Sut i ddefnyddio'r safle hwn   Amdanom ni   Cyflwyniadau   Adborth   Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Oen bach y stabl

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Mwynhau un o storïau’r Nadolig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewiswch un o hoff garolau’r plant i’w chanu ar ddiwedd y gwasanaeth.
  • Ymgyfarwyddwch â’r stori.

Gwasanaeth

Dywedwch y stori ganlynol wrth y plant.

Oen bach y stabl

Roedd hi’n dechrau tywyllu ar ochr y brys, ac fe gasglodd Isaac, y bugail, ei ddefaid ynghyd a’u rhoi yn ddiogel yn y gorlan dros y nos. Roedd y bugeiliaid eraill wedi cynnau tân allan yn yr awyr agored, ac roedden nhw eisoes yn eistedd gyda’i gilydd o gwmpas y tân wrth i’r haul fachlud yn y gorllewin. Roedd Llam yr oen bach ieuengaf wrth ei fodd yr adeg hon o’r dydd. Fe orweddodd wrth draed  Isaac a hepian cysgu yn swn y bugeiliaid yn sgwrsio yn yr awyrgylch llonydd, tawel.

Roedd Isaac wedi gofalu am Llam ers pan oedd yn oen bach, oherwydd bod mam Llam wedi marw’n fuan ar ôl iddo gael ei eni. Isaac oedd wedi ei fwydo a gofalu amdano. Isaac oedd wedi ei gario yn ei freichiau cryfion, ac Isaac oedd wedi ei helpu i dyfu’n oen cryf ac iach. Roedd Llam yn caru ei feistr yn fawr iawn.

‘Rydw i’n mynd i dy alw di’n Llam’, roedd Isaac wedi ei ddweud wrth yr oen bach ryw ddiwrnod pan oedd ond ychydig o ddyddiau oed, wrth weld yr oen bach yn llamu’n hapus ar ei goesau bach simsan ar ochr y bryn.

Doedd y defaid eraill ddim yn cymryd llawer o sylw o Llam. Roedd yn rhy fywiog ac egniol iddyn nhw chwarae ag ef. Fe fydden nhw’n cadw gyda’i gilydd, yn dilyn ei gilydd, ac yn crwydro fan hyn a fan draw, yma ac acw, yn pori ac yn cysgu, yn cysgu ac yn pori.

‘Twt!’ meddai Llam wrth y defaid eraill, ‘mae bywyd yn rhy gyffrous i dreulio cymaint o amser yn cysgu. Dewch i archwilio!’ Ond fyddai neb o’r defaid yn cymryd sylw o gynnig Llam.

Roedd y nos yn llonydd iawn a thawel y noson honno, a’r awyr yn ddu iawn. Roedd Llam yn hepian cysgu wrth draed Isaac yn swn clecian y tân a sgwrsio’r bugeiliaid. Yn sydyn, fe ymddangosodd golau mawr llachar yn yr awyr o’u blaen - golau disglair gwyn. Roed y bugeiliaid wedi dychryn - ac mae’n cymryd rhywbeth go fawr i ddychryn bugeiliai! Fe redodd hyd yn oed Llam i guddio y tu ôl i wisg Isaac.

‘Peidiwch ag ofni!’ gorchmynnodd llais cadarn a chryf mewn ffordd garedig, ac fe sbeciodd Llam allan o’r tu ôl i wisg Isaac. ‘Rydw i’n dod â newyddion da i chi am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl. Heddiw, yn nhref Dafydd mae Gwaredwr wedi ei eni i chi: dyma’r Meseia, yr Arglwydd. A dyma’r arwydd i chi, fe gewch chi hyd i’r un bach yn wedi ei rwymo mewn dillad baban ac yn gorwedd mewn preseb.’

Ac ar hynny fe lanwyd yr awyr i gyd â llu o angylion, cannoedd ohonyn nhw, miloedd ohonyn nhw, i gyd yn disgleirio mewn llewyrch gwyn. Roedd eu canu, wrth iddyn nhw foli Duw, yn aruthrol. Yna, mor sydyn ag y gwnaethon nhw ymddangos, fe wnaethon nhw ddiflannu.

