Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y mab colledig (Rhan 1)

Ail adrodd dameg enwog

gan Laurence Chilcott

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried sut y byddwn ni, ambell dro, ddim yn gwneud y penderfyniadau gorau, ond mae ffordd yn ôl bob amser – diolch i ras a maddeuant Duw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’n well cynnal y gwasanaeth hwn a’r gwasanaeth ‘Y Mab Colledig (Rhan 2)’ ar ddau ddiwrnod dilynol, neu’r naill wythnos ar ôl y llall.
  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a dau blentyn, naill ai i ddarllen neu i actio rhannau’r tad a’r mab yn y stori. Byddai’n dda ymarfer y rhannau hyn o flaen llaw.

Gwasanaeth

Arweinydd Roedd Iesu’n un da am adrodd storïau, ac mae llawer ohonyn nhw wedi eu cofnodi yn y Testament Newydd. Roedd ei storïau, yn aml, ynghylch digwyddiadau bob dydd y gallai pobl eu deall, ond roedd pwrpas penodol i’r storïau – roedden nhw’n cael eu hadrodd er mwyn helpu’r bobl i ddeall mwy am Dduw. Fel arfer, fe fyddai’r storïau (neu’r ‘damhegion’, fel maen nhw’n cael eu galw) yn ddigon hawdd eu deall, ond ambell dro fe fyddai angen i Iesu eu hegluro. Gadewch i mi adrodd i chi heddiw un o ddamhegion mwyaf enwog Iesu.

Y Mab Colledig

Arweinydd  Roedd gan dad ddau fab, ac roedd yn caru’r ddau fab yn fawr iawn. Ffermwr oedd y tad - ffermwr llwyddiannus iawn, gyda llawer o gaeau a oedd yn cynhyrchu grawn a ffrwythau, ac roedd ganddo lawer o anifeiliaid oedd yn rhoi gwlân a llefrith a chig iddo. Roedd y ddau fab wedi bod yn helpu eu tad ac yn gweithio ar y fferm ers yr adeg roedden nhw’n fechgyn bach, a nawr roedden nhw’n ddynion ifanc - dynion cryf a oedd yn gallu gweithio’n galed o fore tan nos. Ryw ddiwrnod, fe fydden nhw, rhyngddyn nhw, yn berchen ar eu fferm hon eu hunain. Ond ddim am sbel, tra roedd eu tad yn dal yn fyw. Fe fyddai hynny rywbryd yn y dyfodol, ymhen blynyddoedd eto.

Ond roedd hynny’n broblem i’r mab ieuengaf - roedd ef yn dechrau diflasu ar fywyd y fferm, yn gwneud yr un gwaith ddydd ar ôl dydd. Roedd arno ef eisiau bod yn annibynnol. Roedd arno eisiau mynd i weld y byd a chael gwneud yr hyn a fynnai. Fe feddyliodd am hyn am beth amser, yna fe fu’n ddigon dewr i ofyn rhywbeth i’w dad. Roedd yn gwybod y byddai’r cais yn gwneud ei dad yn ddig ac yn siomedig, efallai, ond nawr oedd yr amser i wneud hyn os oedd am gael ei ddymuniad.

Darllenydd 1  Dad, rydych chi’n gwybod fy mod i wedi gweithio’n galed ar y fferm hon ers blynyddoedd, ac rydw i’n gwybod y byddaf i, ryw ddiwrnod, yn etifeddu fy siâr i o’r cyfan. Fe fydda i ryw ddiwrnod yn berchen ar hanner eich eiddo. Fyddai’n bosib i mi gael fy siâr i o’r eiddo nawr, os gwelwch yn dda, yn hytrach nag ar ôl i chi farw?

Arweinydd  Fe eglurodd ei dad y byddai’n beth doethach iddo aros nes byddai pethau’n digwydd yn eu trefn, a cheisiodd ei berswadio i newid ei feddwl, ond doedd dim yn tycio. Er hynny, doedd arno ddim eisiau gorfodi ei fab i aros mewn lle yr oedd yn anhapus ynddo. Felly, ar ôl trafod am hir, er mawr syndod i’r mab ieuengaf, fe gytunodd ei dad iddo gael ei ran o’r eiddo, ac fe ddywedodd wrth ei fab:

Darllenydd 2  Wel, os mai dyna beth wyt ti’n ei deimlo, wna i ddim gwrthod. Fe gei di dy ran di o’r arian a thir y fferm a phopeth sydd i’w gael yn awr.

Arweinydd  O fewn ychydig fisoedd, roedd y tad wedi trefnu i hanner y fferm fod yn eiddo i’w fab ieuengaf, ac roedd yntau wedyn yn gallu gwerthu’r tir am arian. Dydyn ni ddim yn siwr sut roedd y tad yn teimlo wrth weld hyn yn digwydd, ond roedd yn rhy hwyr bellach. Cyn gynted ag yr oedd rhan y mab ieuengaf o’r tir wedi ei werthu, fe aeth i ffwrdd o’r cartref i’r ddinas gyda llawer o arian yn ei boced a llawer mwy hefyd yn y banc.

Roedd wrth ei fodd yn y ddinas - roedd bywyd yno’n llawer mwy cyffrous a difyr na bywyd ar y fferm. Fe ddaeth o hyd i dy hyfryd i fyw ynddo yng nghanol y ddinas lle gallai fyw ynddo a thalu rhent amdano. Yno, yng nghanol y dref yr oedd yr holl weithgarwch, ac fe ymunodd yn yr hwyl a’r miri gan wneud yn fawr o’i ryddid. Doedd dim rhaid iddo godi’n fore i weithio’n galed ar y fferm fel o’r blaen, ac oherwydd hynny doedd dim rhaid iddo fynd i’w wely’n gynnar er mwyn gallu codi’n fore ychwaith. Felly, roedd yn gallu mynd i bob parti oedd yn cael ei gynnal heb orfod pryderu faint o’r gloch yr oedd yn mynd i’w wely. Hoffai gynnal partïon yn ei gartref newydd ei hun ac roedd ei bartïon yn boblogaidd iawn. Roedd yn darparu cymaint o fwyd a diod i bawb roedd pobl o bell ac agos eisiau mynd i’w bartïon. Roedd ar bawb eisiau bod yn ffrindiau ag ef, ac ef oedd y dyn ifanc mwyaf poblogaidd yn y ddinas ar y pryd. Ac yntau wedi cael ei fagu yng nghefn gwlad, ac yn adnabod dim ond ei gymdogion yn lleol, doedd y mab ddim yn sylweddoli bod y ‘ffrindiau’ newydd hyn yn cymryd mantais arno. Ef fyddai bob amser yn talu am bopeth os bydden nhw’n cael parti, ef fyddai’n talu am y bwyd ac ef fyddai’n talu am y diodydd. Ond, oherwydd bod ganddo ddigon o arian doedd hynny ddim yn poeni llawer arno. Roedd mor hapus yng nghwmni ei ‘ffrindiau newydd’ ac yr oedd yn cael amser wrth ei fodd.

Ond, yn anffodus, wnaeth yr amser da ddim parhau, wnaeth yr arian yn y banc ddim parhau, ac fe ddaeth yr amser da i ben. Fe fu’n rhaid iddo symud i fyw i dy llai am ei fod yn methu fforddio i dalu’r rhent ar y ty mawr crand yn y ddinas. Doedd ei ffrindiau ddim yn mynd i’w weld yno, a doedd dim digon o le i gynnal parti yno, beth bynnag. Doedd ganddo ddim arian ar ôl, felly fe benderfynodd y byddai’n rhaid iddo fynd i chwilio am waith er mwyn gallu cael arian i brynu bwyd iddo’i hun. Doedd dod o hyd i waith ddim yn hawdd gan nad oedd llawer o waith i’w gael - doedd amgylchiadau ddim yn dda iawn yn y ddinas ar y pryd. Roedd dirwasgiad economaidd yn y wlad, a beth bynnag doedd o ddim wedi arfer gweithio mewn siop na swyddfa hyd yn oed pe byddai gwaith i’w gael. Dim ond ar fferm yr oedd wedi arfer gweithio. Fe fu’n rhaid iddo symud allan o’r ddinas, a’r unig waith y gallai ddod o hyd iddo yn y wlad y tu allan i’r ddinas oedd gweithio i ffermwr oedd yn magu moch.

Ar fferm ei dad, doedden nhw ddim yn cadw moch - Iddewon oedden nhw - ac mae Iddewon yn meddwl nad yw moch yn anifeiliaid glân iawn, ac nad yw’n addas bwyta eu cig. Wel, dyna beth oedd iselhau ei hun! Iddew fel ef yn gofalu am y moch! Ar ben hynny, roedd bwyd yn brin yn y wlad. Roedd y tywydd wedi bod yn wael, y ffermwyr wedi methu cynaeafu’r cnydau a phrinder bwyd trwy’r wlad. Ambell ddiwrnod roedd yn teimlo mor newynog, roedd hyd yn oed y bwyd yr oedd yn ei fwydo i’r moch yn edrych yn flasus. Ar ddiwrnod felly, pan welodd y mab un o’r moch yn bwyta canol afal, y sylweddolodd pa mor fawr oedd y camgymeriad yr oedd wedi ei wneud.

Darllenydd 1  O! Rydw i wedi bod yn ffwl! Mae gan fy nhad i weision a gweithwyr ar y fferm sy’n byw’n well na hyn. Mae ganddyn nhw gartref clyd i fyw ynddo, a bwyd da i’w fwyta, a dyma fi yn gofalu am y moch! Be wna i? Does dim posib i mi ofyn i fy nhad fy nerbyn i yn ôl i’w gartref fel ei fab, ond efallai y bydd yn teimlo’n drugarog wrthyf fi ac y gwnaiff fy nerbyn i’n ôl i weithio iddo fel gwas - fe fyddai unrhyw beth yn well na hyn!

Arweinydd  Felly, fe benderfynodd ar y foment honno y byddai’n mynd yn ôl at ei dad. Fe gasglodd yr ychydig bethau oedd ganddo yn eiddo iddo, ac fe gychwynnodd ar ei daith yn ôl tuag adref. Roedd ei feddwl ar chwâl wrth iddo feddwl pa mor wirion yr oedd wedi bod, ac roedd yn methu meddwl pa fath o groeso a gai wedi iddo gyrraedd adref, yn enwedig o gofio’r hyn roedd wedi ei wneud. Drosodd a throsodd yn ei feddwl, fe fu’n ymarfer y geiriau y byddai’n eu dweud wrth ei dad. Roedd arno ofn y byddai ei dad yn ddig iawn wrtho ac yn gwrthod gadael iddo ddod yn ei ôl i fyw gartref - a phwy fyddai’n gweld bai arno os mai felly y byddai ei dad yn teimlo? 
Roedd hi’n gynnar gyda’r nos, ac roedd ei dad yn sefyll ar ochr y bryn yn edrych draw tua’r ffordd. Roedd wedi gwneud hynny bob gyda’r nos ers i’w fab adael y cartref. Fel bob tro, roedd yn meddwl am ei fab a oedd wedi mynd oddi yno dair blynedd ynghynt. Ond y noson hon, am ryw reswm, roedd yn cofio’n fyw iawn am y darlun o’i fab yn gadael y cartref yn eofn i wynebu’r byd. Roedd tristwch yn llygaid y tad y diwrnod hwnnw, ac ofn yn ei galon, na fyddai byth yn gweld y mab hwnnw eto.

Wrth iddo sefyll yno ar ochr y bryn y noson hon, fe welodd rywun yn cerdded yn y pellter. Roedd rhywun yn dod tuag at y fferm. Rhywun unig oedd yno, yn cerdded ag osgo trist iawn gyda’i ben yn isel a’i freichiau’n llipa. Roedd y dieithryn yn dal i fod yn eithaf pell, ond fel yr oedd yn nesu roedd ei dad yn gallu gweld mai ei fab oedd yno. Fe wnaeth ei adnabod o bell.

Doedd y tad ddim yn gallu aros i’w fab gyrraedd y fferm, felly fe redodd i’w gyfarfod, taflu ei freichiau amdano, a’i gofleidio’n gynnes iawn. Dim un gair o ddwrdio. Dim, ‘Ddywedais i wrthyt ti am beidio mynd!’ Na, yn lle hynny, fe alwodd am set o ddillad newydd i’w gwisgo amdano, pâr o esgidiau newydd i’w rhoi am ei draed, ac fe drefnodd wledd i ddathlu bod y mab wedi dod adre’n ôl yn ddiogel. Fe ddywedodd wrth ei weision :

Darllenydd 2  Mae hyn fel petai fy mab wedi marw ac wedi dod yn ôl yn fyw eto, wedi bod ar goll ac wedi dod i’r golwg eto!

Arweinydd  Doedd y tad ddim wedi peidio â charu ei fab o gwbl. Roedd wedi bod yn drist pan aeth i ffwrdd, ac mae’n debyg ei fod yn gwybod na fyddai pethau wedi bod yn dda yn achos y mab, ond roedd yn llawen iawn, iawn, pan ddaeth ei fab yn ôl gan ofyn iddo faddau iddo am fod mor ffôl. Doedd y mab ddim yn haeddu cael y fath groeso a charedigrwydd, ond roedd ei dad yn ei garu gymaint roedd yn barod i faddau iddo’n llwyr ac yn barod i roi cyfle iddo ddechrau o’r newydd eto.

Fe adroddodd Iesu’r stori hon i ddangos faint mae Duw’n ein caru ni. Yn union fel y mab yn y stori, rydyn ninnau’n aml eisiau ein ffordd ein hunain a ddim yn meddwl am y canlyniadau. Fe fyddwn ni’n gwneud camgymeriadau gwirion ac yn edifarhau wedyn ein bod wedi gwneud y fath beth. Er hynny, yn union fel y tad yn y stori, mae Duw’n dal i’n caru ni trwy’r amser ac mae bob amser yn barod i faddau i ni os byddwn ni’n cyfaddef ein bod ni wedi gwneud camgymeriad.

Amser i feddwl

Ym mha ffyrdd eraill y gallai’r tad fod wedi ymateb i’w fab yn dod yn ôl adref? Sut bydden ni wedi ymateb?

Roedd gan y mab colledig ddigon o ffrindiau ar un adeg pan oedd digon o arian ganddo. Trafodwch beth yw ‘cyfeillion tywydd teg’ o’u cymharu â beth yw ffrindiau sy’n cynnig gwir gyfeillgarwch i chi.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n gweddïo arnat ti i faddau i ni pan fyddwn ni wedi ymddwyn yn wirion.
Pan fyddwn ni wedi mynnu cael ein ffordd ein hunain, ac wedi gwrthod gwrando ar gyngor da;
pan fyddwn ni ddim wedi ystyried meddyliau a theimladau pobl eraill.
Gad i ni fod yn barod i faddau i eraill pan fydd yn ddrwg ganddyn nhw am frifo ein teimladau ni, fel yr wyt ti’n barod i faddau i ni pan fyddwn ni’n gwneud rhywbeth o’i le.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon