Helo, Sgryffi! Rhannu - y bachgen a roddodd ei bicnic i Iesu
gan the Revd Sylvia Burgoyne
Addas ar gyfer
- Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1
Nodau / Amcanion
Annog y plant i fod yn hael gyda’r rhai sydd mewn angen.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
- Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi’n barod am eich llaw.
- Chwiliwch am ddelweddau o blant sy’n newynog (gwiriwch yr hawlfraint) a threfnwch fodd o ddangos y delweddau yn ystod y gwasanaeth.
Gwasanaeth
- Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’
Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol:
Mae Liwsi Jên yn byw ar fferm gyda’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau! - ‘Wnei di byth ddyfalu beth ddigwyddodd mi heddiw, Sgryffi!’, gwaeddodd Liwsi Jên wrth iddi redeg i mewn i’r stabl at Sgryffi, ar ôl yr ysgol, un diwrnod. ‘Pan aeth Mam â fi i’r ysgol heddiw, fe wnes i adael fy mocs bwyd yn y car! Pan ganodd y gloch amser cinio, fe wnes i fynd gyda’r plant eraill at y silff yn y dosbarth lle byddwn ni bob amser yn rhoi ein bocsys bwyd i gadw – ond doedd fy mocs bwyd i ddim yno! Felly, dyna lle’r oeddwn i, yn eistedd wrth y bwrdd yn y neuadd, gyda fy mol yn grwgnach eisiau bwyd, a finnau â dim byd i’w fwyta! Fe welodd Bronwen fy mod i’n mynd i ddechrau crio, ac fe aeth i ddweud wrth yr athrawes oes yn gofalu amdanom yn y neuadd ginio. Fe ddaeth hi ataf i ofyn beth oedd o’i le. “O, Mrs Davies, rydw i wedi anghofio fy mocs bwyd. Rhaid fy mod i wedi ei adael o yn y car, dywedais wrthi. “Paid â phoeni,’ meddai hi, ac fe ofynnodd hi i’r plant i gyd stopio bwyta am funud a gwrando ar yr hyn oedd ganddi hi i’w ddweud. “Does gan Liwsi Jên ddim byd i’w fwyta. Ydych chi’n meddwl y gallech chi rannu ychydig bach o’ch bwyd chi gyda hi?” Beth wyt ti’n ei feddwl ddigwyddodd wedyn, Sgryffi?’
Ydych chi’n gallu dyfalu?
- ‘Chefais i erioed y fath wledd, Sgryffi. Fe wnaeth fy ffrindiau i gyd roi tamaid bach o’u bwyd nhw i mi, a rhai o’r plant o’r dosbarthiadau eraill hefyd – rhai doeddwn i ddim yn eu hadnabod hyd yn oed. Roedd gen i gymaint o fwyd, fe fu’n rhaid i Mrs Davies roi llawer ohono yn ôl i’r plant - brechdanau, caws, afalau a ffrwythau eraill, a sudd hefyd. Pan ddaeth Mam i fy nôl i yn y pnawn, roedd golwg bryderus arni. Dim ond yr adeg honno yr oedd hi wedi gweld fy mocs bwyd i ar lawr y tu ôl i’w chadair yn y car. Roedd hi’n meddwl y byddwn i’n teimlo eisiau bwyd yn fawr iawn erbyn hynny, ond roedd hi’n chwerthin pan ddywedais i faint o fwyd yr oeddwn i wedi ei gael gan yr holl blant. “Wel, mae gen ti ffrindiau da,” meddai. “Mae’n ardderchog pan fydd pobl yn barod i rannu.”’
Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.
- Un bore, gan gario’i becyn bwyd, fe aeth bachgen bach o’r enw Jacob allan i’r wlad gyda thyrfa o bobl o’r pentref lle’r oedd yn byw. Roedden nhw’n mynd i wrando ar Iesu’n siarad gyda’r bobl, ac roedd Jacob wrth ei fodd pan wnaethon nhw gyrraedd gan fod Iesu eisoes wedi dechrau siarad gyda’r bobl. Roedd tyrfa fawr yn gwrando ar Iesu’n adrodd storïau am Dduw..
Eisteddodd pawb ar y ddaear, ac roedden nhw’n gwrando ar y naill stori ar ôl y llall. Roedd storïau Iesu mor ddiddorol doedd y bobl ddim wedi sylweddoli faint o’r gloch oedd hi. Clywodd Jacob un o ffrindiau Iesu’n dweud wrtho am anfon y bobl i brynu bwyd iddyn nhw’n hunain yn y pentrefi o gwmpas. Ond roedd Iesu’n gwybod fod ar bawb eisiau bwyd, ac fe ofynnodd i’w ffrindiau fynd o gwmpas y dyrfa i weld oedd gan rywun rywfaint o fara y gallen nhw ei roi iddo felly gallai ei rannu i’r bobl.
Pan glywodd Jacob hyn, fe neidiodd ar ei draed a rhedeg at Iesu gan ddweud, ‘Syr, fe allwch chi gael fy mwyd i.’ Gwenodd Iesu ar Jacob gan dderbyn ei becyn bwyd yn ddiolchgar. Roedd ganddo bum torth fach o fara a dau bysgodyn. Yna, fe ddechreuodd Iesu dorri’r bara a’r pysgod yn ddarnau. Fe roddodd y darnau i’r deuddeg ffrind oedd ganddo’n ei helpu, i’w rhannu i’r bobl yn y dyrfa, fel y gallai pawb gael rhywbeth i’w fwyta. Roedd yno dros bum mil o bobl, ac eto fe gafodd pawb ddigon i’w fwyta – yn cynnwys Jacob! Ac roedd hyd yn oed llond deuddeg basged o fwyd ar ôl wedi i bawb gael digon. Roedd Jacob wedi synnu bod Iesu wedi gallu bwydo’r holl bobl gyda’i becyn bwyd bach ef.
Amser i feddwl
Beth ydych chi wedi ei gael i’w fwyta heddiw?
Allwch chi feddwl am blant sydd heb gael unrhyw beth i’w fwyta ac sy’n teimlo’n newynog iawn. Ydych chi’n gwybod pam eu bod yn newynog?
Gweddi
Annwyl Iesu,
Diolch i ti am y byd.
Diolch am ein bwyd, bob pryd.
Diolch am yr haul a’r glaw.
Diolch, Dduw, am bopeth ddaw.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2014 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.