Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Calendrau Adfent

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried pam ein bod yn defnyddio calendrau Adfent, ac ystyried sut maen nhw wedi datblygu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch amrywiaeth o wahanol galendrau Adfent – rhai cerdyn (gyda lluniau stori’r Geni arnyn nhw), rhai gyda siocledi y tu ôl i’r drysau, rhai wedi eu gwneud o ddefnydd gyda phocedi bach, ac ati – neu defnyddiwch luniau o wahanol rai.
  • Dewiswch hoff garol neu gân Nadoligaidd i’w chanu ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant beth maen nhw'n ei fwynhau fwyaf am y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig.

  2. Yn dibynnu ar ble y mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnal, gofynnwch i'r plant a oes unrhyw un ohonyn nhw eisoes wedi agor calendrau Adfent, neu'n barod i'w hagor.

    Dangoswch i'r plant eich casgliad o galendrau Adfent. Gofynnwch iddyn nhw pa bwrpas sydd i galendrau. Gofynnwch iddyn nhw a oes unrhyw un ohonyn nhw’n gwybod sut, a pha bryd, y cafodd y calendrau Adfent cyntaf eu gwneud.

  3. O draddodiad yn yr Almaen yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg y daeth y syniad o gyfrif y dyddiau hyd at y Nadolig, pryd y byddai pobl Gristnogol yn rhoi marciau â sialc ar ddrysau eu tai gan ddechrau ar 1 Rhagfyr. Fe fydden nhw’n parhau i roi marc ar y drws bob dydd hyd at y dydd Nadolig ei hun.  Y syniad oedd bob tro y byddai rhywun yn dod i mewn i'r ty, y bydden nhw'n cael eu hatgoffa bod Duw wedi anfon Iesu i'r byd ar adeg y Nadolig.

    Fel yr aeth yr amser yn ei flaen, fe ddechreuodd rhai teuluoedd gynnau cannwyll bob diwrnod, gan ddechrau ar 1 Rhagfyr, tra bo teuluoedd eraill wedi dechrau rhoi llun bach crefyddol ar y mur bob diwrnod.

    Yn ddiweddarach, byddai teuluoedd yn gosod cannwyll ar y goeden Nadolig bob diwrnod, gan ddechrau ar 1 Rhagfyr - weithiau byddai'r canhwyllau hyn yn cael eu cynnau'n ddyddiol, weithiau fe fydden nhw'n syml yn cael eu gosod ar y goeden Nadolig, yn barod i'r cyfan ohonyn nhw gael eu cynnau gyda'i gilydd ar Noswyl y Nadolig. Roedd hyn yn cael ei wneud i atgoffa pobl fod Iesu, goleuni'r byd, wedi cael ei eni ar ddydd y Nadolig.

  4. Dyn o'r enw Gerard Lang sydd fel arfer yn derbyn y clod o gynllunio'r calendr Adfent cyfoes. Fe wnaeth 30 o'r calendrau yn y flwyddyn 1908. Fe gawson nhw eu gwneud â dwy haen o gerdyn gyda'r haen uchaf â 24 o ddrysau bach wedi cael eu torri arni fel bo drws gwahanol yn cael ei agor bob diwrnod. Roedd gan y calendrau amrywiaeth o luniau crefyddol a seciwlar (digrefydd) arnyn nhw.  Tua'r un amser, cafodd calendr crefyddol hefyd ei wneud - roedd gan hwn adnodau o'r Beibl y tu ôl i bob drws yn hytrach na llun.

    Diflannodd yr arferiad o ddefnyddio calendrau Adfent yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond fe gawson nhw eu hail-gyflwyno ar ôl y rhyfel gan ddyn o'r enw Richard Stuttgart. Fe ddaethon nhw'n boblogaidd yn fuan. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd y mwyafrif o'r calendrau Adfent yn cael eu gwneud o gerdyn - dangoswch y calendr sydd wedi ei wneud o gerdyn - ac roedd gan y mwyafrif ohonyn nhw lun o olygfa mewn stabl i atgoffa pobl am hanes genedigaeth Iesu.

  5. Dros y blynyddoedd, daeth canhwyllau’r Adfent yn boblogaidd, gydag un rhan fach o'r gannwyll yn cael ei llosgi bob dydd, gan ddechrau ar 1 Rhagfyr.

    Yn ystod y blynyddoedd mwyaf diweddar bu ffyniant aruthrol mewn calendrau Adfent sy’n cynnwys siocledi - dangoswch yr un sydd gennych chi. Erbyn hyn mae amrywiaeth enfawr o galendrau Adfent ar gael - gofynnwch i'r plant ddisgrifio unrhyw un o'r rhai y maen nhw wedi eu gweld.

  6. Mae llawer o bobl yn y wlad hon yn agor calendrau Adfent yn ystod y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig. Yn y flwyddyn Gristnogol, cyfnod yr Adfent yw'r amser pryd y byddwn yn paratoi ein hunain i ddathlu genedigaeth Iesu ar ddydd y Nadolig. Pan fyddwn yn agor ein calendrau, maen nhw'n ein hatgoffa bod Iesu wedi dod i’r byd, ac wedi newid y byd.

Amser i feddwl

Oedwch am funud a meddyliwch am ddyfodiad y Nadolig. At beth rydych chi'n edrych ymlaen fwyaf? Wnaethoch chi agor drws bach ar galendr Adfent bore heddiw? Meddyliwch am funud pam y cafodd calendrau Adfent eu datblygu gyntaf oll – er mwyn ein hatgoffa o wir ystyr y Nadolig.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am gyfnod y Nadolig.
Diolch i ti am yr holl hwyl a sbri.
Helpa ni i gofio am wir ystyr y Nadolig a gad i ni dreulio amser da yng nghwmni ein teuluoedd a'n ffrindiau.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Cyd-ganwch hoff garol neu gân Nadoligaidd.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon