Cwis Nadolig
gan Rebecca Parkinson
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Defnyddio calendr Adfent i atgoffa’r plant o stori’r Nadolig.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen calendr Adfent - fe all hwn fod o unrhyw fath hoffech chi, hyd yn oed yn un sy’n cynnwys siocledi! Os na fyddwch yn dewis un gyda siocledi gofalwch bod gennych chi felysion bach y gallwch chi eu rhannu fel gwobrau, os bydd hynny’n cael ei ganiatáu.
Gwasanaeth
- Gofynnwch i'r plant am yr hyn y maen nhw'n ei fwynhau fwyaf am y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig. Gofynnwch iddyn nhw a ydyn nhw wedi agor calendrau Adfent bore heddiw.
- Eglurwch, tra bo calendrau Adfent yn hwyl fawr ac yn ein harwain tuag at holl gyffro Dydd Nadolig, tymor yr Adfent yw'r adeg sy'n ein hatgoffa o'r Nadolig cyntaf – dyfodiad Iesu i'r byd.
- Dangoswch i'r plant y calendr Adfent a ddaethoch gyda chi i'r gwasanaeth. Eglurwch pa mor hawdd yw hi, yng nghanol yr holl gyffro i anghofio gwir ystyr y Nadolig. Dywedwch wrthyn nhw eich bod yn mynd i ofyn cwestiynau am stori'r Nadolig. Os byddan nhw'n cael yr ateb yn gywir, yna fe fyddan nhw’n cael dod ymlaen ac agor un o'r drysau ar y calendr (a bwyta'r siocled neu wobr arall). Atgoffwch y plant i agor y drysau yn ôl trefn y dyddiadau.
- Gofynnwch y cwestiynau canlynol i'r plant.
Beth yw enw mam Iesu? (Mair.)
Pwy ddywedodd wrth Mair ei bod yn mynd i gael babi? (Angel.)
Beth oedd enw tad Iesu? (Joseff.)
Ymhle yr oedd Mair a Joseff yn byw? (Nasareth.)
Beth oedd enw'r dref y teithiodd Mair a Joseff iddi? (Bethlehem.)
Pam oedd yn rhaid i Mair a Joseff deithio i Fethlehem? (Roedd Cesar wedi gorchymyn fod y bobl yn dychwelyd i dref eu teulu ar gyfer cynnal cyfrifiad.)
Ymhle y bu raid i Mair a Joseff aros? (Mewn stabl.)
Pam wnaethon nhw gysgu mewn stabl? (Nid oedd ystafell ar gael yn unman. Roedd pob gwesty’n llawn.)
Pan gafodd y baban Iesu ei eni, â pha beth y gwnaeth ei fam ei rwymo? (Stribedi o ddefnydd.)
Ymhle y gosododd Mair y baban Iesu? (Yn y preseb.)
Pwy aeth i weld Iesu ar y noson y cafodd ei eni? (Bugeiliaid.)
Ymhle roedd y bugeiliaid wedi bod y noson honno? (Ar ochr y bryn.)
Sut oedd y bugeiliaid yn gwybod bod Iesu wedi cael ei eni? (Fe ymddangosodd rhai angylion wrth eu hymyl a dweud wrthyn nhw.)
Beth ddywedodd yr angylion wrth y bugeiliaid yr oedden nhw i fod i'w wneud? (Mynd i'r stabl a chael hyd i'r baban oedd wedi cael ei eni yno.)
Beth welodd y doethion i wneud iddyn nhw fynd i chwilio am y baban newydd? (Seren newydd yn yr awyr.)
Pwy aeth y doethion i ymweld ag ef, pan oedden nhw ar eu ffordd i chwilio am Iesu? (Brenin Herod.)
Pam oedd Herod yn bryderus? (Doedd Herod ddim eisiau i rywun arall fod yn frenin yn ei le.)
Pa anrhegion roddodd y doethion i Iesu? (Aur, thus a myrr.)
Pam nad aeth y doethion yn ôl i balas Herod fel yr oedd ef wedi gofyn iddyn nhw? (Fe gawson nhw eu rhybuddio mewn breuddwyd i beidio â gwneud hynny.)
Pan rybuddiodd Duw Joseff, mewn breuddwyd, fod Herod yn chwilio am Iesu, i ble y gwnaeth Mair, Joseff a'r baban ffoi? (I’r Aifft.)
I ble y symudodd y teulu i fyw ar ôl rhai blynyddoedd? (Yn ôl i Nasareth.)
Ym mha lyfr rydyn ni’n gallu darllen y stori am eni Iesu? (Yn y Beibl.) - Nodwch fod y gwasanaeth heddiw wedi bod yn hwyl, ond mae'r stori'n bwysig iawn. Mae Cristnogion yn credu mai mab Duw yw Iesu a gafodd ei anfon atom o'r nefoedd. Ei enedigaeth ef roddodd y Nadolig cyntaf i ni! Gosodwch sialens i'r plant geisio cofio'r stori pan fyddan nhw'n agor eu calendrau.
Amser i feddwl
Caewch eich llygaid a meddyliwch am y stabl yn stori'r Nadolig. Ydych chi'n credu y byddech chi wedi hoffi cael eich geni yno?! Dychmygwch swn yr anifeiliaid a'r arogleuon! Eto, dyna'r lle y cafodd Iesu ei eni! Meddyliwch am yr holl bobl dlawd yn y byd hwn. Onid yw hi'n wych fod Duw wedi gadael i Iesu gael ei eni yn y fath le tlawd yn hytrach na mewn palas?
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am stori'r Nadolig.
Diolch i ti na chafodd Iesu ei eni mewn palas crand, ond mewn stabl dlawd.
Helpa ni i gofio am blant dros y byd i gyd sy'n cael eu geni i dlodi.
Y Nadolig hwn, helpa ni i fod yn werthfawrogol am bopeth sydd gennym.
Helpa ni i fod yn fodlon rhoi yn ogystal â derbyn.
Amen.