Sut i ddefnyddio'r safle hwn   Amdanom ni   Cyflwyniadau   Adborth   Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Peidiwch a bod ofn gofyn

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1/2

Nodau / Amcanion

Hybu ysbryd o ymholi, ac annog hyder ynghylch gofyn cwestiynau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch ar gyfer chwarae rôl yn y cyflwyniad, yng Ngham 1, gyda chydweithiwr. Hefyd ymgyfarwyddwch â’r stori yng Ngham 2.
  • Ar ddiwrnod y gwasanaeth, gwisgwch ddillad fydd yn cyd-fynd â thei neu sgarff sydd gennych chi, ond peidiwch â gwisgo’r eitem honno.
  • Fe fyddai’n bosib cyflwyno’r weddi sydd i’w gweld yn yr adran ‘Amser i feddwl’ gan nifer o leisiau, os hoffech chi baratoi ar gyfer hynny.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch yn hwyliog trwy ddatgan yn ddramatig iawn eich bod yn falch o gael arwain y gwasanaeth heddiw ac yn falch o gael y cyfle i ddangos eich Tei Dyn Doeth/ Sgarff Merch Ddoeth. Smaliwch eich bod yn gwisgo’r tei/ sgarff a smaliwch ei sythu a’i osod yn daclus am eich gwddf wrth i chi egluro i’r plant beth ddywedodd yr un a werthodd yr eitem hon i chi yn y siop. Fe ddywedodd dynes y siop, ‘Mae hwn yn arbennig iawn. Dim ond pobl ddoeth fydd yn gallu gwerthfawrogi’r tei/ sgarff hwn mewn gwirionedd – fydd pobl annoeth ddim yn gallu ei weld o gwbl.’

    Gwahoddwch y cydweithiwr ‘doeth’ rydych chi wedi ei baratoi i gyd-chwarae’r rôl gyda chi, i ryfeddu at liw’r eitem honedig a theimlo ansawdd hyfryd y deunydd.

    Holwch y plant ydyn nhw’n hoffi eich tei/ sgarff newydd chi. Os bydd y plant yn edrych yn ddryslyd, gallwch ymateb trwy ddweud, ‘Efallai eich bod yn holi eich hunan, ”Pa dei/ sgarff?”’

  2. Eglurwch mai thema’r gwasanaeth yw ‘Peidiwch â bod ofn gofyn’. Soniwch fod pobl (hen ac ifanc) ambell dro ofn gofyn cwestiynau. Maen nhw’n ofni y bydd pobl eraill yn meddwl eu bod yn ddwl neu’n wirion. Darluniwch hyn trwy adrodd y stori ganlynol gan fod yn eithaf dramatig a defnyddio rhywfaint o hiwmor.

    Dillad newydd y Brenin

    Roedd y Brenin wrth ei fodd yn cael dillad newydd. Roedd yn falch o gael dangos ei ddillad crand - ac wrth gwrs, dim ond y dilladau drud a gorau y byddai’n eu gwisgo, bob amser!

    Un diwrnod, fe ddaeth dau ddyn i ymweld â’r Brenin yn ei balas. Roedden nhw’n smalio mai teilwriaid oedden nhw - dynion oedd yn gwneud dillad. Ond twyllwyr oedden nhw, mewn gwirionedd. Doedden nhw ddim yn gallu gwneud dillad. Twyllo’r Brenin oedd eu bwriad. ‘Eich Mawrhydi!’ meddau’r ddau wrth y Brenin, gan ymgrymu’n isel o’i flaen. ‘Rydyn ni  ein dau yn gwneud dillad allan o’r deunydd gorau yn y byd. Mae’n ddefnydd mor ysgafn ac mor arbennig nes ei fod yn ymddangos yn anweledig! Yn ein profiad ni,’ ychwanegodd y ddau ddyn gan drin a thrafod y ‘defnydd’, ‘mae rhai pobl mor ddwl dydyn nhw ddim yn gallu ei weld hyd yn oed!’

    ‘Wrth gwrs! Wrth gwrs! ‘ meddai’r Brenin, a oedd yn cael trafferth i weld y defnydd - ond a oedd ar yr un pryd ddim eisiau cyfaddef ei fod yn methu ei weld, rhag iddo ymddangos yn ddwl. ‘Dyma liwiau hardd! Dyma gyffrous! Fyddwn i’n hoffi siwt wedi ei gwneud o’r defnydd hwn? ‘Wrth gwrs! Wrth gwrs! Dechreuwch ar y gwaith ar unwaith.’ Fe dalodd y brenin swm mawr o arian i’r ddau ddyn, a rhoi ystafell arbennig iddyn nhw yn y palas lle gallen nhw wneud eu gwaith.

    Y diwrnod canlynol, fe anfonodd y Brenin ei Brif Weinidog i weld sut hwyl roedd y ddau ddyn yn ei gael arni wrth weithio ar ei wisg newydd. ‘Mae’r defnydd yn ddefnydd arbennig iawn,’ eglurodd y Brenin i’r Prif Weinidog. ‘Dim ond pobl ddoeth sy’n gallu ei weld.’

    Gwyliodd y Prif Weinidog y ‘teilwriaid’ yn gweithio’n ‘brysur’ gyda’u sisyrnau, eu pinnau a’u nodwyddau. Doedd y Prif Weinidog ddim yn gallu gweld unrhyw fath o ddilledyn, ond ddywedodd o ddim. Doedd arno ddim eisiau ymddangos yn ddwl. Aeth yn ei ôl at y Brenin a dweud wrtho fod ei siwt newydd yn edrych fel ... wel, fel un nad oedd erioed wedi ei gweld ei thebyg o’r blaen!

    Ymhen sbel, cyhoeddwyd bod y wisg newydd yn barod. Helpodd y ddau deiliwr y brenin i wisgo’r siwt. Wedi iddo’i gwisgo, fe wnaethon nhw ei brwsio’n daclus a chanmol mor dda yr oedd yn ei ffitio. Yn wir, roedden nhw’n mynnu bod y wisg mor ysgafn a chyfforddus fyddai’r Brenin ddim yn gwybod ei bod amdano. ‘Yn wir!’ canmolodd y Brenin, gan gytuno â’r ddau, er nad oedd yn gallu gweld y wisg o gwbl. Doedd arno ddim eisiau cyfaddef nad oedd yn gallu ei gweld rhag ymddangos yn ffôl. ‘Fyddwch chi’n gwisgo eich dillad newydd, fory, yn yr orymdaith fawr?’ holodd y teilwriaid. ‘Wrth gwrs!’ atebodd y Brenin.

    Lledaenodd y newyddion am ddillad newydd y Brenin trwy’r wlad. Roedd y bobl yn dweud wrth y naill a’r llall: ‘Dim ond pobl ddoeth a chlyfar fydd yn gallu gweld y wisg arbennig. Os ydych chi’n methu ei gweld, yna rydych chi’n ddwl!’

    Fe ddaeth y diwrnod, ac fe ddaeth yr orymdaith fawr i lawr y stryd ac roedd torf fawr o bobl ar bob ochr i’r stryd yn barod i groesawu’r Brenin. Roedd y bobl yn methu credu fod y Brenin yn gorymdeithio ar hyd y stryd yn ei fest a’i drôns - ond doedd neb am ddweud unrhyw beth. Doedd neb eisiau i bobl eraill feddwl eu bod yn ddwl!

    Yna, fe waeddodd un plentyn bach yn uchel, ‘Pam mae’r Brenin yn ei fest a’i drôns?’ Ac yn fuan roedd yr un cwestiwn yn cael ei ofyn o’r naill i’r llall yn y dyfra, ‘Ie, pam mae’r Brenin yn ei fest a’i drôns?’ Ac roedd pobl eraill yn sibrwd ymysg ei gilydd, ‘Dydi’r Brenin ddim wedi gwisgo amdano heddiw!’

    Pan glywodd y Brenin beth oedd y bobl yn ei ddweud, aeth ei wyneb yn goch, fe sylweddolodd beth oedd y gwir, ond doedd arno ddim eisiau cyfaddef nad oedd yn gwisgo’r wisg o’r defnydd mwyaf arbennig yn y byd. Wedi’r cyfan, doedd arno ddim eisiau ymddangos yn ddwl!

  3. Gwahoddwch y plant i feddwl am y stori. Gofynnwch iddyn nhw, ‘Beth mae’r stori’n ei ddweud wrthym ni ynghylch gofyn cwestiynau?’

    Wrth drafod, fe allech chi ddod i gasgliad ynghylch y canlynol:

    – mae gofyn cwestiynau’n ein gwneud ni’n fwy ymwybodol, ac yn ein helpu i gadw’n ddiogel
    – trwy ofyn cwestiynau rydyn ni’n dod i wybod am bobl eraill, yn dysgu am y byd o’n cwmpas, ac i gael ffydd yn Nuw
    – ddylen ni ddim bod ag ofn gofyn cwestiwn
    – os ydyn ni’n gofyn cwestiwn, nid yw hynny’n golygu ein bod yn araf neu’n ddwl
    – mae pobl ddoeth yn gofyn cwestiynau.

    Sylwch felly, am y rhesymau hyn i gyd, ddylai neb betruso cyn gofyn cwestiwn. Ambell dro, fe all eich cwestiwn chi fod yr union gwestiwn y mae ar bawb arall ofn ei ofyn. Fe allai ysgolion eglwys ystyried y ffaith bod Iesu, fel athro da, wedi annog pobl i ofyn cwestiynau a dod o hyd i atebion.

  4. Atgoffwch y plant ei bod hi’n bosib cael atebion i gwestiynau mewn llyfrau, ar safleoedd priodol ar y Rhyngrwyd, trwy gael sgwrs â ffrindiau a rhieni yn ogystal ag oedolion cyfrifol yn yr ysgol.

    Dewch i gasgliad ar y diwedd trwy nodi bod cwest pob dydd ynghylch dysgu’n ymwneud â gofyn cwestiynau. Holwch y plant, ‘Pwy fydd yn ddigon doeth i ofyn rhai cwestiynau da heddiw?’

Amser i feddwl

Gweddi
Dduw’r Creawdwr,
Diolch i ti am lawenydd darganfod pethau.
Diolch bod gofyn cwestiynau’n hwyl!
Ble . . . ? Beth . . . ? Pam . . . ? Pryd . . . ? Sut . . . ?
Helpa ni i ddysgu a gwna ni’n ddoeth!
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon