Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dyfarnwr!

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Meddwl pa mor bwysig yw chwarae yn ôl y rheolau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe allech chi gasglu ynghyd rai ‘props’ i wneud y cyflwyniad yn fwy diddorol, pethau fel stop wats, darn arian, chwiban, llyfr nodiadau a cherdyn melyn a cherdyn coch, ond dewisol yw’r pethau hyn.
  • Casglwch ddelweddau o bethau fel motiff cwpan y Byd a llun dyfarnwr, i’w defnyddio fel cefndir, a threfnwch fodd o ddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).
  • Nodwch, er ein bod yn cyfeirio yma at ornest Cwpan y Byd, fe fyddai’n bosib defnyddio’r gwasanaeth hwn mewn perthynas â gêm derfynol Cwpan yr FA hefyd, neu unrhyw dwrnamaint pêl-droed pwysig arall.

Gwasanaeth

  1. Cyfeiriwch at Dwrnamaint Cwpan y Byd fydd yn cael ei gynnal ym Mrasil (Mehefin 2014).  Bydd timau o 32 o wledydd yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth, ond bydd tîm o 91 o bobl o 43 gwlad wahanol hefyd yn chwarae rôl hanfodol yn y gemau.

  2. Dangoswch, yn eu tro, y darn o arian, y stop wats, y chwiban ac ati, os byddwch yn eu defnyddio, a gwahoddwch y plant i gydnabod eu harwyddocâd.

    Nodwch fod 23 o bobl ar y maes yn ystod gêm bêl-droed, a 2 arall yn rhedeg yn gyfochrog ag ef. Anghofir yn aml am y dyfarnwr a'r cynorthwywyr, ond mae ganddyn nhw rannau hanfodol i'w chwarae yn y gêm.

  3. Gwnewch hi'n glir bod y dyfarnwr yn sicrhau bod y gêm yn cael ei chwarae yn unol â deddfau (neu reolau'r) gêm.  Mewn sgwrs, adolygwch beth yw rôl y dyfarnwr.

    Dim ond y dyfarnwr sydd â'r hawl i atal neu ddechrau'r chwarae. Gall ef neu hi rybuddio neu anfon chwaraewyr oddi ar y maes am gamymddwyn (peidio â chadw at y rheolau).  Rhaid i bawb ddilyn a pharchu penderfyniadau'r dyfarnwr. A rhaid i'r dyfarnwr fod yn hollol deg â'r ddwy ochr.

  4. Gwahoddwch bawb i ystyried pam fod chwarae'n unol â'r rheolau'n bwysig. Gwnewch yn glir bod rheolau gêm yn cadw pawb yn ddiogel. Maen nhw hefyd yn amcanu i gadw'r gêm i lifo'n rhwydd fel ei bod yn fwynhad i'w chwarae ac i'w gwylio. Mae Cwpan y Byd yn bosib yn unig oherwydd bod timau o wahanol wledydd yn chwarae gan gadw at yr un rheolau - rheolau'r Gymdeithas Bêl-droed.

  5. Soniwch fod dyfarnwyr yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd, ac ar adegau maen nhw'n gwneud camgymeriadau. Maen nhw'n aml yn cael eu beirniadu, ac yn gorfod goddef cael eu difrïo gan gefnogwyr. Gwahoddwch bawb i ddychmygu eu hunain yn y sefyllfa honno. Sut deimlad yw hwnnw?

    Gofynnwch i'r plant, ‘Pam fod dangos parch tuag at y dyfarnwr yn bwysig?’ Dywedwch, heb ddyfarnwr i orfodi'r rheolau, fe fyddai'n amhosib gallu mwynhau gêm deg a diogel.

  6. Gorffennwch trwy sôn bod presenoldeb y dyfarnwr mewn gêm bêl-droed yn amlygu'r pwysigrwydd o chwarae'n unol â'r rheolau.

    Mae tegwch, diogelwch a chydweithrediad yn bethau hanfodol yn y byd drwyddo draw. Sut bydd bod ag ystyriaeth o reolau a pharch tuag at bobl eraill yn galluogi aelodau o gymuned yr ysgol i fwynhau gwaith tîm a chyflawni eu hamcanion heddiw?

Amser i feddwl

Gwahoddwch bawb i fyfyrio ar reolau Iesu ynghylch sut i fyw  – caru Duw, caru cymydog a charu eich hunan.

Neu, o osod hyn mewn ffordd arall, fe allech chi ddweud parchu Duw, parchu pobl eraill a pharchu eich hunan.

Beth yw eich rheolau chi ar gyfer eich bywyd?

Gweddi dyfarnwr
Helpa fi:
i wybod y gwahaniaeth rhwng beth sy’n iawn a beth sydd ddim yn iawn,
i farnu’n deg,
a pharchu eraill
heddiw a phob amser.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon