Y mab colledig (Rhan 2)
Dydi hyn ddim yn deg!
gan Laurence Chilcott
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Archwilio’r themâu cenfigen a malais wrth ystyried perthynas ag eraill.
Paratoad a Deunyddiau
- Mae’n well cynnal y gwasanaeth hwn a’r gwasanaeth ‘Y Mab Colledig (Rhan 1)’ yn eu trefn ar ddau ddiwrnod dilynol neu’r naill wythnos ar ôl y llall.
- Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a thri phlentyn, naill ai i ddarllen neu i actio rhannau’r tad a’r mab a’r gwas yn y stori. Byddai’n dda ymarfer y rhannau hyn o flaen llaw.
Gwasanaeth
Arweinydd Fe fyddwch chi’n cofio’r stori y gwnaethom ei chlywed yn y gwasanaeth diwethaf, yr un a adroddodd Iesu am y mab a werthodd ei ran ef o’r hyn yr oedd i’w hetifeddu o fferm ei dad, ac a aeth wedyn i fyw i’r ddinas gan fwriadu mwynhau ei hunan. Fe fyddwch chi’n cofio hefyd ei fod, yn y diwedd, wedi penderfynu ei fod wedi gwneud camgymeriad mawr, ac wedi mynd yn ei ôl adref i ofyn i’w dad faddau iddo. Er mawr syndod iddo, fe wnaeth ei dad faddau iddo ar unwaith a chynnal parti mawr i’w groesawu adref. Dyna’r rhan yn y stori yr oeddem wedi ei chyrraedd y tro diwethaf. Ond wnaeth Iesu ddim dod â’r stori i ben yn y fan honno – fe soniodd Iesu am y mab arall hefyd, y mab hynaf a oedd wedi aros gartref ar fferm ei dad..
Y Mab Colledig(parhad)
Roedd yn ddrwg gan y mab hynaf weld ei frawd iau yn gadael y fferm. Yn ddistaw bach efallai ei fod wedi bod ychydig yn genfigennus ohono ar y dechrau, ond roedd yn teimlo ei fod eisiau bod yn ffyddlon i’w dad ac roedd yn hapus i aros yno a dal ati gyda’i fywyd ar y fferm. Roedd yn gwybod y byddai gweddill y fferm yn dod yn eiddo iddo ef ryw ddiwrnod, yn awr bod ei frawd wedi cael ei siâr ac wedi mynd. Fe fyddai popeth y byddai ei dad ag ef yn ei wneud wedyn i ddatblygu’r fferm yn dod yn y pen draw i’w ran ef. Fyddai gan ei frawd ddim hawl mwyach ar unrhyw ran o’r fferm, waeth pa mor llwyddiannus y byddai’r fferm yn datblygu wedyn.
Yn ystod yr holl amser y bu’r brawd iau oddi cartref, fe weithiodd y brawd hynaf yn galed iawn ar y fferm ac fe ddaeth yn fferm lewyrchus iawn. Ambell waith, fe fyddai’r brawd hynaf yn meddwl am ei frawd iau ac yn ceisio dychmygu beth oedd yn ei wneud. Ond yn gyffredinol yr oedd yn rhy brysur i feddwl llawer amdano - roedd cymaint o bethau i’w gwneud ar y fferm. Roedd yn fferm fawr iawn, ac ambell dro, pan fydda’i adeg geni’r wyn bach, neu pan fyddai bleiddiaid o gwmpas y lle yn bygwth lladd anifeiliaid y fferm, fe fyddai’r mab hynaf allan yn y caeau am ddyddiau ar y tro, yn cysgu yn yr awyr agored neu mewn lloches arw.
Roedd hi’n gynnar gyda’r nos ar ôl cyfnod felly o fod i ffwrdd yn gwarchod yr anifeiliaid yn y caeau, ac yntau’n dod yn ei ôl at y ty, pan sylwodd bod rhywbeth gwahanol i arfer yn digwydd yno. Roedd yn gallu arogli bwyd da’n cael ei goginio ac yn gallu clywed swn cerddoriaeth. Fe welodd un o’r gweision yn codi dwr o’r ffynnon ac fe ofynnodd iddo beth oedd yn digwydd.
Darllenydd 1 Mae dy frawd wedi dod yn ôl adref, ac mae dy dad wedi trefnu gwledd fawr i’w groesawu’n ôl, am ei fod mor falch ei fod wedi dod adre’n ddiogel.
Arweinydd Doedd y brawd hynaf prin yn gallu credu’r hyn roedd yn ei glywed. Pam y dylai ei frawd, yr un a adawodd ei dad a’r fferm, gael ei drin mor dda? Pam roedd y ffaith ei fod wedi dod adre’n achos dathlu o gwbl? Roedd yn teimlo mor ddig a chwerw ynghylch yr hyn oedd yn digwydd fel y penderfynodd beidio â mynd i mewn i’r ty tra roedd pawb wrthi’n gwledda ac yn cael parti mawr.
Pan glywodd y tad bod y mab hynaf y tu allan ac yn gwrthod dod i mewn i’r ty, fe aeth allan ato.
Fe allai’r tad weld pa mor anhapus yr oedd y mab hynaf, ond fe erfyniodd arno ddod i mewn ac ymuno yn y dathlu. Roedd y tad wedi synnu bod ei fab hynaf yn teimlo fel hyn ac roedd yn methu â chredu nad oedd yn llawen fel roedd ef, am fod y mab ieuengaf wedi dod yn ei ôl. Fe synnodd wrth glywed y dicter yn ei lais pan ddywedodd y mab hynaf fel hyn:
Darllenydd 2 Rydw i wedi gweithio’n galed i chi am yr holl flynyddoedd hyn y mae fy mrawd wedi bod i ffwrdd oddi cartref. Oherwydd fy mod i wedi gweithio â’m holl egni mae eich fferm chi wedi tyfu ac wedi ffynnu. Rydw i wedi gwneud popeth rydych chi wedi gofyn i mi ei wneud hen gwyno dim. Nawr, mae fy mrawd, yr un a aeth i ffwrdd ac a wastraffodd ei arian yn y ddinas, yn cael parti mawr gennych chi. Wnaethoch chi erioed wneud dim byd fel hyn i mi er i mi fod yma gyda chi drwy’r amser - dydi hyn ddim yn deg o gwbl!
Arweinydd Rhoddodd y tad ei fraich am ysgwyddau’r mab hynaf ac egluro iddo:
Darllenydd 3 Rwyt ti, fy mab hynaf yma gyda fi bob amser, ac mae popeth sy’n eiddo i mi yn mynd i fod yn eiddo i ti. Roedd dy frawd wedi bod yn ffôl, a phan aeth i ffwrdd oddi cartref, fe allai unrhyw beth fod wedi digwydd iddo. Fe allai fod wedi mynd yn ddigartref, fe allai fod wedi gorfod mynd i’r carchar, fe allai fod wedi marw hyd yn oed a ninnau’n ei golli am byth. Ond, mae wedi dod yn ei ôl. Mae’n teimlo’n ddrwg iawn am yr hyn mae wedi ei wneud, ac mae’n gwybod nad yw’n haeddu’r dathliad. Ond, oherwydd ei fod wedi dod yn ei ôl rydw i eisiau rhoi croeso iddo, ac fe hoffwn i pe byddet ti’n hapus i’w weld hefyd. Roedd ar goll ond nawr mae wedi dod i’r golwg eto. Tyrd i’r ty i ymuno â ni i’w groesawu’n ôl.
Arweinydd Beth ydych chi’n ei feddwl wnaeth y mab hynaf? Aeth o i mewn i’r ty gyda’i dad? Pan adroddodd Iesu’r stori, wnaeth o ddim dweud beth wnaeth y mab hynaf, ond mae’n amlwg bod rheswm pam ei fod wedi adrodd y rhan hon o’r stori. Roedd yn dangos i ni, pan fyddwn ni’n cyfaddef ein bod wedi gwneud rhywbeth o’i le, mae Duw’n barod i faddau i ni a dathlu. Efallai ei fod hefyd eisiau dangos i ni ein bod ni ambell waith ddim yn gwerthfawrogi pa mor lwcus ydyn ni a’n bod yn aml yn cymryd pethau’n ganiataol. Mae hefyd yn wir y gallwn ni fod yn eiddigeddus pan fydd pobl eraill yn fwy llwyddiannus na ni yn hytrach na bod yn hapus gyda nhw.
Amser i feddwl
Ystyriwch sut roedd y tad yn teimlo, a sut roedd y brawd hynaf yn teimlo, a’r brawd ieuengaf - ym mhob rhan o’r stori.
Faint o bethau sy’n berthnasol i’n cartrefi a’n teuluoedd rydyn ni’n aml yn eu cymryd yn ganiataol?
Gweddi
Dduw Dad,
Helpa ni i fod yn falch o lwyddiant pobl eraill.
Pan fydd rhywun yn llwyddo, boed i ni fod yn hapus i’w llongyfarch.
Pan fydd rhywun yn methu, helpa ni i’w cysuro.
Maddau i ni pan fyddwn ni’n cymryd pethau’n ganiataol, a helpa ni i werthfawrogi’r holl bethau da sydd gennym ni.
Amen.