Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Caredigrwydd

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn

Nodau / Amcanion

Ystyried gwerth ac effaith geiriau a gweithredoedd caredig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Torrwch allan siapiau cymylau mawr llwyd a rhai siapiau barcut lliwgar, a threfnwch fod gennych chi fwrdd magnet neu fwrdd arall i’w harddangos, ynghyd â magnetau neu fodd arall o lynu’r siapiau ar y bwrdd arddangos yn ystod y gwasanaeth.
  • Ysgrifennwch y brawddegau canlynol ar ddarnau o gardiau fydd yn ffitio o fewn amlinelliad pob cwmwl, a modd o lynu’r rhain ar y cymylau yn eu tro:
    -  Rydw i’n teimlo’n gysglyd iawn.
    -  Roedd fy mrawd/chwaer yn gas wrthyf fi heddiw.
    -  Alla i ddim gwneud hyn!
    -  Dydi fy ffrind ddim yn siarad efo fi.
    -  Mae gen i boen yn fy mol.
    -  Fe wnes i anghofio fy mocs bwyd.
    -  Alli di ddim chwarae efo ni.
  • Torrwch ragor o siapiau barcut o bapur gwyn i’w rhoi i bob plentyn wrth iddyn nhw adael y gwasanaeth, fel y gallan nhw lunio eu patrymau eu hunain arnyn nhw, a’u lliwio. Rhowch wybod i’r athrawon eraill eich bod yn bwriadu gwneud hyn, fel y gallan nhw drefnu rhoi amser i’r plant wneud y gwaith lliwio wedi iddyn nhw fynd yn ôl i’r dosbarth. Bydd hyn yn atgyfnerthu neges y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Holwch gwestiynau tebyg i’r canlynol i’r plant: Ble mae’r haul wedi mynd? Ble mae’r awel gynnes? Siaradwch am y tywydd oer a gwlyb sy’n nodweddiadol ar yr adeg hon o’r flwyddyn, am y dyddiau tywyll a gwyntoedd cryfion.

    Eglurwch fod llawer o bobl yn aml yn teimlo’n flinedig, yn drist ac yn ddi-hwyl yn ystod y gaeaf. Dangoswch y cymylau mawr llwyd.

    Ond yna, wrth gwrs, pan ddaw’r eira ... wel, fe fyddwn ni’n cael ychydig o hwyl a sbri am sbel!

  2. Nid dim ond yr adeg o’r flwyddyn a’r tywydd sy’n gallu gwneud i ni deimlo’n isel a di-hwyl. Ambell dro fyddwn ni ddim ond yn teimlo felly am ychydig wrth godi ambell fore. Ddoe, o bosib ein bod wedi bod yn iawn ac yn teimlo’n hapus, ond heddiw efallai ein bod wedi teimlo ychydig yn ddiflas am ryw reswm. Efallai bod rhai plant neu oedolion yn y gwasanaeth heddiw sy’n teimlo ychydig yn ddi-hwyl.

    Mae’n bosib bod sawl rheswm pam ein bod weithiau’n teimlo’n ddiflas neu’n cael sbel o deimlo’n ddi-hwyl neu’n anhapus. Gofynnwch i’r plant feddwl am rai adegau felly.

    Gofynnwch i’r plant hefyd ystyried pob un o’r brawddegau rydych chi wedi eu paratoi. Gosodwch y rhain fesul un ar y siapiau cwmwl, a thrafodwch. Oes rhai o’r plant yn gallu uniaethu gydag unrhyw rai o’r brawddegau hyn? Fe allai’r rhain ddadlennu bod llawer o gymylau llwyd a thrist yn hofran uwch ein pen!

  3. Yna dywedwch, ‘Tybed beth fyddai’n gallu chwythu’r cymylau llwyd i ffwrdd? Allwn ni helpu? Gofynnwch i’r plant oes ganddyn nhw rai awgrymiadau.

    Pan fydd plentyn yn awgrymu gweithred garedig, geiriau caredig neu ddangos empathi, rhowch ganmoliaeth iddo ef neu hi a glynu un o’r barcutiaid lliwgar dros un o’r cymylau llwyd.

    Ail adroddwch hyn gyda phob awgrym da arall a gewch chi gan y plant nes eich bod wedi gosod pob barcut.

  4. Eglurwch i’r plant mai ffordd dda o gofio neges y wers hon yw trwy ddysgu’r rhigwm canlynol:

    Mae’r pethau caredig
    a wnawn ni bob dydd
    yn chwythu’r cymylau llwydion
    i ffwrdd bob yn un.

Amser i feddwl

Dywedwch wrth y plant eu bod i gyd yn mynd i gael papur siâp barcut wrth iddyn nhw adael y gwasanaeth, ac y byddan nhw’n cael cyfle yn ystod y dydd i’w lliwio.

Hefyd, dywedwch wrth y plant yr hoffech chi iddyn nhw, yn ystod y dyddiau sy’n dilyn, gadw golwg am unrhyw rai fydd angen clywed geiriau caredig, neu a fyddai’n ddiolchgar i chi am wneud rhywbeth caredig i’w helpu. Ac fe allen nhw wedyn roi eu barcut i’r unigolyn hwnnw y mae wedi sylwi arno, er mwyn anfon i ffwrdd unrhyw gwmwl llwyd.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti bob amser yn gwybod pan fyddwn ni’n teimlo’n drist ac yn brudd, ac yn gwybod hefyd y rheswm pam y byddwn ni’n teimlo felly.
Helpa ni i fod yn ymwybodol o eraill sy’n teimlo felly.
Helpa ni i fywiogi eu diwrnod trwy wneud neu ddweud rhywbeth caredig.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon