Yr un fath ond yn wahanol
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Dangos bod mwy nag un ffordd o gyrraedd ein nod mewn bywyd.
Paratoad a Deunyddiau
- Ysgrifennwch naill ai’r rhif 10 neu’r rhif 20 ar fwrdd gwyn, yn dibynnu ar oedran y plant sydd yn y gwasanaeth.
Gwasanaeth
- Gofynnwch i’r plant feddwl am s?m yn eu pen y mae’r ateb iddi yn 10 ( neu’n 20).
Gofynnwch i blentyn ddweud wrthych chi beth oedd ei s?m. Ysgrifennwch hon ar y bwrdd gwyn.
Oedd rhywun arall wedi meddwl am yr un s?m?
Gofynnwch i ychydig rhagor o blant o wahanol ddosbarthiadau am symiau eraill a, phob tro, ysgrifennwch y s?m ar y bwrdd gwyn.
Ychwanegwch rai symiau mwy cymhleth eich hunan fel, er enghraifft, wythfed ran o 80.
Nodwch y gallwn ni wneud 10 (neu 20) trwy adio tynnu, lluosi, a hyd yn oed rhannu. - Nodwch fod pob un o’r atebion yr un fath, ond fe ddaethon ni at yr ateb mewn sawl ffordd wahanol. Eglurwch mai dyna sy’n digwydd bob amser pan fydd gennym ni amrywiaeth o blant yn y dosbarth. Mae gennym ni i gyd ein syniadau gwahanol ein hunain ynghylch sut i wneud pethau. Yr hyn sy’n bwysig yw, nid y dull o wneud rhywbeth, ond cyrraedd at y nod.
- Mae dywediad adnabyddus sy’n dweud, ‘Mae sawl ffordd o gael Wil i’w wely.’ Neu, fe allech chi ddweud ‘Mae ffordd o goginio wy.’
O ran diddordeb holwch y plant sut maen nhw’n hoffi eu hwyau? Gofynnwch iddyn nhw godi eu llaw i ddangos ydyn nhw’n hoffi wy wedi’i ferwi, wedi’i sgramblo, wedi’i botsio, neu wedi ei goginio fel omelette efallai?
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn bwyta wyau, ond yn aml fe fydd gennym ein hoffter o’r dull y byddan nhw wedi cael eu coginio. - Yn y Beibl, mae stori am ddau Gristion o’r enw Paul a Barnabas. Roedd y ddau yn awyddus i dreulio’u hamser yn dweud wrth eraill am y newyddion da am Iesu a chariad Duw, ond roedd y ddau yn gwneud y gwaith hwnnw mewn ffyrdd gwahanol iawn i’w gilydd.
Roedd Paul yn athro dawnus iawn. Roedd yn gyfarwydd iawn â neges Duw ac roedd yn dda iawn am egluro’r neges i’r bobl. Ac fe fyddai’r bobl yn ei ddeall yn dda.
Roedd Barnabas yn cael ei alw’n ‘Fab Anogaeth’ neu ‘Yr Anogwr’. Roedd yn berson gwych i’w gael yn gwmni i chi pe byddech chi’n teimlo’n isel eich ysbryd. Fe fyddai’n dweud, ‘Da iawn, fy ffrind, rwyt ti’n gwneud yn ardderchog.’
Fe ffurfiodd y ddau bartneriaeth dda. Roedd ffyrdd y ddau o wneud pethau’n wahanol iawn i’w gilydd, roedd eu personoliaethau’n wahanol ac roedd gwahanol ddoniau ganddyn nhw, ond fe deithiodd y ddau ledled ardaloedd Môr y Canoldir, gan ledaenu neges Iesu. Yr un oedd eu nod. - Yr un yw ein nod ni yn yr ysgol hon ar gyfer pob plentyn. Rydyn ni eisiau i bob un ohonoch chi gael yr addysg orau. Fe fydd hynny’n rhywbeth gwahanol i bob un ohonoch chi. Rydyn ni i gyd yn meddwl mewn ffordd wahanol i’n gilydd, fe allwn ni ddod i ganlyniadau mewn gwahanol ffyrdd, fe fyddwn ni’n canfod bod gennym ni wahanol gryfderau a gwendidau. Dyna beth sydd mor arbennig am deulu ysgol – rydyn ni i gyd yr un fath ond i gyd yn wahanol.
Amser i feddwl
Gadewch i ni ddathlu ein tebygrwydd a’n gwahaniaethau.
Treuliwch foment neu ddwy yn dathlu’r ffordd y byddwch yn gwneud pethau, ac yn dathlu’r doniau sydd gennych chi.
Nawr, meddyliwch am ffrind yn eich dosbarth. Dathlwch y ffordd y bydd ef neu hi’n gwneud pethau, a dathlu’r doniau sydd ganddo ef neu ganddi hi.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch ein bod i gyd mor wahanol i’n gilydd.
Diolch i ti am ein personoliaethau, ei doniau a’n talentau, a diolch ein bod yn unigryw. Helpa ni i werthfawrogi ein gilydd ac i ddathlu ein gwahaniaethau.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Medi 2014 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.