Bentley'r Bluen Eira
gan Dom Murphy
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Dathlu prydferthwch plu eira.
Paratoad a Deunyddiau
- Llwythwch i lawr luniau o Wilson Bentley – y dyn a lwyddodd gyntaf i dynnu ffotograff o bluen eira sengl, yn y flwyddyn1885.
- Hefyd chwiliwch am rai delweddau sy’n dangos sut mae plu eira’n ffurfio a delweddau o wahanol blu eira.
- Fe fydd arnoch chi hefyd angen map o Unol Daleithiau America, yn dangos ble mae Vermont, a’r modd o’i ddangos, ynghyd â’r delweddau eraill, fel bydd y plant yn gallu eu gweld yn ystod y gwasanaeth.
- Paratowch y dyfyniad canlynol, i’w ddangos gyda’r delweddau: ‘Under the microscope, I found that snowflakes were miracles of beauty; and it seemed a shame that this beauty should not be seen and appreciated by others. Every crystal was a masterpiece of design and no one design was ever repeated. When a snowflake melted, that design was forever lost.’ Dyma addasiad o’r dyfyniad yn Gymraeg: ‘O dan y microsgop, fe welais i fod plu eira’n wyrth o harddwch; ac roedd yn ymddangos yn drueni i mi nad oedd y prydferthwch hwn yn cael ei weld a’i werthfawrogi gan eraill. Roedd pob crisial yn gampwaith o ddyluniad, a doedd dim un dyluniad yn cael ei ailadrodd. Pan doddai pluen eira, roedd y dyluniad hwnnw wedi ei golli am byth.’
Gwasanaeth
- Croesawch y plant yn ôl i'r ysgol. Gofynnwch iddyn nhw os ydyn nhw wedi cael hwyl yn chwarae yn yr eira, (a chymryd y bydd hi wedi bod yn bwrw eira!)
Mae eira yn ddeunydd rhyfeddol. Mae defnynnau dwr yn troi'n grisialau rhew yn uchel yn y cymylau. Mae'r crisialau hyn yn taro yn erbyn crisialau eraill ac yn troi'n blu eira.
Rhaid i'r aer y mae'r plu eira yn disgyn trwyddo fod islaw'r rhewbwynt, neu fe fydd y plu eira yn troi'n law.
Dangoswch ddelweddau o grisialau eira yn ffurfio'n blu eira.
Rwy'n sicr bod y mwyafrif ohonoch yn gwybod un ffaith am blu eira - mae pob pluen eira'n wahanol.
Fe hoffwn i ddweud wrthych am y person wnaeth ddarganfod y ffaith hon - y dyn a ddaeth yn adnabyddus fel ‘Snowflake Bentley’ neu ‘The Snowflake Man’. - Americanwr o'r enw Wilson A. Bentley oedd o.
Dangoswch lun o Bentley.
Cafodd ei eni bron 150 o flynyddoedd yn ôl yn Vermont, lle mae'r gaeafau'n oer iawn.
Dangoswch leoliad Vermont ar fap.
Yn ffarmwr wedi addysgu ei hun, daeth i ryfeddu at grisialau eira. Edrychodd arnyn nhw dan ficrosgop a cheisio tynnu llun ohonyn nhw, ond roedden nhw'n rhy gymhleth i'w cofnodi cyn iddyn nhw ddadmer, felly fe ddyfeisiodd ffordd o atodi camera i'w ficrosgop ac, ar ôl llawer o arbrofi, fe lwyddodd i dynnu rhywfaint o luniau.
Nid lluniau o blu eira yw'r mwyafrif o’i luniau mewn gwirionedd. Lluniau ydyn nhw o grisialau eira.
Dangoswch luniau o grisialau eira.
Mae'n rhyfeddol meddwl bod rhai o'r lluniau yn 120 o flynyddoedd oed. - Yn y flwyddyn 1925, cafodd Bentley ei ddyfynnu'n dweud y canlynol (dangoswch a darllenwch y dyfyniad, a’r addasiad sydd yma o’r dyfyniad, os hoffech chi): ‘Under the microscope, I found that snowflakes were miracles of beauty; and it seemed a shame that this beauty should not be seen and appreciated by others. Every crystal was a masterpiece of design and no one design was ever repeated. When a snowflake melted, that design was forever lost.’ A dyma, yn Gymraeg, addasiad o’r hyn a ddywedodd Wilson Bentley: ‘O dan y microsgop, fe welais i fod plu eira’n wyrth o harddwch; ac roedd yn ymddangos yn drueni i mi nad oedd y prydferthwch hwn yn cael ei weld a’i werthfawrogi gan eraill. Roedd pob crisial yn gampwaith o ddyluniad, a doedd dim un dyluniad yn cael ei ailadrodd. Pan doddai pluen eira, roedd y dyluniad hwnnw wedi ei golli am byth.’
Amser i feddwl
Dyma rywbeth diddorol i'w wybod am waith Bentley. Yn ei fywyd, rhaid ei fod wedi cymryd cryn filoedd o luniau o grisialau eira, ond 5,000 ohonyn nhw'n unig a gadwodd, oherwydd bod y mwyafrif ohonyn nhw'n amherffaith. Fel mater o ffaith,nid oedd yr un ohonyn nhw'n berffaith, ond fe fyddai'n rhaid i chi edrych yn graff i weld y diffygion.
Edrychwch unwaith eto ar lun o bluen eira, er mwyn gweld ei diffygion.
Mae pobl fel plu eira – mae pob un ohonyn nhw'n wahanol. Mae gennym syniadau gwahanol, sgiliau a doniau gwahanol, personoliaethau gwahanol.
Nid oes yr un ohonom yn berffaith, fodd bynnag. Mae'n hawdd iawn i weld diffygion mewn pobl – y diffygion bach, y pethau sy'n eu hatal rhag bod yn berffaith – yn hytrach na chymryd cam yn ôl ac edrych ar y pethau da sydd yn eu gwneud nhw'n arbennig, yn hardd, ac yn unigryw.
Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am stori Wilson Bentley, Dyn y Plu Eira.
Rwyt ti wedi gwneud pob pluen eira’n wahanol i’w gilydd, yn hardd ac yn unigryw, ac rwyt ti wedi gwneud pob un ohonom ni’n wahanol i’n gilydd yn hardd ac yn unigryw, hefyd.
Helpa ni, Arglwydd, i weld y rhinweddau a’r harddwch sydd ym mhob un rydyn ni’n eu hadnabod.
Amen.