'Helo, Sgryffi!' Dathlu!
gan the Revd Sylvia Burgoyne
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 1
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Annog y plant i fod yn gyfeillgar a charedig.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
- Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi’n barod am eich llaw.
Gwasanaeth
- Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’
Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.
Mae Liwsi Jên yn byw ar fferm gyda’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau! - Roedd Liwsi Jên mewn hwyliau drwg. ‘Mae Bili, sydd yn yr un dosbarth â fi yn yr ysgol, yn fachgen drwg iawn, Sgryffi! Bachgen bach ydi o, ond mae o bob amser yn gwneud pethau drwg, ac yn cael plant eraill i drwbl. Ddoe, roedd o wedi taro Jo pan oedden ni’n chwarae ar yr iard ac roedd Jo’n crio’n ofnadwy. Ac fe ddywedodd Bili wrth Mrs Davies mai Jo oedd wedi ei daro fo yn gyntaf. Heddiw, fe wnaeth o gymryd fy mhensiliau i. Pan ofynnais i amdanyn nhw’n ôl fe’i taflodd o nhw ar y llawr. Roedd yn rhaid i mi eu codi nhw, ac roedd Mrs Davies yn fy nwrdio i ac yn dweud wrtha i am beidio â bod mor flêr gyda fy mhethau! Roedd Bili’n meddwl bod hynny’n ddoniol iawn. Mae o’n fachgen cas, annifyr iawn! Does neb yn ei hoffi. Pan ddywedais i’r hanes wrth Mam, wnei di byth ddyfalu beth ddywedodd hi.’
Gofynnwch i’r plant, ‘Beth ydych chi’n feddwl ddywedodd mam Liwsi Jên wrthi?’
‘Fe ddywedodd hi, efallai na fyddai Bili mor annifyr pe bydden ni’n siarad efo fo ac yn gofyn iddo fo ddod i chwarae efo ni. Wyt ti’n meddwl bod beth mae Mam yn ei ddweud yn iawn, Sgryffi?’
‘Hi-ho! Hi-ho!’ nodiodd Sgryffi.
Gofynnwch i’r plant, ‘Ydych chi’n meddwl fod yr hyn mae Mam Liwsi Jên yn ei ddweud yn iawn? A ddylen ni geisio bod yn gyfeillgar ?’
Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, roedd gan Liwsi Jên wên lydan ar ei hwyneb wrth iddi gerdded i mewn i’r stabl at Sgryffi ar ôl yr ysgol. Roedd bachgen bach yn ei dilyn. ‘Dyma Bili, Sgryffi,’ meddai Liwsi Jên. ‘Mae Bili wedi dod i gael te efo fi. Ond yn gyntaf, fe hoffen ni ofyn i ti gaiff o reid ar dy gefn di, plîs, Sgryffi?’
'O! Ie!! Ga' i reid ar dy gefn di, plîs, Sgryffi?’ gofynnodd Bili.
‘Hi-ho! Hi-ho!’ nodiodd Sgryffi.
Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.
- Dyn bychan, byr oedd Sacheus. Ei waith oedd casglu arian gan bobl y wlad i’w rhoi i’r Rhufeiniaid oedd yn rheoli’r wlad. Doedd neb yn hoffi’r Rhufeiniaid, felly roedden nhw’n casáu unrhyw un a oedd yn gweithio iddyn nhw hefyd. Roedden nhw’n casáu Sacheus yn neilltuol, am ei fod yn gofyn iddyn nhw roi llawer o arian i’r wlad. Ond yn fwy na hynny, roedd Sacheus yn cadw rhywfaint o’r arian iddo’i hun. Roedd yn twyllo, a doedd hynny ddim yn iawn!
Un diwrnod roedd tyrfa fawr o bobl yn disgwyl yn y stryd am gael gweld Iesu. Penderfynodd Sacheus y byddai yntau hefyd yn hoffi gweld pwy oedd y dyn hwn, Iesu, roedd wedi clywed llawer o bobl yn sôn amdano. Ond roedd gormod o bobl o’i gwmpas, ac roedden nhw’n dalach nag ef. Doedd Sacheus ddim yn gallu gweld, ond fe gafodd syniad da.
Gofynnwch i’r plant, ‘Oes rhywun yn gwybod beth oedd y syniad da gafodd Sacheus?’
Fe ddringodd Sacheus i ben coeden sycamorwydden, ac oddi yno roedd yn gallu gweld yn dda. Roedd yn gallu gweld Iesu’n dod yn nes ac yn nes, a phan ddaeth Iesu at y goeden fe arhosodd. Tybed pam yr arhosodd Iesu wrth y goeden? Roedd wedi gweld Sacheus ar ben y gangen yn edrych i lawr rhwng y brigau a’r dail. Fe alwodd Iesu arno, ‘Tyrd i lawr, Sacheus! Rydw i’n dod i dy dy di i gael te heddiw!’
Doedd Sacheus ddim yn gallu credu beth oedd Iesu wedi ei ddweud wrtho. Doedd neb byth yn dod i’w dy. Doedd neb yn ei hoffi!
Gofynnwch i’r plant, ‘Ydych chi’n meddwl bod Iesu’n hoffi Sacheus?’
Roedd Iesu’n gwybod mai twyllwr oedd Sacheus, ond roedd yn dal i’w garu. Roedd Sacheus hefyd yn gwybod ei fod yn dwyllwr, ac oherwydd bod Iesu’n ei garu er gwaethaf hynny, fe benderfynodd y byddai’n rhoi’r arian yr oedd wedi eu dwyn yn ôl i’r bobl. Ac fe benderfynodd y byddai yn berson gwell yn y dyfodol.
Amser i feddwl
Meddyliwch am foment am y ddwy stori rydych chi wedi eu clywed.
Ydych chi wedi bod ddim yn garedig, neu ddim yn gyfeillgar tuag at bobl eraill, ryw dro?
Gweddi
Annwyl Iesu,
Diolch i ti am ein caru, hyd yn oed pan fyddwn ni ddim yn ymddwyn yn y ffordd orau bosib.
Helpa ni i geisio gwneud daioni yn hytrach na gwneud pethau sydd ddim yn iawn.
Amen.
Cân/cerddoriaeth
Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2014
Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2014 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.