Sut i ddefnyddio'r safle hwn   Amdanom ni   Cyflwyniadau   Adborth   Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

'Helo Sgryffi'

Collwyd a chafwyd – chwilio am y ddafad oedd ar goll

gan The Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Dysgu pa mor bwysig yw dal ati i nes byddwn wedi dod o hyd i rywbeth sydd wedi bod ar goll.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped yn barod am eich llaw.

 

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw ar Sgryffi.

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol
    .

    Mae Liwsi Jên yn byw ar fferm gyda’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr a’i brawd bach, Tomi. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi, y mul bach sy’n byw ar y fferm. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn - pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

  2. Rhedodd Liwsi Jên i’r stabl. ‘Deffra, Sgryffi! Mae’r cneifiwr yma.’

    Holwch y plant, ‘Beth yw gwaith y cneifiwr, beth mae’n ei wneud?’ Cneifio’r defaid.

    ‘Sgryffi bach, mae Dad yn dweud bod un o’r defaid ar goll! Tyrd, rydyn ni’n dau’n mynd i chwilio amdani.’

    Arweiniodd Liwsi Jên Sgryffi allan o’r stabl a neidio ar ei gefn. Clip clop, i ffwrdd â nhw, heibio’r defaid oedd wedi eu casglu yng nghornel y buarth, pob un ohonyn nhw’n disgwyl cael eu cneifio. Roedd Liwsi Jên yn gallu gweld ei thad yn siarad gyda’r cneifiwr wrth ddrws yr ysgubor fawr. Cododd ei llaw arnyn nhw a dweud, ‘Fe wnawn ni ddal i chwilio nes cawn ni hyd i’r ddafad sydd ar goll, Dad!’

  3. Yn gyntaf, fe aethon nhw i gaeau’r ddôl i chwilio am y ddafad, ac yna i’r berllan. Fe fuon nhw’n crwydro rhwng y coed yn y goedlan, ac ymhen ychydig roedden nhw’n mynd i gyfeiriad yr afon fach.

    ‘Wyt ti’n meddwl bod y ddafad wirion wedi croesi’r afon, Sgryffi?’
    ‘Hi-ho! Hi-ho!’ nodiodd Sgryffi. Ac yn wir i chi, wedi iddyn nhw aros i wrando, fe glywodd y ddau swn brefu gwan.

    Cerddodd Sgryffi’n ofalus trwy’r dwr bas a Liwsi Jên ar ei gefn, a mynd i gyfeiriad y coed oedd yn tyfu’r ochr arall i’r afon. Yna fe welodd Liwsi Jên y ddafad yn edrych yn unig, a’i gwlân yn flêr ac yn wlyb. Neidiodd Liwsi Jên oddi ar gefn Sgryffi a mynd at y ddafad gan sgwrsio’n garedig â hi.
    ‘Tyrd efo ni, mae arnat ti eisiau cael torri dy wallt a gwneud dy hun yn ddel, fel y lleill ’ndoes? chwarddodd Liwsi, ac fe ymunodd Sgryffi â hi a dweud, ‘Hi-ho! Hi-ho!’

    Ymhen ychydig funudau roedd y tri yn ôl ar fuarth y fferm.
    ‘Go dda! Rwyt ti wedi cyrraedd mewn pryd,’ meddai Mr Bryn. ‘Mae’r cneifiwr bron â gorffen!’

    Edrychodd y ddafad wirion o’i chwmpas. Roedd y defaid eraill wedi cael eu cneifio’n daclus. Aeth hithau at y cneifiwr - roedd hithau eisiau edrych yn daclus fel y defaid eraill. Cofleidiodd Mr Bryn Liwsi Jên a rhoi mwythau i Sgryffi. ‘Diolch i chi’ch dau am ddod o hyd i’r ddafad oedd ar goll. Nawr, gadewch i ni fynd i’r gegin i gael tamaid o deisen i’w bwyta  . . .  a moronen, wrth gwrs!’

    Yna tynnwch Sgryffi, y pyped, oddi am eich llaw.

  4. Ar gyfer Ysgolion Eglwys.

    Fe alwodd Iesu ei hun yn Fugail Da, a ni yw ei ddefaid. Mae Iesu eisiau gofalu amdanom ni i gyd, ond weithiau fe allwn ni fod fel defaid gwirion. Fe fyddwn ni’n gwneud pethau drwg ambell dro, ac mae hynny’n gwneud Iesu’n drist. Felly, fe ddywedodd Iesu'r stori ganlynol am ddafad a oedd ar goll, er mwyn rhoi gwybod i ni na fydd byth yn ein hanghofio.

    Un tro yr oedd ffermwr, ac roedd ganddo 100 o ddefaid.

    Beth yw’r enw sy’n cael ei roi ar rywun sy’n gofalu am y defaid? Bugail.

    Bob nos, fe fyddai’r bugail yn cyfrif y defaid wrth iddyn nhw fynd i mewn i’r gorlan er mwyn gofalu bob pob un yno.

    Allwch chi gyfrif i ddeg? Allwch chi gyfrif, fesul deg, i fyny i gant?

    Un noson, roedd y bugail yn cyfrif ei ddefaid, bob yn un, fel arfer - ‘  . . .  95, 96, 97, 98, 99  . . .’ Yna fe edrychodd o’i gwmpas, a dweud, ‘Mae un ar goll! Beth wna i? Fe allai’r ddafad fod mewn perygl.’

    Beth ydych chi’n feddwl wnaeth y bugail? Beth ydych chi’n feddwl allai fod wedi digwydd i’r ddafad oedd ar goll?

    Fe adawodd y 99 dafad, a oedd yn ddiogel yn y gorlan, ac fe aeth allan i’r tywyllwch gyda llusern yn un llaw, a ffon fugail yn ei law arall, i chwilio am y ddafad. Fe fu’n chwilio, yn edrych ac yn gwrando, ac yn y diwedd fe ddaeth o hyd i’r ddafad yng ngwaelod ffos ddofn. Doedd dim llawer o ddwr yn y ffos, ond roedd yr ochrau’n rhy serth i’r ddafad allu dringo allan ohoni. Fe ddefnyddiodd y bugail fagl ei ffon i dynnu’r ddafad i fyny o’r ffos, fe’i cododd hi ar ei ysgwyddau a’i chario yn ôl i’r gorlan. Roedd yn hapus bod ei ddafad yn ôl yn ddiogel unwaith eto. Roedd mor falch, fe aeth i ddweud y newydd da wrth ei ffrindiau, ‘Rydw i wedi dod o hyd i’r ddafad oedd ar goll. Dewch i ddathlu gyda mi!’

Amser i feddwl

Mewn moment o dawelwch, meddyliwch pa mor bwysig yw dal ati i nes byddwn wedi dod o hyd i rywbeth sydd wedi bod ar goll.

Gweddi

Annwyl Dduw Dad,
Yn union fel mae’r bugail yn gofalu am ei ddefaid, felly hefyd rwyt ti’n gofalu am bob un ohonom ni.
Diolch i ti!
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon