Yr unigryw fi
gan Alison Thurlow
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Archwilio’r safbwynt Cristnogol bod Duw’n ystyried pob un ohonom yn unigryw ac yn arbennig.
Paratoad a Deunyddiau
- Ymgyfarwyddwch â stori Porthi’r Pum Mil (Luc 9.10–17).
- Dewiswch fersiwn o’r stori uchod a fyddai’n un dda i’w darllen yn uchel, a’i hadrodd mewn ffordd ryngweithiol (gwelwch Cam 5), gan gynnwys symudiadau.
- Ymgyfarwyddwch â geiriau cân John Hardwick, ‘Nobody’s a nobody’, ac ewch dros y symudiadau.
Gwasanaeth
- Cyflwynwch y gwasanaeth trwy egluro eich bod yn mynd i feddwl am yr hyn sy’n ein gwneud ni’n unigryw, a pham y gallai bod yn unigryw fod yn rhywbeth pwysig.
- Gofynnwch i’r plant droi at yr un sy’n eistedd agosaf ato, ac yna mewn parau, gofynnwch iddyn nhw sôn yn dawel wrth y naill a’r llall am rywbeth y maen nhw wedi ei wneud yn ddiweddar y maen nhw’n falch ohono. Gofynnwch i rai o’r plant rannu eu hatebion gyda’r gynulleidfa gyfan wedyn.
- Nawr, gofynnwch iddyn nhw ddweud ambell beth arall amdanyn nhw eu hunain wedyn wrth y naill a’r llall - rhywbeth sy’n gwbl unigryw iddyn nhw. Ac yna, gwrandewch ar rai o’r atebion hyn hefyd gyda’ch gilydd fel cynulleidfa.
- Dewch i’r casgliad fod pob un ohonom yn unigryw, ac fe fyddai Cristnogion yn dweud bod gan Dduw gynllun ar ein cyfer ni i gyd. Ewch ymlaen trwy ddweud fod eich cynulleidfa’n mynd i gael clywed stori o’r Beibl yn awr, am rywbeth unigryw a wnaeth un bachgen bach un tro.
- Adroddwch stori bwydo’r pum mil o bobl, gan wneud hynny mewn ffordd ryngweithiol sy’n gofyn i’r plant ymuno i wneud rhai o’r symudiadau (fel yr enghreifftiau sydd wedi eu crybwyll yn yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’ uchod).
- Dangoswch nad oedd y bachgen bach, pan aeth o’i gartref yn y bore hwnnw, wedi meddwl y byddai ei becyn bwyd ef yn cael ei ddefnyddio i fwydo pum mil o bobl, ond bod Iesu wedi gwneud i hynny ddigwydd! Yn yr un modd, fyddwn ni byth yn gwybod beth sydd o’n blaen ninnau yn ystod unrhyw ddiwrnod, ac efallai bod rhai pethau mai dim ond y ni fydd yn gallu eu gwneud.
Amser i feddwl
Gofynnwch i’r plant eistedd yn dawel a meddwl am y ddau beth canlynol:
- cofiwch ei bod hi’n dda bod yn chi - rydych chi’n gyfan gwbl unigryw, ac mae rhai pethau dim ond y chi all eu gwneud
- allwch chi gadw eich llygaid a’ch clustiau ar agor yn ystod yr wythnos sydd i ddod, er mwyn gweld a oes rhywbeth defnyddiol y gallwch chi ei wneud a fydd o help i rywun arall, a hwnnw’n rhywbeth hefyd mai dim ond chi fydd yn gallu ei wneud?
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti fy mod i’n unigryw.
Helpa fi i fod yn hapus ynghylch pwy ydw i.
Helpa fi i ddefnyddio fy noniau unigryw i helpu eraill.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2014 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.