Sut i ddefnyddio'r safle hwn   Amdanom ni   Cyflwyniadau   Adborth   Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pa mor uchel?

gan Kirk Hayles

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Cael y plant i feddwl am y rhinwedd penderfyniad, a sut y gall wneud gwahaniaeth mawr.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pren mesur sy’n mesur uchder neu daldra – yn ddelfrydol y math gyda gwaelod iddo sy’n sefyll ar lawr a braich ar y pren mesur sy’n bosib ei chodi a’i gostwng yn ôl y gofyn. Ond, fe allai coes brwsh neu ddwy ffon fetr wedi eu rhoi ben wrth ben gyda thâp wneud y tro, gyda stribed o gerdyn wedi ei lapio am y ffon yn ymestyn allan fel braich sy’n bosib ei chodi a’i gostwng yn ôl  y gofyn, yr un fath. Bydd hynny’n ddigon da, gan nad oes raid mesur yn fanwl gywir. Os oes gennych chi’r teclyn mesur pwrpasol, efallai y byddai’n syniad gwneud y fraich yn fwy gyda thamaid o gerdyn beth bynnag, oherwydd fe fydd y plant yn neidio i geisio cyrraedd y fraich (ac efallai’n debygol o’i tharo wrth neidio). Fe fydd hyn yn arbed rhag difrodi’r offer.
  • Meddyliwch sut y byddwch chi, yng Ngham 2, yn mynd i gael gwirfoddolwyr i ddod atoch chi fesul un a cheisio neidio mor uchel ag gallan nhw er mwyn cyrraedd y fraich fesur ar y teclyn. Efallai yr hoffech chi ddechrau gydag un o’r plant bach a mynd ymlaen wedyn at un neu ddau o’r plant hyn.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant feddwl beth yw ystyr ‘penderfyniad’. Gofynnwch iddyn nhw gynnig eu hawgrymiadau/ eglurhad, gan eu hannog os bydd angen hynny, trwy ofyn ‘Pe bawn i’n dweud fy mod o ddifrif yn benderfynol. Beth yw ystyr hynny?’

    Gofynnwch i’r plant feddwl am achosion pan oedden nhw’n benderfynol o wneud rhywbeth. Beth wnaethon nhw, neu sut gwnaethon nhw ymddwyn er mwyn gallu cyflawni beth bynnag oedden nhw eisiau ei wneud?

  2. Gofynnwch am wirfoddolwr sy’n gallu bod yn benderfynol, ac sy’n dda am neidio, i ddod atoch chi i ddangos beth mae’n gallu ei wneud.

    Eglurwch i’r plentyn eich bod yn awyddus iddo ef neu hi neidio’n uchel yn ei unfan wrth y mesurydd gan geisio cyffwrdd, gyda thop ei ben, y stribed cerdyn ar y ddyfais honno. Gosodwch y cerdyn ar bwynt digon hawdd ei gyrraedd i ddechrau.

    Canmolwch ymdrech y plentyn, ac yna gosodwch y bar ychydig yn uwch, gan ddweud bod y bar ychydig yn rhy isel y tro cyntaf a’ch bod chi’n sicr y byddai ef neu hi’n gallu neidio’n uwch eto. Gosodwch y bar ar uchder sy’n rhoi ychydig mwy o her i’r plentyn na’r naid ddiwethaf, ond yn parhau i fod o fewn ei allu.

    Anogwch y gynulleidfa i gymeradwyo’r plentyn bob tro mae’n llwyddiannus. Ar ôl sawl tro ( ddim cymaint fel, bod y plentyn yn blino, ychwaith) gwnewch sioe fawr o godi’r bar eto, ond cadwch hwn o fewn gallu’r plentyn i’w gyrraedd. Bob tro, codwch hwn i lefel rydych chi’n meddwl sy’n lefel heriol – un y bydd y plentyn yn methu ei gyrraedd efallai ar y cynnig cyntaf, ond os yw’n gwneud codwch hwn eto.

    Pan fydd y plentyn wedi methu am y tro cyntaf, anogwch ef neu hi trwy ddweud, ‘Os wyt ti wir yn benderfynol, rydw i’n meddwl/ yn gwybod y byddi di’n gallu cyrraedd y bar.’ Gofynnwch i’r plentyn a yw’n teimlo’n benderfynol, a defnyddiwch ddigon o eiriau fyddai’n ei ysgogi er mwyn cael y plentyn i fod yn awyddus i fynd amdani. Fel arfer, fe fydd y plentyn yn llwyddo, yn swn cymeradwyaeth a chyffro, gobeithio. Y naill ffordd neu’r llall, rhowch ganmoliaeth i’r plentyn am fod â chymaint o benderfyniad.

    Ail adroddwch yr ymarfer gydag un neu ddau arall sy’n gwirfoddoli. Fe allech chi hefyd nodi nad oes gwahaniaeth pa mor dal ydych chi, mae penderfyniad yn cyfrif llawer, yn ogystal â pha mor sbringar a chryf yw eich coesau!

  3. Efallai yr hoffech chi rannu gyda’r plant rywbeth yr ydych chi’n bersonol yn benderfynol o’i gyflawni, gan bwysleisio bod penderfyniad ac agwedd o ddyfalbarhad, a dim eisiau rhoi’r gorau iddi’n hawdd, yn ddefnyddiol mewn pob math o sefyllfaoedd.

  4. Adroddwch y stori ganlynol i’r plant.

    Mae gan Wanda ddau fab: Dalano, sydd bron yn 15 oed, ac Anoki, sy’n 13 oed.

    Pan oedden nhw’n fach, doedd gan Wanda ddim amser i fynd i’r gym i gadw’n heini. Fel yn achos sawl mam brysur gyda phlant ifanc, roedd amser yn beth prin iawn. Felly, yn lle hynny, fe fyddai Wanda’n rhoi’r ddau fachgen bach yn y bygi ac yn mynd â nhw allan gyda hi. A chan fod yr amser yn brin, fe fyddai hi’n rhedeg i bob man. Allwch chi ddychmygu hynny, mam ifanc gyda dau fachgen bach yn rhedeg ar hyd y stryd yn gwthio bygi o’i blaen?

    Wel, wrth i fechgyn Wanda dyfu, fe ddechreuodd hi hyfforddi o ddifri. Fe ddechreuodd ymddiddori cymaint yn y ffordd y mae’r corff yn gweithio, a dysgu sut mae rhedeg pellteroedd hir heb achosi niwed i’r corff, fe benderfynodd astudio am radd mewn ffitrwydd a hyfforddiant personol.

    Yna, fe gofrestrodd ar gyfer y Marathon des Sables - ras 150-milltir, ar droed, ar draws anialwch y Sahara - ac fe orffennodd y ras mewn amser da.

    Nid rhedeg oedd yr unig chwaraeon yr oedd Wanda yn eu mwynhau. Roedd hefyd yn hoffi paragleidio. Paragleidio yw hedfan gan ddefnyddio dim ond barcut mawr i’ch codi chi i’r awyr. Roedd hi wrth ei bodd gyda’r teimlad o fod yn rhydd. Hefyd, yn wahanol i hedfan mewn awyren, pan fyddwch chi’n paragleidio, yr unig swn y byddwch chi’n ei glywed yw swn y gwynt. Mae’n weithgaredd heddychol iawn.

    Yna, fe ddigwyddodd rhywbeth ofnadwy. Un diwrnod cyn y Nadolig yn 2008, cafodd Wanda ddamwain wrth baragleidio a chwympo o’r awyr, ac fe dorrodd asgwrn ei chefn. Dyma fel y disgrifiodd hi beth oedd ddigwyddodd.

    The paraglider stalled and I fell 30 feet to the ground, landing on my coccyx and causing my vertebrae to burst. Surgeons told me the risk of paralysis was high as my spine would crumble if I tried to walk. They said I had a one in a million chance of walking.’

    Un siawns mewn miliwn oedd ganddi, felly, y byddai’n gallu cerdded eto. Dywedwyd wrthi mai ei hunig obaith oedd pe byddai’n dewis cael llawdriniaeth fawr, gymhleth, a oedd yn gofyn rhoi pinnau metel i ddal ei hasgwrn cefn i fyny. Ond roedd hon yn llawdriniaeth oedd â risg enfawr iddi a allai adael Wanda wedi ei pharlysu. Os byddai’n gweithio, efallai y byddai’n gallu codi ar ei thraed eto, ond fyddai hi byth yn gallu rhedeg fel roedd hi’n gwneud cyn y ddamwain.

    Dyna beth oedd penderfyniad anodd yr oedd angen iddi ei wneud!

    Penderfynodd Wanda beidio â chymryd y llawdriniaeth. Yn hytrach fe benderfynodd dreulio 12 wythnos yn gorwedd yn llonydd ar ei chefn, er mwyn gweld a fyddai’r esgyrn a oedd wedi torri’n gwella ohonyn nhw’u hunain.

    Roedd y niwed i’w hasgwrn cefn mor ddifrifol roedd ar bobl ofn mynd yn agos ati. Roedd hi o fewn milimedrau’n unig i fod wedi ei pharlysu.

