’u rhwystro.)

    Roedd y ffordd yn hir, a’r cyfan yn anodd iawn i’r tad, ac mae’n debyg fod y mab wedi synhwyro bod rhywbeth yn poeni ei dad.

    ‘Rydyn ni’n mynd i aberthu, ond does gennym ni ddim oen i’w aberthu,’ meddai’r mab wrth ei dad.

    ‘Paid â phoeni,’ meddai ei dad wrtho, ‘ fe wnaiff Duw ofalu am oen yr aberth.’

    Wrth gwrs, wnaeth y mab ddim meddwl am foment mai ef fyddai’r aberth, nes y clymodd ei dad ei arddyrnau a’i osod i orwedd ar garreg wastad, ac estyn cyllell . . .

    ‘AROS!’ meddai llais uchel o’r nefoedd.

    ‘Edrych acw, rwyf wedi darparu oen i ti ei aberthu.’

    Dyna ryddhad i’r dyn, ac i’w fab! Roedd y ddau yn falch iawn.

    Roedd Duw yn falch iawn hefyd y diwrnod hwnnw. Roedd yn falch bod y dyn wedi dangos ei fod yn caru Duw yn fwy nag unrhyw un arall, ac roedd yn trystio Duw yn llwyr.  Roedd yn bwysig i Dduw gael gwybod hynny.

  5. Rhowch gyfle i’r plant rannu â chi unrhyw bethau y gwnaethon nhw sylwi arnyn nhw oedd yn debyg yn y ddwy stori. Fe allech chi ystyried bod y ddwy stori â diwedd hapus. Mae’r ddwy stori yn ein dysgu bod aberthu rhywbeth er mwyn eraill yn gallu bod yn benderfyniad anodd ar y dechrau. Ond pan fyddwn ni’n dewis bendithio eraill cyn ni ein hunain, yna fe fyddwn ni’n dod o hyd i lawenydd hefyd.

  6. Felly, mae’r wyl Fwslimaidd, Eid ul-Adha, er ei bod yn ymwneud ag aberthu, yn ddiwrnod o lawenydd. Mae’r Mwslimiaid yn gwrando unwaith eto ar stori aberth y dyn, ac maen nhw’n falch. Yna, fe allwch chi ychwanegu bod pethau eraill sy’n gwneud y diwrnod yn arbennig, a dangoswch yr eitemau sydd yn y bag. Cyfeiriwch at y cyfarch a’r cofleidio a fydd yn digwydd pan fydd ffrindiau a chyd- Fwslimiaid yn dod i ymweld, cyfeiriwch at y bwyd - y cig oen a’r pwdin reis - yr anrhegion, y balwnau a hyd yn oed y tân gwyllt.

Amser i feddwl

Meddyliwch am adeg pan wnaethoch chi roi’r gorau i rywbeth er mwyn rhywun arall.

Sut roeddech chi’n teimlo ar y dechrau?

Sut roedd y person arall yn ymateb?

Sut roeddech chi’n teimlo wedyn?

Gweddi

Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y stori am y dyn a’i fab.
Diolch ei fod yn dy garu di ac yn dy drystio di gymaint fel ei fod yn barod i roi i ti y peth mwyaf gwerthfawr oedd ganddo yn ei fywyd.
Diolch dy fod ti wedyn wedi bendithio ei fywyd  gyda llawer o bethau gwych.
Helpa ni i ildio pethau sy’n arbennig yn ein golwg er mwyn pobl eraill, am fod hyn yn dy blesio di hefyd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon