Josie a Jake a'r llwyth trwm
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1
Nodau / Amcanion
Helpu’r plant i werthfawrogi bod arnom ni angen pobl eraill weithiau i rannu ein llwythi trwm â nhw.
Paratoad a Deunyddiau
- Ymgyfarwyddwch â’r stori ganlynol.
Gwasanaeth
Dywedwch y stori ganlynol wrth y plant.
Josie a Jake a’r llwyth trwm
Roedd Josie a Jake yn ffrindiau mawr. Roedden nhw wedi bod yn mynd i’r Cylch Meithrin gyda’i gilydd pan oedden nhw’n ddwy oed. Yna, roedden nhw wedi bod yn mynd gyda’i gilydd i’r Dosbarth Meithrin yn yr ysgol. Roedden nhw wedi bod yn y Dosbarth Derbyn wedyn, ac yn awr roedden nhw wedi dechrau yn Blwyddyn 1, ac yn dal i fod yn ffrindiau da. Roedden nhw’n hoff iawn o’r athrawes, Mrs Davies.
Roedd plant dosbarth Mrs Davies wedi bod yn mwynhau gweithio ar brosiect yn ymwneud â chludiant.
Ar y dydd Llun, roedden nhw wedi gwneud pictogram lliwgar yn dangos beth oedd lliw car eu teulu. Ar y dydd Mawrth, roedden nhw wedi gwneud llun y car heddlu yr oedd heddwas wedi dod ag ef i’r ysgol i’w ddangos i’r plant. Ar y dydd Mercher, roedden nhw wedi cael mynd am dro ar y bws i’r archfarchnad leol. Yn y siop roedden nhw wedi bod yn gwneud arbrofion gyda bagiau plastig er mwyn cael gweld pa mor gryf oedd y bagiau, ac roedden nhw wedi bod yn sylwi ar sut roedd troli’r archfarchnad yn gweithio. Ar y dydd Iau, roedden nhw wedi ymweld â safle adeiladu ac wedi nodi’r gwahanol gerbydau oedd ar waith yno. Roedd Josie a Jake wedi mwynhau gwylio’r jac codi baw a’r craen a’r tryciau wrthi’n gweithio. Roedden nhw’n nerthol iawn. Roedd y plant wedi synnu hefyd at y ffordd roedd yr adeiladwyr yn gallu cario’r brics mewn bocs arbennig gyda thair ochr iddo ar handlen hir dros eu hysgwydd. Hod yw’r enw maen nhw’n ei roi ar y bocs arbennig hwn. Roedd Josie wedi cyfrif eu bod yn cario wyth bricsen ar y tro ym mhob hod.
Heddiw, fe ddangosodd Mrs Davies i’r plant bod ffordd gywir i gario llwythi trymion, a ffordd anghywir. Roedden nhw i gyd wedi bod yn ymarfer codi bocsys trwy blygu eu pen-gliniau. Fe wnaethon nhw ddysgu hefyd bod pâr ychwanegol o ddwylo yn gallu helpu hefyd wrth gario pethau trwm. Roedd pob plentyn wedi paru â ffrind i aildrefnu’r meinciau yn y gym. Roedd hynny’n hwyl. Ac erbyn hyn roedd Jake a’i ffrindiau’n chwarae ar y mat gyda thryc iau, craen a jac codi baw bach gan ddychmygu eu bod yn adeiladwyr.
‘Tyrd i chwarae gyda ni, Josie’, meddai Jake.
Ond doedd Josie ddim yn teimlo fel chwarae heddiw. Roedd hi’n eistedd ar ben ei hun yn dawel yn lliwio llun o Jac Codi Baw. Sylwodd Mrs Davies arni.
‘Oes rhywbeth o’i le, Josie?’ gofynnodd Mrs Davies yn garedig.
Gyda dagrau’n llenwi ei llygaid, fe ddywedodd Josie, ‘Dwi ddim eisiau mynd at y deintydd pnawn heddiw.’
Fe glywodd Jake hi’n dweud hynny ac fe ddaeth at y bwrdd lle'r oedd Josie’n gweithio.
‘O, fe fyddi di’n iawn, gei di weld, Josie. Fues i at y deintydd yr wythnos diwethaf gyda Mam. Mae Mr Thomas yn ddyn caredig. Fe gefais i reid yn ei gadair hud. Mae’r gadair yn plygu ac yn codi, ac fe alli di orwedd yn ôl ac edrych ar y sêr ar y nenfwd. Ac rwyt ti’n cael diod lliw pinc i olchi dy geg, ond dwyt ti ddim yn ei lyncu. Rwyt ti’n cael ei bori allan i sinc fach gron. Edrych, dyma’r sticer gefais i gan Mr Thomas. Rwyt ti’n cael dewis un rwyt ti’n ei hoffi allan o focs mawr.’
Gwenodd Josie.
‘Wir? Gefaist ti lolipop hefyd?’
‘Naddo, siwr, ddim gan y deintydd!’
Chwarddodd Josie, ‘Dwi’n gwybod, dim ond tynnu dy goes di roeddwn i.’
Gwenodd Mrs Davies ar Jake.
‘Jake,’ meddai Mrs Davies wrtho, ’dwi ddim yn gwybod a fyddi di’n gweithio craen ryw ddiwrnod, ond rwyt ti wedi llwyddo i helpu i godi llwyth trwm heddiw.’
‘Do? Sut felly?’ holodd Jake.
‘Do, yn wir,’ atebodd Mrs Davies. ‘Roedd Josie’n teimlo fel pe byddai llwyth trwm yn ei chalon. Nid llwyth o frics neu dywod, na llond troli o nwyddau o’r siop oedd yn pwyso’n drwm arni, ond rhywbeth rydyn ni’n ei alw’n bryder ac ofn. Rwyt ti wedi rhannu’r llwyth trwm hwnnw â hi trwy ddweud wrthi am dy brofiad di yn syrjeri’r deintydd yr wythnos diwethaf. Ac yn ôl ei golwg, rydw i’n meddwl bod Josie’n teimlo’n well yn barod.’
Nodiodd Josie.
‘Wyt ti’n gweld,’ meddai Mrs Davies wedyn, ‘mae llawer o bobl â llwythi trymion yn eu calon - ambell dro llwyth trwm o ofn a phryder neu dristwch. Dydyn ni ddim bob amser yn gwybod am fod y llwythi hyn yn cuddio yng nghalon y bobl ac yn gwneud iddyn nhw deimlo’n drist. Rydyn ni’n gwybod ei fod yn beth da rhannu llwyth trwm gyda’n gilydd, ac mae cael rhywun i rannu llwyth trwm â nhw’n golygu ei fod dipyn ysgafnach wedyn ac yn cael ei godi oddi arnom. Dyna beth wnest ti i helpu Josie heddiw, Jake.’
‘O, fe wela i, fel gwnaethon ni gyda’r meinciau yn y gym, ie?’, meddai Jake.
‘Yn union!’ meddai Mrs Davies gan wenu.
Ar gyfer Ysgolion Eglwys
Yna, fe gasglodd Mrs Davies y plant ynghyd i rannu’r wers yr oedd Josie a Jake wedi ei dysgu y diwrnod hwnnw. Fe ddywedodd hi fod Iesu hefyd yn gwybod am y llwythi trymion sydd ambell dro yn ein calon ninnau hefyd. Fe ddywedodd Iesu wrth ei ffrindiau am ddod ato unrhyw adeg y bydden nhw’n bryderus, ac yn gofidio am rywbeth, ac y byddai ef hefyd yn gallu eu helpu i gario eu llwythi trymion.
‘Felly, meddai Jake. ‘Mae gen ti ddau y gelli di rannu dy lwyth trwm â nhw, Josie - Fi a Iesu.’
‘Cywir eto, Jake,’ meddai Mrs Davies gan wenu eto. ‘Dyna lawer rydyn ni wedi ei ddysgu heddiw am lwythi trymion.’
Amser i feddwl
Ydych chi’n cario llwyth trwm yn eich calon heddiw?
Meddyliwch gyda phwy y gallech chi siarad am hynny.
Cofiwch fod Iesu yno bob amser i’ch helpu chi hefyd.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti’n gwybod am ein llwythi trymion.
Diolch dy fod ti’n gofalu amdanom ac yn gwybod beth sy’n digwydd yn ein bywyd.
Diolch i ti am roi pobl garedig o’n cwmpas, pobl y gallwn ni ymddiried ynddyn nhw a rhannu ein problemau gyda nhw.
Diolch dy fod ti wedi addo bod gyda ni bob amser.
Amen.