    Roedd Wanda’n gallu dweud wrth weld wynebau pob doctor ac arbenigwr a edrychai ar luniau pelydr-x, nad oedd dim gobaith iddi. Gyda phob symudiad bach roedd hi’n rhoi ei dyfodol mewn perygl.

    Roedd cefnogaeth ei dau fab yn cynnal Wanda.

    It was their faces. When they asked me if I would ever walk again I never told them, “No”, I just said, “Of course I will”. I didn't want to let my accident hold them back.’

    Doedd ar Wanda ddim eisiau i’w bechgyn golli gobaith. Felly fe ddechreuodd wneud rhai ymarferiadau - er ei bod yn gorfod cadw ei chefn yn hollol lonydd.

    Pan oedd hi yn yr ysbyty, roedd y doctoriaid wedi dweud wrth am beidio symud ei choesau, ond fe wisgodd hi pedometer a dechrau symud ychydig ar ei choesau pan oedd y llenni ar gau o gwmpas ei gwely. ‘I got dumb-bells smuggled in, too,’ meddai, ac roedd hi’n defnyddio’r rheini bob dydd. ‘There was a delay when I tried to move my legs. It felt strange.

    I blew into balloons every day to stop fluid on the lungs and got a stepper put on the end of my bed so I could build up my leg muscles.

    After 11 weeks, I sat up, and my spine didn't crumble. So, after 12 weeks, I began taking steps. I'd do 10 one day and then make myself do 20 the next. It was agony.’

    A dyna beth ddigwyddodd i Wanda. Yn groes i bopeth oedd yr arbenigwyr yn ei gredu, fe ddechreuodd hi gerdded. Roedd hi’n broses araf a phoenus iawn, ond fe orfododd Wanda ei hun i wneud hynny a dal ati.

    Cyn ei damwain roedd Wanda wedi cofrestru ei hun am ultra-marathon arall - ras droed 250-km ar draws anialwch Gobi yn Tsieina, lle mae’r tymheredd yn gallu bod mor uchel â 46°C, ac mae’r cystadleuwyr yn galw’r lle ‘The oven’.

    Gyda’i hasgwrn cefn yn dipiau, doedd ganddi ddim gobaith cystadlu, ond fe wnaeth Wanda addewid iddi hi ei hun, doedd hi ddim am ganslo ei rhan yn y gystadleuaeth, dim ond gohirio pethau am flwyddyn. Dyma hi eto’n dweud ei hanes:

    I never stopped thinking I would walk again. I kept setting myself challenges. I kept my body moving using the bed, which could bend, and, eventually, at 11 weeks, I sat up. My spine didn't crumble. I lay back down for a week.

    At 12 weeks I shuffled into a wheelchair and I went out. It was sunny and just amazing; the colours and the warmth. On the way back I stood up and took three steps
    .’

    Y flwyddyn ganlynol, fe wnaeth Wanda i’w breuddwyd ddod yn wir: roedd hi’n cystadlu yn ymdaith y Gobi. Fe lwyddodd i redeg 66 milltir ar ddiwrnod cyntaf y ras, gan gysgu mewn pabell ac yn cario ei holl fwyd a’i hoffer tra roedd yn rhedeg. Allan o 150 o gystadleuwyr, fe ddaeth Wanda i ben ei ras yn rhif 59 - ac yn gyntaf yn ei grwp oedran hi. Dyna gamp i rywun y dywedwyd wrthi na fyddai byth eto’n gallu cerdded.

  5. Ewch dros brif bwyntiau’r stori eto, gan bwysleisio pa mor benderfynol oedd Wanda. Meddyliwch am hyn yng nghyd-destun ein bywydau ninnau o ddydd i ddydd. Pa mor aml y byddwn ni eisiau rhoi’r gorau iddi pan fyddwn ni’n dysgu rhywbeth newydd ac yn cael trafferth, neu’n rhoi’r gorau i wrando pan fydd pethau’n dechrau mynd yn gymhleth?

Amser i feddwl

Gweddi
Annwyl Dduw,
Pan fydda i’n cael rhywbeth yn anodd, helpa fi i ymestyn i mewn i mi fy hun a bod yn fwy penderfynol.
Pan fydda i’n methu gwneud rhywbeth, helpa fi i feddwl na allaf wneud hynny ar hyn o bryd efallai, yn hytrach na meddwl na allaf byth ei wneud.
Helpa fi i sylweddoli y bydd bod yn benderfynol yn fy helpu i, trwy gydol fy mywyd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon