Hunanreolaeth: Ffrwythau'r Ysbryd
Meddyliwch cyn gwneud rhywbeth
gan Manon Ceridwen James
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Meddwl am hunanreolaeth fel ffrwyth yr ysbryd.
Paratoad a Deunyddiau
- Meddyliwch trwy senario lle byddai angen hunanreolaeth mewn bywyd ysgol er mwyn paratoi grwp o dri neu bedwar o blant i actio mewn drama chwarae rôl, fer. Yr awgrymiad sy’n cael ei roi yma yw bod grwp o blant yn taro yn erbyn plentyn arall yn anfwriadol. Yn gyntaf, caiff y senario ei hactio gyda’r plentyn yn troi’n ddig ac yn dymuno taro’n ôl. Yna caiff ei hactio am yr ail dro, ond y tro hwn gyda’r plentyn yn derbyn mai rhywbeth a ddigwyddodd yn anfwriadol oedd hyn ac yn dangos hunanreolaeth.
Gwasanaeth
- Eglurwch i’r plant eich bod yn mynd i feddwl heddiw am y gair ‘hunanreolaeth’. Cysylltwch hyn â gwasanaethau blaenorol am ffrwythau’r ysbryd os ydych chi wedi eu defnyddio cyn hyn.
- Trafodwch beth yw ystyr ‘hunanreolaeth’. Oes gan y plant unrhyw syniadau?
Archwiliwch gyda’r plant sut maen nhw’n gorfod meddwl cyn ymateb i sefyllfa. Oherwydd ambell dro nid yw’r hyn maen nhw’n teimlo eu bod eisiau ei wneud yn beth iawn i’w wneud. Ydyn nhw wedi clywed rhywun yn gofyn iddyn nhw gyfrif i ddeg cyn ymateb i rywbeth y mae rhywun arall wedi ei ddweud neu wedi ei wneud?
Mae hynny oherwydd ei bod yn bwysig meddwl cyn ymateb. Mae cymryd dim ond deg eiliad yn ein helpu i feddwl am sut rydyn ni’n teimlo, a meddwl am beidio â gwylltio, os oes angen, ac yna fe allwn ni reoli’r ffordd rydyn ni’n ymateb. - Siaradwch am sut mae’n rhaid i chi eich hunan hefyd ymarfer hunanreolaeth. Er enghraifft, fe allech chi ddweud rhywbeth fel eich bod yn ceisio peidio â phrynu gormod o siocledi a chreision oherwydd eu bod yn ddau beth nad oes gennych chi ond ychydig iawn o hunanreolaeth yn eu cylch. Os byddwch chi’n gwybod bod bar o siocled yn y ty, rydych chi’n ei chael hi’n anodd iawn gwrthsefyll y demtasiwn o’i fwyta!
- Mae’n bwysig bod â hunanreolaeth bob amser, mae’n bwysig i ni ein hunain ac i bobl eraill. Eglurwch pe byddech chi’n bwyta bar o siocled bob tro y byddwch chi’n meddwl am siocled fe fyddai eich arian wedi mynd i gyd – a fyddai bwyta cymaint o siocled ddim yn dda iawn i’ch iechyd chi ychwaith!
- Felly hefyd, mae ymarfer hunanreolaeth yn bwysig iawn wrth ymwneud â’n teuluoedd, ac yn yr ysgol, er mwyn i bawb fod yn hapus a diogel.
- Gofynnwch i’ch actorion (tri neu bedwar) ddod ymlaen i berfformio eu drama fach am hunanreolaeth. Mae dau neu dri ohonyn nhw’n actio rhedeg i mewn i’r ysgol ac yn taro (yn ysgafn) yn erbyn y plentyn arall yn anfwriadol ar eu ffordd. Mae’r plentyn sydd wedi cael ei daro’n actio fel pe byddai’n ymateb i’r digwyddiad yn ddig iawn ac yn ymosodol (trwy godi ei ddyrnau ac efallai trwy fownsio o gwmpas fel bocsiwr yn paratoi i daro’n ôl – ond heb fod yn gwneud hynny go iawn). Yna, dywedwch wrth yr actorion am gymryd saib o’r chwarae rôl am y tro.
- Archwiliwch sut mae’r plentyn wedi dangos diffyg hunanreolaeth – a sut y gallai hynny fod wedi gwneud pethau’n waeth. Yn hollol anfwriadol y digwyddodd y peth, ond pe byddai’r plentyn yn parhau i ymateb mor ddig a tharo’n ôl, fe allai’r sefyllfa fod wedi troi’n ymladdfa.
- Trafodwch gyda’r plant beth fyddai’r ffordd orau i ymateb i’r sefyllfa hon. Yna gofynnwch i’r actorion chwarae’r un rôl eto. Mae’r plant yn rhedeg i mewn ac yn taro yn erbyn y plentyn eto. Ond y tro hwn, maen nhw’n ymddiheuro’n fawr i’r plentyn ac yn holi a yw’n iawn. Mae’r plentyn yn dweud, ‘Ydw, diolch, popeth yn iawn.’ Ac mae’r plant yn mynd ymlaen i’w dosbarthiadau.
Amser i feddwl
Meddyliwch am adeg pan oedd gennych chi ddewis ynghylch sut i ymateb pan wnaeth rhywun rywbeth i chi nad oeddech chi’n ei hoffi.
Beth ddigwyddodd? Beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol nawr?
Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i ddangos hunanreolaeth yn ein bywyd ein hunain ac ym mywyd ein hysgol.
Helpa ni i feddwl cyn gweithredu.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Medi 2014 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.