Stori Josua a Jericho
Mae unrhyw beth yn bosib gyda Duw
gan Manon Ceridwen James
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Helpu’r plant i deimlo, er gwaetha’r ffaith eu bod yn gweld y gwaith ysgol yn anodd efallai, y byddan nhw’n llwyddo yn y diwedd.
Paratoad a Deunyddiau
- Ymgyfarwyddwch â stori Josua a muriau Jericho (gwelwch Josua 6).
- Fe fydd arnoch chi angen nifer o lyfrau trymion (ym mhob ystyr y gair) neu ryw wrthrych arall i gynrychioli rhywbeth rydych chi wedi llafurio i’w ddysgu, sgil neu wybodaeth.
- Chwiliwch am yr emyn, ‘Be bold, be strong for the Lord your God is with you’ ar y wefan: www.worshipworkshop.org.uk/songs-and-hymns/hymns/be-bold,-be-strong (© Archbishops’ Council 2011-2013) a threfnwch fod gennych chi’r modd i chwarae’r gerddoriaeth ar ddiwedd y gwasanaeth.
Gwasanaeth
- Gofynnwch i'r plant a oes unrhyw un ohonyn nhw'n cael eu gwaith ysgol yn anodd ar hyn o bryd. Dywedwch fod hyn yn naturiol - fe fyddan nhw'n dysgu pethau newydd eleni, ac fe all hynny ymddangos yn anodd ar y dechrau, ond fe fyddan nhw'n dygymod â'r sefyllfa'n fuan. Mae hi'n anodd hefyd ar ôl bod ar wyliau a gorfod dod yn ôl at ddysgu pethau unwaith yn rhagor.
Eglurwch, os ydyn nhw o ddifrif yn pryderu am eu gwaith ysgol y gallan nhw bob amser dderbyn cymorth gan eu hathrawon. Weithiau'r cyfan sydd angen iddyn nhw ei wneud yw dal ati. Gall yr hyn sy'n ymddangos yn amhosib, ddod yn bosib yn y pen draw. - Soniwch am y cyfnod yn eich bywyd pryd y bu raid i chi ddysgu sgil newydd neu pan aethoch i'r coleg neu'r brifysgol i ddysgu am bwnc neilltuol. Er enghraifft, ‘Mae gen i fan hyn rai llyfrau diwinyddol/ addysgol go fawr. Ar y dechrau, roedd y llyfrau hyn yn ymddangos yn rhy anodd ei darllen ac fe feddyliais na fyddwn byth yn eu deall. Ond, fel yr aeth yr amser ymlaen, fe wnes i ei ddeall a dyma fi yn sefyll o'ch blaen chi fel ficer/ athro!’ (Ficer yw awdur y gwasanaeth hwn.)
- Adroddwch stori Josua a Jerico. Ar ôl i Moses farw, fe addawodd Duw i Josua y byddai gydag ef bob amser, ac y byddai’n ei helpu i arwain y bobl, ac fe ddywedodd wrtho am beidio â bod ofn.
Ar eu taith i Wlad yr Addewid, roedd yn rhaid i’r bobl nhw fynd trwy Jerico. Roedd Jerico’n ddinas fawr gyda muriau uchel o'i chwmpas. Fe lithrodd dau ysbïwr o blith pobl Israel yn llechwraidd i mewn i Jerico ac aros gyda dynes o'r enw Rahab, ac fe’i cadwodd hi nhw'n ddiogel rhag milwyr y brenin, a'u helpu i ddianc.
Er mwyn i’r bobl allu goresgyn Jerico, fe wnaeth Duw i Josua wneud rhywbeth oedd yn ymddangos yn od iawn. Fe ddywedodd wrth Josua am gael ei filwyr i orymdeithio o amgylch y ddinas bob diwrnod am chwe diwrnod, yn dawel. Roedd yr offeiriaid i'w dilyn, yn cario Arch y Cyfamod (lle'r oedd y llechau o garreg gyda'r Deg Gorchymyn yn cael eu cadw) a chwythu trwmpedau, ond roedd y milwyr a'r bobl a oedd yn dilyn yr Arch i fod i aros yn ddistaw.
Ar y seithfed dydd, roedden nhw i orymdeithio o amgylch muriau Jerico seithwaith yn yr un modd fel yn y chwe diwrnod blaenorol. Ar yr wythfed diwrnod roedden nhw i orymdeithio o amgylch y muriau. Fodd bynnag, roedden nhw i gyd i fod i wneud cymaint o swn â phosib - ac fe ddisgynnodd y muriau i lawr. Roedd hyn yn od iawn. Sut yn y byd y byddai dim ond swn mawr yn gallu dymchwel muriau mor gryfion? - Dywedwch wrth y plant, os ydyn nhw'n addo bod yn dawel, cyn gynted a byddwch chi'n codi'ch llaw, fe gân nhw'r cyfle i wneud swn mawr - yn union fel wnaethon nhw ym mrwydr Jerico. Dywedwch wrthyn nhw am wneud swn trymped mawr, i weld a fedran nhw ddymchwel muriau'r ysgol!
Yna, codwch eich llaw yn arwydd bod angen i'r plant fod yn dawel unwaith eto. Os nad yw eu hymgais gyntaf yn ddigon swnllyd, gadewch iddyn nhw wneud swn nifer o weithiau, nes bo'r swn yn ddigon uchel. - Wrth gwrs (gobeithio!) ni fydd waliau’r ysgol yn disgyn i lawr, ond stori yw hon sy'n dweud wrthym am ymddiried yn Nuw, hyd yn oed pan fydd pethau'n ymddangos yn anodd neu'n anobeithiol.
Weithiau, gyda phethau sy'n anodd, rhaid i ni wneud ein gorau glas a dal ati. Yn y diwedd, fe fydd yr hyn allwn ni lwyddo i’w ddysgu, neu ei gyflawni yn fwy nag y gallen ni fyth ei ddychmygu ar y dechrau. Mae'r hyn sy'n ymddangos yn amhosib ar y dechrau yn gallu bod yn bosib os gwnawn ni ddal ati.
Amser i feddwl
Anogwch y plant i feddwl am rywbeth y maen nhw’n ei gael yn anodd ei wneud, ac i ofyn yn ddistaw i Dduw eu helpu.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am stori Josua, sy’n ein dysgu ni gymaint y gwnest ti ei helpu.
Hela ni pan fyddwn ninnau’n gweld pethau’n anodd.
Helpa ni i ymddiried y byddwn ni’n llwyddo yn y diwedd.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2014 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.