Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwir gyfeillion

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Annog y plant i feddwl am ba nodweddion sy’n gwneud rhywun yn ffrind da.

Paratoad a Deunyddiau

  • Nodwch fod y stori yng Ngham 4 wedi ei haddasu o’r stori ‘The Tortoise and the Fox’, o’r llyfrThe Lion Storyteller Book of Animal Talesgan Bob Hartman, Lion Hudson 2011).
  • Fe allech chi gasglu lluniau o lwynog, crwban a llewpard a threfnwch fodd o’u dangos yn ystod y stori yng Ngham 4 y gwasanaeth, ond dewisol yw hyn.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch eich bod, yn y gwasanaeth hwn, yn  mynd i feddwl am beth sy’n gwneud rhywun yn ffrind da. Yn gyntaf, rydych chi’n mynd i ddechrau â chwis bach.

    Eglurwch y byddwch chi’n mynd i ddeud rhai pethau a allai fod yn wir am ffrind da, ac fe hoffech chi i’r plant adael i chi wybod a ydyn nhw’n cytuno â chi ai peidio trwy bleidleisio gyda’u bodiau. Os ydyn nhw’n cytuno, fe ddylen nhw roi bawd i fyny i chi.

    Rhowch gyfle iddyn nhw ymarfer hyn.

    Os ydyn nhw’n anghytuno, fe ddylen nhw roi arwydd bawd i lawr i chi.

    Ymarfer hyn wedyn.

    Os nad ydyn nhw’n sicr, fe ddylen nhw ddal eu bawd allan yn llorweddol.

    Ymarfer hyn eto.

  2. Ewch ymlaen â’r cwis fel a ganlyn. Os yw rhywun yn ffrind da, fe ddylai fod:

    yn garedig
    pleidleisio
    yn gryf
    pleidleisio
    yn hael
    pleidleisio
    yn dda am wrando
    pleidleisio
    yn dda am chwarae pêl-droed
    pleidleisio
    yn rhywun sy’n rhoi ail gyfle i chi
    pleidleisio.

  3. Diolchwch i’r plant am gymryd rhan yn eich cwis a dangoswch eu bod i gyd fwy neu lai’n tueddu i gytuno bod rhai pethau sy’n bwysig iawn er mwyn bod yn ffrind da, a bod rhai pethau eraill sydd ddim mor bwysig.

  4. Dywedwch wrth y plant eu bod yn awr yn mynd i glywed stori am ddau ffrind da iawn. Chwedl yw’r stori hon – hynny yw, stori fer, sy’n aml ag anifeiliaid yn gymeriadau ynddi, fel yn yr achos hwn – ac mae’r stori hon yn dod o’r India.

    Llwynog, Crwban a Llewpard

    Roedd yn beth anghyffredin iawn i Llwynog a Crwban fod yn ffrindiau am eu bod mor wahanol i’w gilydd: roedd Llwynog yn glyfar ac yn chwim, ond roedd Crwban yn drwm ac yn araf. Er hynny, roedden nhw’n mwynhau bod yng nghwmni ei gilydd. Roedden nhw’n cael llawer o hwyl a chwerthin, a doedd y gwahaniaeth rhyngddyn nhw ddim yn bwysig, yn ôl pob golwg.

    Un min nos, pan oedd y ddau’n eistedd ar lan yr afon yn sgwrsio’n braf, fe neidiodd Llewpard golygus a pheryglus allan o’r llwyni. Gwelodd Llwynog ef yn syth a neidio o’r ffordd rhag crafangau miniog Llewpard. Ond roedd Crwban druan yn rhy araf i allu dianc o’i ffordd, felly wnaeth o ddim byd ond tynnu ei ben i mewn i’w gragen grom a gobeithio’r gorau.

    Roedd eisiau bwyd ar Llewpard, felly fe afaelodd yn Crwban â’i bawennau a cheisio crafu’r gragen galed. Y tu mewn i’r gragen, roedd Crwban yn crynu’n ofnus, a thu allan, yn cuddio y tu ôl i goeden, roedd Llwynog yn crynu’n ofnus hefyd!

    Yna, fe ddechreuodd Llewpard gnoi cragen Crwban, nes clywodd o Llwynog yn galw arno:

    ‘Aros, Llewpard! Rwyt ti’n mynd ati yn y ffordd hollol anghywir! Rydw i’n arbenigwr ar wneud pethau fel hyn! Nid dyna’r ffordd i fwyta Crwban!’

    ‘O, na!’ meddyliodd Crwban. ‘Dydi fy ffrind i erioed yn mynd i ddweud wrth Llewpard sut i fy mwyta i?’

    ‘Cyn i ti allu bwyta Crwban, mae angen i ti feddalu ei gragen’, dywedodd Llwynog. ‘Felly, tafla Crwban i’r afon ac fe fydd y dwr yn meddalu ei gragen.’

    Er bod Llewpard yn olygus ac yn beryglus, doedd o ddim yn glyfar iawn. Felly, fe wnaeth yn union fel roedd Llwynog wedi dweud wrtho, ac fe daflodd Crwban i mewn i’r afon. Cyn gynted ag y disgynnodd Crwban i waelod yr afon, fe ymestynnodd ei goesau ac fe wthiodd ei ben allan o’i gragen a dianc yn bwyllog ar hyd gwely’r afon.

    Pa mor hir bydd rhaid i mi aros?’ gofynnodd Llewpard i Llwynog, wrth iddo sylwi bod yr haul yn dechrau machlud.

    ‘Nes bydd hi wedi tywyllu’, atebodd Llwynog. ‘A gorau po dywyllaf fydd hi!’

    Felly, fe arhosodd Llewpard tan hanner nos gan deimlo’n fwyfwy newynog fel roedd yr amser yn mynd yn ei flaen, ac yn fwyfwy dig hefyd. Fe ddihangodd Llwynog yn y tywyllwch, ac yn y pen draw fe sylweddolodd Llewpard fod Llwynog wedi chwarae tric arno, ac na fyddai’n cael Crwban i swper y noson honno wedi’r cyfan.

    Ond wedyn, roedd gan Llwynog a Crwban un peth arall i sgwrsio amdano ac i gael hwyl fawr yn ei gylch gyda’i gilydd wrth gofio sut y gwnaeth Llwynog chwarae tric ar Llewpard, ac achub bywyd Crwban yr un pryd!

Amser i feddwl

Atgoffwch y plant fod y Llwynog, yn y stori hon, yn garedig iawn tuag at ei ffrind y Crwban, ac yn ofalus iawn ohono. Fe fu’n help mawr i Crwban pan oedd mewn tipyn bach o helynt. Mae’r agwedd hon o fod yn ofalgar tuag at bobl eraill, yn enwedig tuag at bobl sy’n llai ffodus na ni, yr un fath â’r hyn welwn ni yn hanes Iesu. Mae i’w weld yn y ffordd y mae Iesu’n trin pobl eraill mewn cymaint o’r storïau amdano yn y Beibl. Un cyngor a welwn yn y Beibl yw hwn:

Byddwch yn dirion wrth eich gilydd; yn dyner eich calon, yn maddau i’ch gilydd fel y maddeuodd Duw yng Nghrist i chwi.
(Effesiaid 4.32)

Mae hwn yn dal i ymddangos yn gyngor da hyd heddiw. Gofynnwch i’r plant i gyd wneud ymdrech ychwanegol yr wythnos hon i fod yn garedig a gofalgar iawn, fel bydd pawb yn yr ysgol yn gwybod sut beth yw cael ffrind gwirioneddol dda.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Iesu,
Diolch dy fod ti’n garedig ac yn ofalgar tuag at yr holl bobl roeddet ti’n cwrdd â nhw.
Helpa fi i fod yn garedig ac yn ofalgar, hefyd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon