Dathlu'r Nadolig
gan Manon Ceridwen James
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Helpu’r plant i feddwl am ystyr y Nadolig.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen recordiad o ddau fath o gerddoriaeth Nadoligaidd – un myfyriol, tawel - carol efallai, ar gyfer Cam 3, a darn arall gyda mwy o fynd ynddo i’w chwarae ar y diwedd – a threfnwch fodd o chwarae’r ddau ddarn yn y gwasanaeth.
- Fe fydd arnoch chi angen cannwyll.
- Trefnwch fod gennych chi fodelau o rai o gymeriadau stori Gwyl y Geni, neu luniau os na fydd gennych chi fodelau.
Gwasanaeth
- Trefnwch i'r plant eistedd ar y llawr mewn cylchoedd consentrig, gyda chi yn y canol, neu ar ffurf pedol os yw hynny'n gweithio'n well i chi. Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn arwydd bod hyn yn mynd i fod yn fath gwahanol o wasanaeth i'r cyffredin, a bydd hynny'n help i'r plant fod yn fwy myfyriol. Gosodwch y gannwyll heb ei goleuo yn y canol, gyda ffigyrau stori'r Nadolig ar un ochr iddi. Cadwch y ffigwr o Iesu rhywle wrth law ond ar wahân. Pylwch y goleuadau neu diffoddwch nhw'n gyfan gwbl er mwyn gwneud yr ystafell cyn dywylled â phosib.
- Eglurwch i’r plant eich bod eisiau iddyn nhw eich helpu chi i ddweud stori'r Nadolig ac mai'r gwasanaeth Nadolig hwn yw'r un arbennig ar eu cyfer, ac fe fydd yn achlysur pryd y byddan nhw'n gallu eistedd a meddwl am yr hyn y mae'r Nadolig yn ei olygu.
- Ceisiwch gael y plant i fyfyrio wrth i chi chwarae'r darn cerddoriaeth Nadoligaidd, fyfyriol, yn dawel.
- Pan fydd y plant wedi llonyddu, gofynnwch iddyn nhw wirfoddoli, fesul un, a dod atoch chi i ddewis cymeriad (un o’r modelau bach neu luniau’r cymeriadau), ac egluro wedyn pa ran sydd gan y cymeriad hwnnw yn y stori.
- Nid yw'n bwysig pa ffigwr sy'n cael ei ddewis, nac ym mha drefn y bydd y plant yn eu dewis. Ond helpwch y plant wrth ofyn i bob un egluro pa ran sydd gan y cymeriad penodol yn y stori. Er enghraifft:
- Mair oedd mam Iesu, dynes ifanc a wnaeth rhywbeth arbennig iawn, a ddywedodd ‘Gwnaf’ wrth Dduw a chytuno i gael y baban arbennig fyddai'n newid y byd
- Joseff oedd gwr Mair, a oedd yn gofalu amdani ac a oedd yn dad i Iesu ar y Ddaear
- yr angylion ddywedodd wrth y bugeiliaid am y newydd da bod baban arbennig wedi cael ei eni
- yr asyn a gariodd Mair yr holl ffordd o Nasareth i Fethlehem
- caiff buwch ei chynnwys gan i Iesu gael ei eni mewn stabl, felly fe fyddai pob math o anifeiliaid wedi bod yn byw yno, yn y stabl
- y bugeiliaid a oedd yn gweithio allan yn yr awyr agored pan ddaeth yr angylion i ddweud wrthyn nhw'r newydd da am Iesu'n dod i helpu'r byd ac i ddangos i ni'r ffordd at Dduw. Roedd gan y bugeiliaid yr adeg honno waith diflas, yn gweithio allan drwy'r dydd a thrwy'r nos, yn gwarchod eu defaid rhag bleiddiaid ac anifeiliaid gwyllt eraill. A doedd pobl ddim yn eu hoffi oherwydd eu bod yn tueddu i fod yn wahanol i bawb arall - roedd rhai ohonyn nhw'n fudr ac yn drewi! Ond nhw oedd y rhai cyntaf i dderbyn y newydd da am Iesu, yr efengyl, yn y ffordd arbennig iawn hon - mae'r efengyl ar gyfer pawb.
Helpwch bob plentyn i egluro stori'r Nadolig yn eu geiriau eu hunain. Wrth iddyn nhw ddewis ffigwr, bydd holi cwestiynau am bwy yw’r cymeriad, a pham y mae ef neu hi'n bwysig, yn helpu’r plentyn i ddweud ei ran o’r stori. - Gofynnwch i'r plant, ‘Pwy sydd ar goll?’ Gobeithio y byddan nhw'n dweud, ‘Iesu!’ Ewch i nôl y ffigwr o Iesu ac eglurwch fod Cristnogion yn credu mai Iesu yw Mab Duw, a ddaeth i'r Ddaear fel baban i ddangos y ffordd at Dduw, i'n helpu i'w ddilyn a charu pobl eraill.
Eglurwch ein bod weithiau yn sôn am Iesu fel ‘goleuni'r byd’. Goleuwch y gannwyll. Ewch ymlaen i sôn fel rydyn ni’n methu gweld pan fyddwn ni yn y tywyllwch, ac weithiau fe fyddwn ni’n teimlo'n ofnus. Mae cael golau, fel tortsh, yn gallu ein helpu i weld y ffordd. Felly, wrth feddwl am Iesu fel goleuni'r byd gallwn olygu ei fod wedi dod i'n helpu i beidio â bod ofn, ac i ddeall bywyd yn well.
Gofynnwch i'r plant fod yn dawel am foment neu ddwy, ac yn y distawrwydd, gofynnwch iddyn nhw feddwl am Iesu ac am stori'r Nadolig. Arhoswch yn ddistaw cyhyd ag y gall y plant ddygymod (yn rhyfeddol, yn dibynnu ar yr ysgol, gall cyfnod o ddistawrwydd weithio'n dda, felly peidiwch â bod ofn ei ddefnyddio mewn llawer o gyd-destunau gwahanol). - I ddiweddu, soniwch fod y Nadolig yn gyfnod tawel i feddwl, ond mae hefyd yn gyfnod i ddathlu. Chwaraewch y darn bywiog, llawen o gerddoriaeth Nadoligaidd i ddiweddu'r gwasanaeth.
Amser i feddwl
Mae'r mwyafrif o'r gwasanaeth wedi bod yn ymwneud â myfyrdod, felly diweddwch y cyfarfod yn swnllyd trwy ddweud, ‘Nadolig Llawen!’ drosodd a throsodd wrth y naill a'r llall!
Cân/cerddoriaeth
Un o hoff garolau’r plant.
Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2013 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.