Am ychydig, roedd y bugeiliaid yn hollol fud, yn methu dweud dim, ond doedden nhw ddim yn ofni. Sylwodd Llam fod y defaid yn y gorlan yn swatio’n glos, glos, gyda’i gilydd ac yn crynu gan ofn.

‘Gadewch i ni fynd i Fethlehem’, meddai Isaac. Roedd llam yn barod i fynd ar unwaith, fel y gallwch chi ddychmygu! ‘Na, na!’ meddai’r defaid eraill gyda’i gilydd. ‘Tyrd i mewn i’r gorlan lle byddi di’n ddiogel gyda ni. Wyddost ti ddim beth sy’n digwydd yn y dref. Mae’n lle peryglus. Efallai mai trap yw’r cyfan!’

Chwarddodd Llam a rhedeg ar ôl y bugeiliaid oedd wedi cychwyn cerdded tua Bethlehem. ‘Arhoswch chi yn y gorlan yn ddiogel. Fe ddof i’n ôl i ddweud yr hanes wrthych chi.’

Wrth i’r criw o fugeiliaid nesu at Fethlehem, fe welson nhw seren anghyffredin o ddisglair yn yr awyr. Roedd fel petai’n hongian uwch ben adeilad yn y dref - uwch ben stabl, mewn gwirionedd. Roedd y seren fel petai’n dweud wrthyn nhw, ‘Dyma chi, ewch i mewn.’

Gwthiodd Isaac y drws yn araf ac, er syndod mawr iddo, fe welodd wr a gwraig ifanc yn gorffwys gyda’r anifeiliaid yno. A dyna pryd y gwelodd Llam y baban bach wedi ei lapio’n gynnes, yn gorwedd yn y preseb.

Cyflwynodd y bugeiliaid eu hunain ac eistedd ar y gwair sych gyda Mair a Joseff, tad a mam y baban bach. Fe wnaethon nhw ddweud wrthyn nhw am y golau llachar yn yr awyr ar ochr y bryn, a dweud am y negesydd o’r nefoedd, dweud hanes y llu o angylion ac am y canu gorfoleddus a’r neges a glywson nhw am waredwr oedd wedi cael ei eni ym Methlehem. Roedd llawenydd a chyffro yn eu lleisiau wrth iddyn nhw sôn am hyn a thrafod beth allai ystyr hyn fod.

Yr unig beth allai Llam ei wneud oedd syllu ar y baban bach. Roedd o mor hardd, mor fach, gyda’r llygaid tyneraf a mwyaf diniwed a welodd erioed. Wrth i Llam syllu ar faban bach newydd Mair a Joseff, roedd yn teimlo fel petai’n syllu i’r dyfodol, yn syllu i wyneb bugail arall, wyneb rhywun a fyddai’n caru holl bobl y byd yn union yr un ffordd ag yr oedd Isaac wedi ei garu ef.

Rhoddodd Llam fref fach dyner, a dweud, ‘O! Un bach, rydw i’n meddwl y byddi di’n fugail pan fyddi di’n hyn, bugail da iawn. Edrychodd y baban bach ar Llam a gwenu arno.

Ar gyfer Ysgolion Eglwys

Roedd llam yn iawn. Fe ddaeth Iesu’n fugail - nid bugail yn gofalu am ddefaid, ond yn hytrach bugail yn gofalu am bobl. Roedd Llam yr oen bach amddifad wedi bod angen bugail caredig a chariadus fel Isaac i ofalu amdano a’i garu. Mae Cristnogion yn credu bod ar bobl angen bugail hefyd i ofalu amdanyn nhw a’u harwain trwy fywyd. Y bugail hwnnw yw Iesu.

Amser i feddwl

Beth ydych chi’n feddwl ddywedodd Llam wrth y defaid pan ddaeth yn ei ôl o Fethlehem?

Ydych chi’n meddwl bod y defaid wedi ei gredu?

Ydych chi’n meddwl efallai y bydden nhw wedi hoffi cael mynd i Fethlehem, hefyd?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y newydd da hwn, rydyn ni’n cael ei hatgoffa ohono ar adeg y Nadolig.
Diolch i ti am anfon dy Fab, Iesu, i’r byd.
Gofala amdanom ni heddiw a phob amser.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Canwch y garol rydych chi wedi ei dewis.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon