Sut i ddefnyddio'r safle hwn   Amdanom ni   Cyflwyniadau   Adborth   Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

'Helo, Sgryffi!' Y brenin newydd - stori Nadolig

gan the Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ailadrodd stori’r Nadolig gan ganolbwyntio ar ba mor dlawd oedd amgylchiadau geni Iesu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi’n barod am eich llaw.

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.


    Mae Liwsi Jên yn byw ar fferm gyda’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

  2. Mae Sgryffi’n teimlo wedi blino heddiw. Roedd hi’n dal yn dywyll neithiwr pan redodd Liwsi Jên i’r stabl. ‘Deffra, Sgryffi! Deffra! Mae’r peth wedi digwydd, o’r diwedd. Mae Mam wedi cael ei babi. Mae gen i frawd bach newydd, ac rydyn ni’n mynd i’w alw fo’n Tomi. O! Fe fyddwn i wrth fy modd yn cael ei ddangos o i ti. Mae’n beth bach mor giwt!’

    Gofynnwch i’r plant, ‘Oes gennych chi frawd bach neu chwaer fach? Beth yw ei enw, neu ei henw?’

    Roedd Sgryffi’n gallu clywed tad Liwsi Jên yn galw arni i fynd yn ôl i’r ty, ac yn ôl i’r gwely. ‘Dwi’n dod, Dad,’ galwodd Liwsi Jên. ‘Dim ond eisiau cael dweud y newydd da wrth Sgryffi oeddwn i.’ Wrth iddi redeg allan o’r stabl, fe drodd Liwsi Jên yn ôl at Sgryffi a dweud yn dawel wrtho, ‘Efallai y byddi di’n gallu sbecian trwy ddrws y gegin yfory, ac efallai y byddi di’n gallu gweld y babi bach newydd.’

  3. Felly, bore heddiw, pan oedd mam Liwsi Jên yn eistedd ar y gadair siglo wrth y tân, fe agorodd Liwsi Jên y drws ddigon i Sgryffi allu rhoi ei ben i mewn heibio’r drws er mwyn gweld ei brawd bach newydd.

    ‘O, Sgryffi, edrych, Mae o’n giwt, yn dydi?’

    ‘Hi-ho! Hi-ho!’ cytunodd Sgryffi. Ac fe wenodd Mrs Bryn!

    Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.

  4. Roedd negesydd Duw, yr angel Gabriel, wedi bod yn brysur iawn. Roedd wedi mynd i siarad â gwraig ifanc o’r enw Mair, a oedd yn byw mewn tref o’r enw Nasareth.

    Fe ddywedodd yr angel wrth Mair ei bod hi, Mair, yn mynd i gael babi bach arbennig – mab Duw – a bod eisiau iddi alw’r babi bach yn Iesu.

    Roedd Mair wedi rhyfeddu! Oedd hi’n breuddwydio? Roedd hi’n mynd i briodi Joseff, y saer. Beth fyddai ef yn ei feddwl pan ddywedai wrtho ei bod yn mynd i gael babi bach?

    Doedd dim rhaid iddi bryderu, oherwydd roedd yr angel Gabriel wedi siarad gyda Joseff hefyd. Beth oedd Joseff yn ei feddwl? Allai hyn fod yn wir? Oedd Duw, yn wir, wedi dewis Mair i fod yn fam i’r babi bach arbennig?’

    Gofynnwch i’r plant, ‘Pa bryd bydd eich athro neu eich athrawes, neu eich mam neu eich tad yn debygol o ofyn i rywun ei helpu? Os byddan nhw’n eich dewis chi i’w helpu, fyddwch chi’n dweud, ‘Iawn’, tybed? Neu, a fyddai’n well gennych chi chwarae allan neu orffen rhywbeth rydych chi ar ganol ei wneud, efallai?’
  5. Fe wrandawodd Mair a Joseff, y ddau, ar neges Duw, ac roedden nhw’n gwybod ei bod hi’n ddiogel iddyn nhw wneud yr hyn yr oedd Duw wedi ei gynllunio ac eisiau iddyn nhw ei wneud.

  6. Tua’r adeg roedd hi’n amser i’r babi gael ei eni, roedd yr Ymerawdwr Rhufeinig eisiau gwybod enw pawb yr oedd yn llywodraethu arnyn nhw yng ngwlad Palestina. Felly, fe orchmynnodd i’r holl bobl fynd yn ôl i’r dref lle’r oedden nhw wedi cael eu geni, i roi eu henwau ar gofrestr. Roedd hyn yn golygu bod rhaid i Joseff fynd ar daith hir i Fethlehem gyda Mair, ei wraig. Fe gymrodd Joseff ofal mawr o Mair, gan ei chodi ar gefn yr asyn bob dydd i fynd ymlaen ar y daith hir.

    Fe gariodd yr asyn bach hi’n ddiogel i Fethlehem, ond, o diar, dyna lawer o bobl oedd wedi dod i Fethlehem ar yr un pryd! Roedd cannoedd, os nad miloedd o bobl yno, a doedd dim lle i aros yn unman. Roedd pob gwesty’n llawn.

    Fe ddywedodd gwr caredig un gwesty wrth Joseff a Mair fod ganddo stabl lle gallai Joseff roi’r asyn bach i orffwys dros y nos. Doedd ganddo ddim lle i Mair a Joseff yn y gwesty, ond os hoffen nhw orffwys dros nos gyda’r asyn yn y stabl, roedd croeso iddyn nhw wneud hynny. ‘Efallai y gallech chi a’ch gwraig orffwys yma hefyd,’ meddai. ‘Fe gewch chi orwedd ar y gwellt glân, sych, yma.’ Roedd Mair yn edrych wedi blino’n lân, ac roedd gwr y gwesty’n awyddus i’w helpu, rywsut. Felly, fe dderbyniodd Mair a Joseff y cynnig, ac fe wnaethon nhw setlo i gysgu yn y stabl dros nos.

    Yn ddiweddarach y noson honno, fe gafodd y babi bach ei eni – baban frenin – yno, yn y stabl, yng nghanol yr anifeiliaid. Fe alwodd Mair ei babi bach yn Iesu, yn union fel roedd yr angel wedi dweud wrthi.

Amser i feddwl

Meddyliwch am Mair, yn cael ei baban bach, yno yn y stabl. Mae’n debyg na chafodd yr un ohonoch chi eich geni mewn lle felly! Gadewch i  ni feddwl heddiw am fabanod bach yn cael eu geni mewn rhannau tlawd o’r byd, heb yr help meddygol a gafodd mam Liwsi Jên.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Adeg y Nadolig hwn, helpa ni i gofio am y plant hynny sydd heb rywle diogel a chlyd i gysgu ynddo.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon