Sut i ddefnyddio'r safle hwn   Amdanom ni   Cyflwyniadau   Adborth   Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cofadeiladau

Myfyrio ar arwyddocâd cofadeiladau cenedlaethol a lleol.

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar arwyddocâd cofadeiladau cenedlaethol a lleol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch ddelweddau, sy’n rhydd o hawlfraint, o’r Gofadail yn Whitehall, Llundain a lluniau pabi coch Dydd y Coffa (er enghraifft, oddi ar: www.flickr.com/photos/assemblies/9579018442/in/set-72157635203755096) a threfnwch fodd o ddangos y rhain yn y gwasanaeth.
  • Nodwch gofadail rhyfel sy’n lleol yn eich ardal chi a thynnwch rai lluniau ohoni i’w defnyddio yn y gwasanaeth, cynhwyswch rai o’r enwau sydd i’w gweld arni. Fe allai hynny fod yn waith dosbarth.
  • Ceisiwch ganfod, os yn bosib, pryd bydd gwasanaethau coffa lleol yn cael eu cynnal.
  • Chwiliwch am recordiad o’r gerddoriaeth Last Post, a threfnwch fodd o’i chwarae yn ystod yr Amser i feddwl.
  • Mae’n bosib dod o hyd i fanylion am gofadeiladau rhyfel lleol a ffotograffau ohonyn  nhw ar:www.warmemorialsonline.org.uk (ac fe allwch gyflwyno rhai i’r wefan hon hefyd)
  • Yn draddodiadol roedd seremoni Dydd y Cadoediad yn cael ei chynnal am 11 o’r gloch y bore, ar 11 Tachwedd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe symudwyd yr arferiad o ddau funud o ddistawrwydd i’r Sul agosaf at 11 Tachwedd ac, yn y blynyddoedd ers hynny, fe ddaeth y diwrnod i gael ei alw’n Sul y Cofio. Yn fwy diweddar, mae Dydd y Cadoediad wedi dod i gael mwy o sylw hefyd.

Gwasanaeth

  1. Cyfeiriwch at y gwasanaeth coffa cenedlaethol sy’n cael ei gynnal ar Sul y Cofio wrth Gofadail Whitehall, yn Llundain. Gyda’r delweddau rydych chi wedi eu casglu fel deunyddiau ategol, eglurwch fod y Gofadail hon wedi ei dadorchuddio ar 11 Tachwedd 1920 - ar Ddydd y Cadoediad - diwrnod i goffau achlysur y darfod tanio (ceasefire) a daeth â’r rhyfel Byd Cyntaf i ben yn Ewrop, yn 1918.

  2. Eglurwch fod cyfnod o ddau funud o ddistawrwydd yn cael ei gadw yn ystod y gwasanaeth hwnnw - y dywedir bod y munud cyntaf i gofio am y miliynau o bobl a laddwyd yn y gwrthdaro, a’r ail funud er mwyn bod yn ofalgar a meddwl am anghenion teuluoedd y rhai a laddwyd a’r rhai a adawyd ar ôl, ac a oroesodd. Bydd rithoedd pabi coch yn cael eu gosod o gwmpas y gofadail, sydd a’r geiriau canlynol arni, ‘The Glorious Dead’. Daw’r seremoni i ben gyda’r orymdaith heibio iddi. Bydd rhai sydd wedi gwasanaethu gyda’r lluoedd arfog yn y gorffennol - yr hen filwyr, neu’r ‘veterans’ fel maen nhw’n cael eu galw - yn dangos eu parch tuag at eu cymrodyr a fu farw.

  3. Gwahoddwch y plant i ystyried pam fod cofadeiladau o’r fath yn cael eu hystyried yn bwysig.

    Myfyriwch ar y ffaith bod cofadail barhaol, fel y Gofadail yn Whitehall, yn helpu i ofalu bod y rhai a laddwyd mewn rhyfeloedd yn cael eu cofio. Ac mae cofadail hefyd yn darparu man neilltuol i bobl ddod ynghyd i gofio. Mae’r gair Saesneg ‘cenotaph’ yn llythrennol yn golygu ‘bedd gwag’ yn yr iaith Roeg. Mae’n fan arbennig, ac yn fan i fod yn ddifrifol ynddo.

  4. Ewch ymlaen trwy wahodd y myfyrwyr i nodi ble mae’r gofadail leol i goffau’r rhai fu farw mewn rhyfel, a chyfeiriwch at unrhyw wasanaethau coffa a fydd yn cael eu cynnal yn lleol. Sylwch fod cofgolofnau wedi eu codi ym mhob tref a phentref bron ar ôl 1918. Mae’r rhain yn amrywio o ran maint a chynllun. Mae’r rhan fwyaf yn nodi enwau’r dynion lleol a fu farw. Darluniwch arwyddocâd hyn. Wrth i restr enwau’r rhai fu farw gael ei darllen yn ystod gwasanaethau a gynhelid yn y blynyddoedd yn dilyn y rhyfel, roedd y bobl leol yn clywed enwau’r rhai a oedd yn gyfarwydd iddyn nhw, yn aml fel roedden nhw’n arfer eu clywed wrth i’r athro neu’r athrawes alw’r gofrestr yn yr ysgol pan oedden nhw’n blant efallai. Collodd rhai teuluoedd ddau neu fwy o’u plant, eu meibion yn bennaf.

  5. Pwysleisiwch fod cofadail leol yn fan arbennig sy’n ymwneud â sefyllfa ddwys, a chyfeiriwch at yr angen i barchu’r mannau hyn. Nid yn unig mae cofadail rhyfel yn anrhydeddu’r rhai a laddwyd ond mae hefyd yn fan lle gall y rhai sy’n dal yn fyw ddod yno i gofio am y rhai a fu farw.

Amser i feddwl

Dangoswch ddelwedd o’r Gofadail a/ neu lun pabi coch y coffa.

Trefnwch i un o’r myfyrwyr ddarllen y geiriau traddodiadol a ddarllenir ar Ddydd y Cofio, a gofynnwch i bawb ail adrodd y frawddeg olaf ar y diwedd gyda’i gilydd – ‘Ni â’u cofiwn hwy’:

Dyma fersiwn Gymraeg o’r geiriau:

Ni heneiddiant hwy, fel ni, a adawyd.
Ni ddwg oed iddynt ludded na’r blynyddoedd gollfarn mwy.
Pan elo’r haul i lawr, ac ar wawr y bore,
Ni â’u cofiwn hwy.

Ymateb:Ni â’u cofiwn hwy.

A dyma’r fersiwn Saesneg, sy’n adnabyddus iawn:

They shall not grow old as we that are left grow old:
Age shall not weary them, nor the years condemn.
At the going down of the sun and in the morning
We will remember them.

Ymateb:We will remember them.

Cân/cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir

Chwaraewch recordiad o’r gerddoriaeth The Last Post.   

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon