Ffyddlondeb
Gelert y ci ffyddlon
gan Manon Ceridwen James
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Meddwl am ffyddlondeb trwy gyfrwng stori am gi ffyddlon.
Paratoad a Deunyddiau
- Ymgyfarwyddwch â stori Gelert, sy’n cael ei hadrodd yma yn y rhan ‘Gwasanaeth’.
- Efallai yr hoffech chi chwilio am luniau o fedd y ci, ym Meddgelert, i’w dangos i’r plant.
Gwasanaeth
Gofynnwch i’r plant ydyn nhw wedi clywed stori Gelert, y ci ffyddlon? Os ydyn nhw’n gyfarwydd â’r stori, efallai yr hoffen nhw eich helpu i ailadrodd y stori.
Eglurwch fod Gelert yn enghraifft o rywun ffyddlon, yn driw i’w feistr, hyd yn oed er ei fod wedi colli ei fywyd wrth wneud hynny.
Gelert y ci ffyddlon
Yng Ngogledd Cymru, yn ardal Eryri, mae pentref o’r enw Beddgelert. Y stori yw bod y lle wedi ei enwi ar ôl bedd ci o’r enw Gelert. Pe byddech chi’n mynd yno, fe fyddech chi’n gallu cerdded at y bedd hwnnw a darllen yr hanes am y ci dewr, Gelert, ar y garreg fedd.
Dangoswch y lluniau o fedd Gelert, os byddwch yn eu defnyddio.
Yn y drydedd ganrif ar ddeg, roedd tywysog Cymreig o’r enw Llywelyn ac roedd ganddo balas yn y man lle mae’r pentref hwn sy’n cael ei alw’n Beddgelert heddiw.
Un diwrnod, fe aeth Llywelyn allan i hela gan adael ei fab bach, Dafydd, gyda Gelert a rhai eraill o’r gweision neu’r morwynion i ofalu amdano . Roedd y gweision a’r morwynion yn gwneud eu gwaith, a Gelert yn gwarchod y babi bach tra roedd yn cysgu yn ei grud.
Yn sydyn, fe ddaeth blaidd o rywle, ac roedd y blaidd ar fin ymosod ar y babi bach pan neidiodd Gelert a cheisio anfon y blaidd i ffwrdd. Bu’r blaidd a’r ci’n ymladd yn ffyrnig am sbel nes roedd gwaed dros y lle, ac fe gafodd crud y babi ei droi drosodd yn ystod yr ysgarmes.
Pan ddaeth Llywelyn yn ei ôl i’r palas, fe welodd y llanast. Fe welodd y gwaed dros bob man, a’r crud â’i ben i waered. Fe welodd bod gwaed o gwmpas ceg y ci, ac fe ddychrynodd. Roedd yn meddwl bod Gelert wedi lladd y babi. Cafodd gymaint o fraw wrth feddwl hyn, ac roedd mor ddig, fe dynnodd ei gleddyf ar unwaith a lladd Gelert.
Wrth iddo drywanu’r ci, fe udodd hwnnw, a deffro’r babi oedd wedi bod yn cysgu’n dawel ymysg y blancedi o dan y crud. Clywodd Llywelyn lais ei fab bach, ac roedd yn rhyddhad mawr iddo sylweddoli ei fod yn dal yn fyw wedi’r cyfan. Roedd Dafydd yn ddiogel! Ac yna fe sylwodd Llywelyn ar gorff blaidd mawr wedi ei ladd yn gorwedd yr ochr draw i’r crud, a dyna pryd y sylweddolodd bod Gelert wedi lladd y blaidd er mwyn achub Dafydd.
Teimlai Llywelyn yn hynod o drist wedyn. Fe ddeallodd beth oedd wedi digwydd. Roedd Gelert, ei gi ffyddlon wedi achub ei fab, ond yr oedd ef wedi lladd Gelert mewn eiliad o gamddealltwriaeth. Mae’r stori’n dweud na wenodd Llywelyn byth wedyn ar ôl y digwyddiad trist hwn - roedd wedi torri ei galon. Doedd dim modd iddo droi’r cloc yn ôl, ond fe adeiladodd fedd arbennig i gofio am Gelert, ac i gofio am ffyddlondeb a dewrder ei gi ffyddlon.
Amser i feddwl
Anogwch y plant i feddwl am eu hanifeiliaid anwes, os oes ganddyn nhw rai.
Mae cwn, yn enwedig, yn gallu bod yn ffyddlon iawn i’w perchnogion. Beth allwn ni ei ddysgu ganddyn nhw?
Ydyn ni’n ffyddlon i’n ffrindiau ac i aelodau ein teulu, ac yn barod i wneud unrhyw beth drostyn nhw?
Mae ‘ffyddlondeb’ yn golygu ein bod byth yn rhoi’r gorau i helpu pobl. Hyd yn oed pan fyddwn ni’n cweryla â’n ffrindiau ac aelodau ein teulu, mae angen i ni fod yno ar eu cyfer a gwneud pethau er eu mwyn hyd yn oed pan fyddwn ni’n anghydweld â nhw.
Holwch y plant ydyn nhw’n ffyddlon i eraill yn eu bywyd?
Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am fod yn ffyddlon i ni.
Diolch i ti am ein ffrindiau ac aelodau ein teulu sy’n ffyddlon i ni, a gofynnwn i ti ein helpu ni i fod yn ffyddlon iddyn nhw.
Amen.