Newid a thyfu
gan Alison Thurlow
Addas ar gyfer
- Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1
Nodau / Amcanion
Edrych ar ‘newid’ mewn ffordd gadarnhaol.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen setiau o’r delweddau canlynol, a’r modd o’u dangos yn y gwasanaeth:
– lindysyn a phili-pala
– penbwl a broga
– cyw alarch ac alarch
– ebol a cheffyl
– hedyn a phlanhigyn
– baban, plentyn ac oedolyn. - Ymgyfarwyddwch â stori Sacheus (Luc 19.1–10).
- Dewiswch fersiwn o’r stori a fyddai’n addas i’w darllen i’r plant.
Gwasanaeth
- Yn y gwasanaeth hwn rydyn ni’n mynd i feddwl am y thema ‘newid’, ac fe wnawn ni ddechrau trwy gynnal cwis bach syml.
Mae gen i luniau i chi edrych arnyn nhw – lluniau o bethau sy’n newid. Allwch chi ddweud beth yw pob un o’r lluniau cyntaf ym mhob set, a dweud wedyn i ba beth mae’r pethau hyn yn newid ymhen amser?
Fe ddylai’r plant nodi fod y lindysyn yn newid i fod yn bili-pala, y penbwl yn newid i fod yn froga, y cyw alarch yn newid i fod yn alarch hardd, yr ebol yn newid i fod yn geffyl, yr hedyn yn tyfu’n blanhigyn, a’r babi’n tyfu i fod yn blentyn ac yn oedolyn wedi hynny. - Os meddyliwch chi am funud, mae pob un ohonom wedi mynd trwy’r broses o dyfu o fod yn fabanod. Ychydig flynyddoedd yn ôl, babanod bach oeddech chi, bob un ohonoch chi, ond edrychwch arnoch chi heddiw!
Rydyn ni’n mynd i feddwl ychydig rhagor yn awr am sut rydych chi wedi newid ers pan ddaethoch chi i’r ysgol hon gyntaf.
Gofynnwch i’r plant droi at y plant agosaf atyn nhw a dweud yn dawel wrth y naill a’r llall ym mha ffordd maen nhw wedi newid ers pan ddaethon nhw i’r Dosbarth Derbyn gyntaf erioed. Gofynnwch i rai o’r plant rannu gyda chi beth oedd eu hatebion.
- Yn awr rydyn ni’n mynd i glywed stori o’r Beibl am ddyn o’r enw Sacheus. Gwrandewch yn ofalus, a cheisiwch feddwl sut y newidiodd Sacheus yn ystod y stori.
Adroddwch stori Sacheus mewn ffordd ryngweithiol sy’n annog y plant i ymuno yn y stori – efallai trwy blygu ymlaen neu swatio ychydig bob tro y byddwch chi’n dweud y gair ‘bach’, ymddangos yn grintachlyd bob tro y byddan nhw’n clywed enw Sacheus, a gwneud wyneb trist pan fyddwch chi’n sôn am y bobl sy’n cael eu twyllo ganddo, ac ati.
- Allwch chi ddweud sut y newidiodd Sacheus yn ystod y stori, o’r math o ddyn oedd o ar y dechrau i’r math o ddyn oedd o ar y diwedd? Tybed sut y llwyddodd o i newid cymaint yn yr amser byr hwnnw?
- Pwysleisiwch fod hon yn stori dda am ei bod yn dangos y gall pawb newid er gwell, os byddan nhw’n dymuno gwneud hynny.
Amser i feddwl
Rydyn ni wedi siarad am ddau fath o newid heddiw: y math o newid sy’n digwydd i ni wrth i ni dyfu, a’r math o newid sy’n digwydd pan fyddwn ni wedi gwneud rhywbeth sydd ddim yn iawn a ninnau’n dymuno ymddwyn mewn ffordd wahanol yn y dyfodol.
Nawr, gadewch i ni eistedd yn dawel a meddwl am ddau fath arall o newid, a meddwl sut gallwn ni ymdopi â’r rhain yn yr un ffordd.
– Ceisiwch fwynhau’r pethau newydd fydd yn dod i’ch rhan yn eich dosbarth newydd ym mis Medi, ac ewch amdani i geisio gwneud llawer o bethau newydd!
– Oes rhywbeth yn y ffordd y byddwch chi’n ymddwyn, neu’n trin pobl eraill, sydd o ddifri angen ei newid er gwell pan ddaw pawb yn ôl i’r ysgol ym mis Medi?
Gweddi
Annwyl Arglwydd Iesu,
Diolch dy fod ti wedi helpu Sacheus i ddod yn berson mwy dymunol.
Diolch hefyd y galli di ein helpu ninnau i newid, os gofynnwn ni i ti wneud hynny.
Helpa fi i fwynhau fy nosbarth newydd ym mis Medi.
Amen.